Carregcynffyrdd Diweddariad terfynol ar y prosiect: Mis Hydref 2025
Prif ganlyniadau:
- Roedd canlyniadau’r grŵp a dderbyniodd driniaeth yn 166%, a’r grŵp heb driniaeth yn uwch, sef 173%. Mae hyn yn awgrymu bod y driniaeth propylen glycol, fel y’i rhoddwyd, yn aneffeithiol.
- Trwy ddisodli rhan o’r diet gyda haidd, llwyddodd fferm Carregcynffyrdd i leihau costau bwydo £0.06 fesul mamog/y dydd, gan arbed £168 ar gyfer diadell o 200 o famogiaid sy’n cario gefeilliaid dros gyfnod o bythefnos.
Cefndir:
Mae Carregcynffyrdd yn cael ei ffermio gan Carys Jones a’r teulu, lle maent yn cadw diadell o 400 o famogiaid Cymreig Llanymddyfri a 100 o famogiaid Romney croes, ynghyd â buches o 50 o wartheg sugno.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Carys wedi ymdrechu i wella effeithlonrwydd drwy addasu’r bridiau a ddefnyddir ar y fferm a chofnodi perfformiad. Roedd Carys yn awyddus i fanteisio ar y cyfle i edrych ar ddulliau cost effeithiol o fwydo mamogiaid gan sicrhau’r allbynnau gorau posibl gan y ddiadell ar yr un pryd - ffactorau allweddol sy’n gyfarwydd i lawer o ffermwyr eraill yng Nghymru dan amgylchiadau tebyg.
Nod y prosiect, lle y bo’n bosibl, oedd gwneud y defnydd gorau posibl o ffynonellau protein cynaliadwy a gynhyrchir yn lleol a lleihau’r defnydd o gynhwysion bwyd anifeiliaid drud a phrotein wedi’i fewnforio.
Diben y gwaith
- Datblygu diet cost-effeithiol ar gyfer y ddiadell trwy’r flwyddyn;
- Lleihau dibyniaeth ar gynhwysion porthiant sy’n cael eu mewnforio;
- Treialu rhoi dos o bropylen glycol i hanner y ddiadell cyn eu troi at yr hwrdd i fesur a fyddai hynny’n effeithio ar niferoedd yr ŵyn wrth sganio.
Yr hyn a wnaed:
Cafodd sgôr cyflwr corff y mamogiaid ei fonitro a chrëwyd cynllun bwydo ar gyfer y mamogiaid, gan sicrhau diet a oedd yn sicrhau gwerth am arian a oedd hefyd yn darparu egni digonol ar gyfer 8 wythnos olaf beichiogrwydd a digon o brotein ar gyfer 2-3 wythnos olaf beichiogrwydd ar gyfer cyfnod ŵyna 2024.
Sefydlwyd arbrawf ar wahân hefyd cyn y cyfnod hyrdda yn 2024 lle cafodd grŵp o famogiaid eu pwyso, gan gofnodi eu sgôr cyflwr corff, gyda phob anifail gydag odrif ar y tag clust yn derbyn dos o 25ml o bropylen glycol i asesu a fyddai hynny’n effeithio ar niferoedd ŵyn wrth sganio.
Canlyniadau:
Cynllun diet ar gyfer y ddiadell
Ar gyfer y mamogiaid cyfeb ar fferm Carregcynffyrdd, bu Carys yn gweithio gyda Fiona Lovatt o gwmni Flock Health i lunio strategaeth fwydo newydd i sicrhau’r maeth gorau posibl ynghyd â lleihau costau. Roedd dadansoddiad o fyrnau silwair yn dangos lefelau da o brotein, ond lefel isel o egni eplesadwy. Er mwyn ceisio datrys hynny, defnyddiwyd haidd i ychwanegu at lai o ddwysfwyd. Llwyddodd y dull hwn i leihau costau bwydo’n sylweddol, gyda’r haidd yn costio £158/y tunnell o’i gymharu â £365/y tunnell ar gyfer dwysfwyd yn 2024. Yn ystod pythefnos olaf beichiogrwydd, cafodd mamogiaid a oedd yn cario gefeilliaid eu bwydo ar ddiet o 500g o ddwysfwyd a 300g o haidd bob dydd, ynghyd â silwair ar sail ad-lib. Mae’r dogn hwn wedi’i deilwra’n dangos sut mae addasu porthiant yn seiliedig ar ansawdd a gofynion mamogiaid (yn seiliedig ar gyflwr corff, maint a nifer yr ŵyn maent yn eu cario) yn gallu cynnal safonau maeth gan hefyd leihau costau.
Arbrawf propylen glycol
Ar ôl trin grŵp sampl o ddefaid (gyda sgôr cyflwr corff cyfartalog o 3.2 ar adeg y driniaeth) gyda phropylen glycol ar fferm Carregcynffyrdd, nid welwyd unrhyw welliant yn y gyfradd sganio. Roedd canlyniadau sganio’r grŵp a dderbyniodd driniaeth yn 166%, a’r grŵp heb driniaeth yn uwch, sef 173%. Fodd bynnag, nid oedd y gwahaniaeth hwn yn ystadegol arwyddocaol (p=0.1). Mae hyn yn awgrymu fod y driniaeth, fel y’i rhoddwyd, yn aneffeithiol.
Mae astudiaethau eraill wedi canfod effaith gadarnhaol o ganlyniad i ddefnyddio propylen glycol i gynyddu cyfraddau ofyliad trwy roi hwb i’r egni sy’n cefnogi’r prosesau ffisiolegol sy’n arwain at ofyliad. Fodd bynnag, credir fod yr effaith hon yn para am oddeutu 12 awr yn unig. Felly, mae’n debygol o arwain at ganlyniad mwy cadarnhaol ymysg mamogiaid sydd wedi’u cydamseru.
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:
- Dadansoddwch lefelau egni a phrotein yn eich silwair fel bod modd llunio a chanfod dognau cost effeithiol cyn wyth wythnos olaf beichiogrwydd.
- Sgoriwch gyflwr corff eich mamogiaid er mwyn monitro eu cyflwr drwy gydol y flwyddyn fel bod modd gwneud addasiadau i osgoi dirywiad mewn perfformiad. Mae’n cymryd tua 6-8 wythnos ar gyfartaledd ar ddiet o ansawdd da i gynyddu sgôr cyflwr corff o un uned.
- Ystyriwch ofynion egni’r mamogiaid ar wahanol adegau o’r flwyddyn, yn seiliedig ar eu cyflwr, maint a faint o ŵyn maen nhw’n eu cario.
- Mae cymorth ar gael i ddatblygu cynlluniau maetholion drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, cysylltwch â’ch swyddog datblygu am ragor o fanylion.