Dechrau Ffermio: Lleoliad gwaith yn Mathafarn, Llanwrin, Machynlleth

Math o fferm: Llaeth, yn seiliedig ar laswellt, adfywiol
Oriau gwaith: 05:00 - 17:00, gweithio am 12 diwrnod ac yna 2 ddiwrnod i ffwrdd. 
Lleoliad:  Mathafarn, Llanwrin, Machynlleth, Powys
Cyflog: £11-13 / yr awr (yn ddibynnol ar oedran)
Contract: Lleoliad gwaith 6 - 12 wythnos  
Dyddiad cychwyn: Mis Mawrth 2026
Llety: Oes

Disgrifiad swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymgeisydd newydd ennill sgiliau a gwybodaeth a meithrin profiad trwy weithio ar fferm laeth yn ystod tymor lloia prysur. Byddai hyn yn addas i unigolyn uchelgeisiol sydd eisiau cael rhywfaint o brofiad o’r sector llaeth a dysgu tra’n gwneud y gwaith.


Eich rheolwr

Mae Sam yn frwd dros systemau ffermio sy’n seiliedig ar laswellt a dyna pam ei fod yn datblygu model ffermio llaeth mewnbwn isel proffidiol a chynaliadwy. Mae Sam, sy’n gyfathrebwr da yn Gymraeg a Saesneg yn hoffi helpu pobl dyfu a gwella eu gweithleoedd. Mae’n ffermwr ifanc sy’n frwd am fyd amaeth a’i ffrwyth hirdymor fel diwydiant. Disgwyliwch gael eich ysbrydoli a’ch annog gan ei wybodaeth, ei brofiad personol a’i frwdfrydedd dros ‘wneud pethau’n wahanol.’ Mae Sam yn datblygu busnes ffermio llaeth sy’n canolbwyntio ar drosi glaswellt i laeth yn gynaliadwy. Mae hyn yn cael ei lywio gan lawer o ddefnydd o laswellt a phobl dda. Mae’r strwythur i gyflawni hyn yn seiliedig ar:

  • Systemau syml a da
  • Gweithlu llawn cymhelliant
  • Diwylliant gwych

Ffeithiau am y fferm

  • 350 o wartheg  
  • System yn seiliedig ar laswellt
  • Llwyfan pori 180ha
  • Trawsnewid o fîff a defaid yn 2021
  • Lloia yn yr awyr agored o fis Mawrth / Ebrill

Eich rôl

Fel rhan o’r lleoliad gwaith hwn, bydd eich rolau a’ch cyfrifoldebau’n cynnwys: 
– Cynorthwyo rheolwr y fferm gyda rheolaeth ddyddiol y fuches gan sicrhau mai lles anifeiliaid yw eich blaenoriaeth
– Gweithredu’r system bori padog a gweithio gyda rheolwr y fferm i reoli hyn. 
– Godro i safon uchel a chyson
– Gweithio gyda rheolwr y fferm i gynnal cofnodion, gan sicrhau bod data’n cael ei gadw’n gyfredol ac yn cael ei ddefnyddio er budd lles y fuches
-Trin a nodi clefydau a rhoi gwybod i reolwr y fferm am unrhyw arsylwadau.
– Gweithrediad sylfaenol y tractor a pheiriannau
– Cadw’r fferm yn ddiogel i’w gweithredu ac yn daclus yn gyffredinol
- Gwaith cynnal a chadw cyffredinol ar y fferm a ffensio

Mae’n hanfodol eich bod chi:

  • Yn ddibynadwy gyda sgiliau cadw amser da, sy’n frwd dros les stoc
  • Yn meddu ar y gallu i fod yn rhagweithiol ac achub y blaen
  • Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r awydd i gynnal perthnasoedd gwaith cadarnhaol
  • Yn mwynhau bod ar y fferm a gydag agwedd flaengar at ffermio ac arallgyfeirio
  • Gydag agwedd gadarnhaol at ddysgu

Byddai’n ddymunol pe bai gennych:

  • Brofiad o odro ac adnabod / trin clefydau
  • Trwydded yrru lawn

Y buddion

  • Cyflog cystadleuol
  • Llety a rennir am ddim  
  • Byddwch yn rhan o’r broses o fesur glaswellt a rheoli’r broses yn wythnosol
  • Byddwch yn rhan o gyfarfodydd tîm wythnosol i gael cipolwg ar reolaeth y busnes
  • Tîm angerddol a chyfeillgar sydd wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, hyfforddi staff a datblygu.
  • Tîm ifanc a chymdeithasol sy’n cael eu hannog i ymuno â chlybiau lleol a Chlybiau Ffermwyr Ifanc. 

Os ydych chi’n awyddus i ddatblygu eich gyrfa fel gweithiwr fferm neu gamu i’r sector laeth, dyma’r cyfle i chi.