Pam fyddai David yn fentor effeithiol

  • Mae David Connick wedi bod yn frwd dros drin cŵn defaid ac amaethyddiaeth drwy gydol ei oes. Mae wedi ei fagu yng Nghwm Tawe ac wedi helpu ar ffermydd lleol ers yn ifanc iawn, gan ddysgu gwerth ci defaid sydd wedi’i hyfforddi’n dda.
  • Mae blynyddoedd lawer o brofiad fel darlithydd a hyfforddwr ynghyd â'i angerdd dros hyfforddi cŵn defaid yn ei wneud yn fentor naturiol i unrhyw un sy'n awyddus i wella eu sgiliau gyda chŵn defaid neu hyfforddi cŵn. Mae David yn hyfforddi ac yn gweithio gyda nifer o fridiau gan gynnwys cŵn defaid, Kelpies, New Zealand Huntaways, Working Beardies a chŵn defaid Cymreig.
  • Tan yn ddiweddar roedd gan David rôl hirdymor gyda'r arwerthwyr a oedd yn cynnal yr Arwerthiannau Cŵn Defaid poblogaidd ym Mhontsenni, a gynhelir bob tymor yr hydref a’r gwanwyn mewn partneriaeth ag Ystâd Cnewr. Yno bu'n helpu i drin y miloedd lawer o gŵn a defaid a wnaeth hwn yn un o'r arwerthiannau cŵn mwyaf arwyddocaol yng Nghymru. Er i'r digwyddiadau newid yn y pen draw i arwerthiannau ar-lein, mae enw da David fel arbenigwr yn golygu ei fod yn parhau i weithio’n agos gyda’r sector.
  • Bellach wedi ymddeol yn rhannol, mae galw o hyd am David i hyfforddi cŵn defaid ac ar adegau casglu defaid ac ŵyna fel bugail ar gontract. Mae ei flynyddoedd o brofiad ymarferol wedi rhoi dealltwriaeth ymarferol iddo o ddefaid, cŵn a'u perchnogion hefyd!

Busnes fferm cyfredol

  • Mae David bellach yn byw ar fferm aelod agos o'r teulu, lle mae'n parhau i fod yn rhan o’r gwaith rheoli defaid.
  • Mae hefyd yn cadw ei ddefaid cymysg ei hun ar sawl safle rhent. Mae'n ffafrio defaid Hebridaidd yn arbennig oherwydd eu tymherau tawel a sylwgar hyd yn oed pan fyddant yn cael eu hel gan gŵn ifanc, dibrofiad.

Cymwysterau/cyraeddiadau/profiad

  • Profiad helaeth o reolaeth amgylcheddol a chadwraeth mewn rolau rheoli a goruchwylio sy'n cynnwys hyfforddi, rheoli a chymell staff a gwirfoddolwyr.
  • Mae David wedi magu, hyfforddi a gwerthu llawer o'i gŵn defaid ei hun yn Arwerthiannau Cŵn Defaid Pontsenni ac am dros 25 mlynedd roedd yn aml yn un o'r gwerthwyr a gyrhaeddodd y pris uchaf, diolch i'w lygad craff am ansawdd a hyfforddiant.
  • Mae'n aelod gweithgar ac yn gyn-gadeirydd Cymdeithas Treialon Bro Morgannwg ac er nad yw'n gystadleuydd ei hun, mae'n hapus i fentora eraill sydd eisiau cystadlu.

Swyddi blaenorol

  • Am dros 20 mlynedd, roedd David yn denant ar ddaliad bîff a defaid 110 erw yn Ne Cymru a oedd yn cynnwys 25,000 erw o hawliau pori, a gyfunodd hynny â swydd reoli Ystâd enwog Penllegaer.
  • Fel cyn-reolwr ceidwaid gyda'r Comisiwn Coedwigaeth, teithiodd David ledled y DU fel aseswr a gwiriwr NVQ, gan ddarparu hyfforddiant ac asesiadau ar gyfer ystod eang o bynciau’n ymwneud â’r tir a phynciau amaethyddol gan gynnwys rheoli bywyd gwyllt a rheoli ceirw. Roedd hyn yn cynnwys hyfforddi ceidwaid a chŵn gwaith i nodi ac olrhain ceirw mewn planhigfeydd trwchus, yn aml ger ffyrdd cyhoeddus.
  • Mae David wedi bod yn brif fugail ar sawl stad amaethyddol fawr ledled y DU lle bu’n goruchwylio, ysgogi a hyfforddi staff ym mhob agwedd ar reoli defaid. Un ohonynt oedd maes tanio 12,000 erw’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ne Lloegr, lle bu’n rheoli 48 cynefin ar wahân, gan redeg tîm o hyd at 20 o gŵn defaid.
  • Treuliodd gyfnod hefyd yn darlithio yng Ngholeg Technegol Castell-nedd, gan gyflwyno nifer o gynlluniau 'dychwelyd i'r gwaith' llywodraeth leol.

Awgrymiadau ar gyfer llwyddiant busnes

“Cael eich arwain gan eich ci eich hun a’i gyflymder dysgu – mae amynedd a charedigrwydd yn hanfodol. Gall cŵn ifanc golli’r gallu i ganolbwyntio, felly cadwch sesiynau hyfforddi’n bositif bob amser.

“Weithiau, gall cymryd cam yn ôl i helpu i atgyfnerthu rhai ymddygiadau helpu i greu cysondeb ym mherfformiad y ci, felly peidiwch â rhuthro cynnydd.”

“Dylid meithrin perthynas cryf gyda’ch ci, mae angen i chi ymddiried yn eich gilydd, a fydd yn eich helpu i fod yn fwy hyderus a chael y gorau o allu a pharodrwydd naturiol y ci i blesio.”