Gwobrau Lantra 2025
Gwobr Cyfraniad Oes Lantra 2025
Mae’r wobr hon yn cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad ‘eithriadol ac arwyddocaol’ i amaethyddiaeth yng Nghymru.
Mr Irwedd Griffiths, Nantygochel, Dolwen, Abergele
Enillydd Gwobr Cyfraniad Oes Lantra 2025 yw’r ffermwr o Gymru, Mr Irwedd Griffiths o Nantygochel, Dolwen, Abergele, i gydnabod ei gyfraniad eithriadol a pharhaus i wasanaethau hyfforddiant amaethyddol yng Nghymru.
Am fwy na phedair degawd, mae’r ffermwr bîff a defaid hynod boblogaidd, Mr Griffiths, wedi bod yn arwain y ffordd o ran proffesiynoli a moderneiddio’r sector sgiliau’n seiliedig ar y tir yng Nghymru, gan gynorthwyo ffermwyr, coedwigwyr a garddwyr i gwblhau’r hyfforddiant a’r cymwysterau a magu’r hyder sydd arnynt ei angen i weithio’n ddiogel, yn effeithlon ac yn gynaliadwy.
Fel cyn-aelod o CFfI Betws yn Rhos ac yna’n gadeirydd sirol ar gyfer CFfI Clwyd, mae Mr Griffiths wedi cefnogi pwysigrwydd sicrhau bod gan y ffermwyr y sgiliau ymarferol a’r hunan hyder i’w defnyddio ar ffermydd teuluol ac yn y gweithle ers blynyddoedd lawer.
Ers cymryd yr awenau yn Grŵp Hyfforddi Bro Gele ym 1983, ac yna Grŵp Hyfforddi Bro Hiraethog, y ddau ohonynt yn gyn Fyrddau Hyfforddi Amaethyddol, mae Mr Griffiths wedi darparu hyfforddiant hygyrch o ansawdd uchel trwy ei dîm o hyfforddwyr proffesiynol, sydd, ers dros 40 mlynedd, wedi darparu cannoedd o gyrsiau achrededig, yn amrywio o gyrsiau ymarferol i ddefnyddio peiriannau a rheoli tir i gyrsiau busnes ac iechyd a diogelwch hanfodol.
Mae’n cael ei gydnabod fel un o’r prif ddarparwyr hyfforddiant annibynnol yng Ngogledd Cymru, ac mae wedi adeiladu rhestr sylweddol o gleientiaid gan gynnwys Cyswllt Ffermio, Lantra Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sawl Cyngor a nifer o gleientiaid eraill ledled Cymru.
Mae ymrwymiad, dull o ddatrys problemau a dealltwriaeth ddofn Mr Griffiths o fywyd amaethyddol wedi helpu i gynorthwyo sawl cenhedlaeth o ddysgwyr o bob oedran ac o amrywiaeth o sectorau ffermio, gan atgyfnerthu nifer sylweddol o fusnesau gwledig.
Dywedodd Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru mai Mr Griffiths oedd y dewis unfrydol ar gyfer y wobr eleni, a diolchodd iddo am ei gyfraniad i drawsnewid nid yn unig rhagolygon gyrfa a gallu cymaint o hyfforddeion i ennill arian, ond hefyd am roi’r cymorth a’r hyder iddynt i roi eu sgiliau newydd ar waith er budd eu datblygiad personol ac er budd ehangach y diwydiant amaeth yng Nghymru.
Gwobr Goffa Brynle Williams
Sefydlwyd y wobr hon yn 2011 i gofio am gyfraniad sylweddol y diweddar Mr Brynle Williams i amaethyddiaeth yng Nghymru fel Aelod o’r Senedd ac fel ffermwr uchel ei barch. Mae’r wobr bellach yn cael ei chyflwyno gan weddw Mr Williams, Mrs Mary Williams, i gydnabod llwyddiant ffermwr ifanc sydd wedi camu i mewn i fusnes ffermio drwy raglen ‘Dechrau Ffermio’ Cyswllt Ffermio.
Enillydd: Ynyr Pugh, Machynlleth
Cyflwynwyd Gwobr Goffa Brynle Williams 2025 i Ynyr Pugh, ffermwr ifanc galluog ac ymroddedig iawn sy’n llawn haeddu’r wobr glodfawr hon.
Magwyd Ynyr mewn cymuned amaethyddol yng nghanolbarth Cymru, a dechreuodd ei angerdd dros amaethyddiaeth pan oedd yn ifanc iawn, wedi iddo gael ei ysbrydoli drwy helpu ei daid, a bod yn rhan o fudiad y Ffermwyr Ifanc. Ar ôl astudio Amaethyddiaeth yng Ngholeg Glynllifon a Phrifysgol Aberystwyth, treuliodd chwe thymor yn cneifio yn Seland Newydd a bu’n gweithio ar ffermydd yn Norwy a Ffrainc. Yng Nghymru, mae wedi bod yn rhedeg ei fusnes cneifio ei hun ac yn gweithio fel contractwr amaethyddol.
O ganlyniad i’w waith caled, ei agwedd benderfynol a chymorth drwy wasanaeth Dechrau Ffermio Cyswllt Ffermio, mae Ynyr bellach yn bartner busnes ar fferm 600 erw yn Nyffryn Dyfi. Gan weithio’n agos gyda’r teulu Ryder, a oedd eisiau osgoi camu’n ôl yn gyfan gwbl o’r fferm er nad oedd aelodau’r teulu’n awyddus i gymryd yr awenau, mae Ynyr wedi arwain y gwaith o gyflwyno nifer o newidiadau allweddol i wella cynhyrchiant a gwytnwch ar y fferm. Dywed ei fod wedi datblygu gwybodaeth a hyder trwy ymgysylltu gydag ystod o wasanaethau cefnogi a chyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio, gan gynnwys y rhaglen ‘Rhagori ar Bori’.
Mae gwelliannau a gyflwynwyd gan Ynyr yn cynnwys pontio bridiau da byw, cynyddu cyfraddau stocio, cyflwyno system bori cylchdro a datblygu isadeiledd amgylcheddol, sy’n arwain y busnes tuag at ddyfodol cynaliadwy ac adfywiol.
Bu Ynyr yn rhan o’r Academi Amaeth yn 2025, ac mae’n llysgennad brwd dros ddatblygiad proffesiynol parhaus. Mae’n dweud bod hyn wedi ei gynorthwyo i gyflawni ei freuddwyd oes o ddilyn gyrfa sy’n cynnwys nid yn unig ffermio ymarferol, ond hefyd penderfyniadau yn ymwneud â rheolaeth strategol.
Gwobr Arloeswr Ffermio Cyswllt Ffermio
Enillydd – Dylan Jones, Porthaethwy, Ynys Môn
Dylan Jones yw’r drydedd genhedlaeth i ffermio’r system bîff a thir âr 800 erw deuluol ar Ynys Môn. Gan gynrychioli amaethyddiaeth gynaliadwy ar ei orau, mae ei fusnes fferm wedi ennill gwobrau ac yn adrodd stori lwyddiannus, lle mae’n pesgi 1,600 o wartheg o’r ansawdd uchaf bob blwyddyn ar fodel hunangynhaliol, carbon isel.
Mae Dylan nid yn unig yn arloesol, ond hefyd yn graff o safbwynt masnachol. Yn 2016, penderfynodd newid system ddefaid a bîff blaenorol y teulu, gan oresgyn yr her sylweddol o gydbwyso nodau amgylcheddol gyda phroffidioldeb. Mae bellach yn rhedeg menter bîff a thir âr cynaliadwy a hunangynhaliol; mae wedi haneru ei ddefnydd o wrtaith cemegol ac wedi dyblu cymhareb kg o bwysau carcas fesul erw.
“Mae Dylan yn cynrychioli ffermio modern ar ei orau, gan ddefnyddio ei fferm ar gyfer arbrofion cydweithredol gyda Cyswllt Ffermio i ddatblygu gwelliannau’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer y diwydiant ehangach.
“Mae ei lwyddiant llinyn mesur pwerus ac ymarferol ar gyfer amaethyddiaeth gynaliadwy, gan ei wneud yn enillydd eithriadol ar gyfer y Wobr Arloeswr Ffermio.”
Gwobr Arloeswr Ffermio Cyswllt Ffermio
Ail wobr - Jâms Morgan, Bow Street, Ceredigion
Mae Jâms Morgan yn helpu i redeg y fferm deuluol, sef fferm laeth yn bennaf, ble mae’n goruchwylio rheolaeth y fuches a’r ddiadell o ddydd i ddydd, gweithrediadau ynni adnewyddadwy, gosodiadau diwydiannol a datblygiad parhaus y fferm.
Mae’n angerddol dros arloesi, ac mae’n datblygu system yn seiliedig ar ddronau i fesur iechyd a dwysedd y gwndwn, gan ddefnyddio cysylltedd LoRaWAN. Ynghyd â dau ffrind sydd hefyd yn ffermio, mae’r tri’n troi asesiadau glaswelltir wythnosol yn ddata cywir, awtomataidd a fydd yn dylanwadu ar benderfyniadau porthiant ar gyfer y dyfodol. Ei nod yw symud oddi wrth benderfyniadau ymatebol i benderfyniadau rhagweithiol trwy wneud mwy o waith monitro ar y fferm a rheoli’r borfa gan ganolbwyntio ar garbon.
Mae Jâms yn mwynhau gweithio gydag ysgolion trwy Farmer Time, gan siarad gyda phlant am y flwyddyn ffermio, ac mae’n aelod brwd o grŵp Y Genhedlaeth Nesaf NFU a Just Farmers. Ei nod hirdymor yw datblygu’r fuches laeth, adeiladu platfform bori effeithlon a pharhau i dreialu technoleg sy’n cefnogi cynhyrchiant proffidiol a chynaliadwy.
“Mae Jâms yn cyfuno sgiliau ymarferol gydag arloesedd go iawn, gan ddangos arweinyddiaeth, chwilfrydedd ac ymrwymiad, ac mae’n ail haeddiannol ar gyfer y Wobr Arloeswr Ffermio.”
Gwobr Arloeswr Ffermio Cyswllt Ffermio
Clod uchel – Roger a Dyddanwy Pugh, Aberhonddu
Magwyd Roger a Dyddanwy ar ffermydd teuluol, ac maent wedi adeiladu menter bîff a defaid flaengar yn seiliedig ar waith tîm. Maent wedi ymrwymo i welliant parhaus, ac mae’r pâr yn cadw buches Limousin ac Aberdeen Angus croes sy’n lloia yn y gwanwyn, ochr yn ochr â mamogiaid Texel croes, gan gyfuno eu sgiliau ymarferol cryf gyda pharodrwydd i groesawu syniadau newydd. Fel rhan o rwydwaith ‘Ein Ffermydd’ Cyswllt Ffermio, maent wedi symud o gynhyrchiant organig i system heb fod yn organig sy’n cadw mwy o stoc, gan dreialu arferion arloesol sy’n gwella gwytnwch.
Mae prosiectau hyd yma’n cynnwys cyflwyno gwndwn llysieuol gan gynnwys ysgellog a llyriad sy’n gwreiddio’n ddwfn i oresgyn sychder yn yr haf, profi mewnbynnau biolegol i leihau dibyniaeth ar gemegau, a gaeafu gwartheg yn llwyddiannus ar fetys porthiant i leihau costau gaeafu a llafur. Mae cydweithio’n agos gyda chynghorwyr arbenigol a phrifysgolion hefyd wedi helpu i wella perfformiad ŵyn, iechyd y pridd a rheolaeth parasitiaid.
“Mae ymroddiad Roger a Dyddanwy ar y cyd, eu hyder i dreialu dulliau newydd i wella cynaliadwyedd a’u ffocws ar ddysgu yn golygu eu bod yn haeddu clod uchel yn y categori Arloeswr Ffermio'r Flwyddyn.”
Gwobr Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio
Enillydd– Angharad Gwillim, Rhaglan, Sir Fynwy
Mae Angharad Gwillim yn ffermwr ifanc blaengar sy’n cadw 130 o famogiaid Cheviot Tiroedd y Gogledd a diadell o famogiaid Cymreig masnachol gyda’i phartner James, gan hefyd gefnogi diadell a buches sugno ehangach y teulu. Fel cyfrifydd dan hyfforddiant, mae ei hagwedd tuag at ffermio’n glir, sef adeiladu diadell iach gan gynyddu niferoedd yn gynaliadwy er mwyn cynnal systemau proffidiol ac effeithlon.
Mae Angharad wedi ymrwymo i ddysgu parhaus, ac mae wedi cwblhau cwrs Meistroli Meddyginiaeth Cyswllt Ffermio, wedi derbyn trwydded dipio, ac yn mynychu gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid yn rheolaidd, gan roi gwybodaeth newydd ar waith ar unwaith.
Mae wedi chwarae rhan allweddol wrth nodi a rheoli materion megis clefyd Johne a thocsoplasmosis, cynyddu cyfraddau sganio o 125% i 175%, a gwella gwytnwch y ddiadell trwy bori cylchdro, triniaeth wedi’i thargedu ar gyfer rheoli llyngyr a phenderfyniadau ynglŷn â difa.
“Mae Angharad yn llawn haeddu’r wobr hon, gan ddangos ymrwymiad ardderchog i iechyd y ddiadell, mabwysiadu arfer gorau’n gyflym, a dull gweithredu’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n gosod safon eithriadol.”
Gwobr Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio
Ail wobr – Julie Ayers, Hwlffordd, Sir Benfro
Mae Julie Ayers yn rheoli diadell amrywiol o 160 o famogiaid Dorset, Ryeland Dwyrain Ffrisia ar draws 65 erw. Mae Julie yn blaenoriaethu’r safonau uchaf o ran iechyd a lles anifeiliaid gan hefyd reoli glaswelltir yn effeithlon ac arallgyfeirio’r busnes er mwyn creu ffrydiau incwm newydd er mwyn paratoi erbyn i’w mab, Rob, ddychwelyd adref i’r fferm ar ôl cwblhau ei astudiaethau, fel y pumed genhedlaeth i ffermio yno.
Mae Julie yn gefnogwr brwd o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus, ac mae’n mynychu gweithdai Cyswllt Ffermio yn rheolaidd, gan roi gwybodaeth newydd ar waith i wella iechyd, cynhyrchiant a pherfformiad y ddiadell. Dangosodd profion gwaed ddiffyg cobalt, gan arwain at dargedu triniaethau bolws, ac mae gwaith agos gyda milfeddygon lleol wedi cyflwyno dulliau mwy effeithiol o drin llyngyr a chynllunio cyfrif wyau ysgarthol (FEC).
Trwy gyfuno traddodiad gydag arloesi, lansiodd Julie jin llaeth dafad gyda’r enw addas iawn ‘5th Gen’ ac mae’n bwriadu ehangu i feysydd eraill hefyd.
“Mae brwdfrydedd a pharodrwydd Julie i roi arfer da ar waith yn ei gwneud yn llysgennad ardderchog ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid, ac yn llawn haeddiannol o’r ail wobr hon.”
Gwobr Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio
Clod uchel – Allan Walton, Pontypŵl, Sir Fynwy
Mae Allan Walton yn cadw buches gaeedig fechan o wartheg sugno ynghyd â 125 o famogiaid wedi’u magu gartref yn bennaf, gan flaenoriaethu iechyd a lles anifeiliaid. Trwy gynnal buches gaeedig, mae’n lleihau’r risg o glefydau. Mae’n cadw lefelau stoc yn isel er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn gofal o ansawdd uchel.
Mae Allan yn mynychu gweithdai iechyd anifeiliaid Cyswllt Ffermio yn rheolaidd, ac mae’n rhoi’r hyn y mae’n ei ddysgu ar waith, gan gyflwyno strategaethau megis cadw anifeiliaid mewn cwarantîn, cynnal profion gwaed a ffrwythlondeb, sganio gwartheg, gwahanu mamogiaid tenau er mwyn targedu porthiant a defnyddio cyfrif wyau ysgarthol i ganfod y drensh mwyaf effeithiol, gyda’r nod o leihau straen ar y ddiadell a lleihau costau bob amser.
Mae Allan wedi ymrwymo i edrych ar well ffyrdd o ofalu am ei anifeiliaid, o’r technegau trochi traed diweddaraf i ystyried bolysau i sicrhau bod pob buwch yn derbyn ychwanegion hanfodol. Mae bob amser yn awyddus i ddysgu, ac mae’n mwynhau trafod heriau gyda ffermwyr eraill er mwyn gwella ei arferion rheoli.
“Mae dull rhagweithiol ac ymrwymiad ymarferol Allan i iechyd a lles anifeiliaid yn ei wneud yn enillydd haeddiannol iawn o’r wobr Clod uchel.”
Gwobr Garddwriaeth Cyswllt Ffermio
Enillydd – Naomi Hope, Llysiau Cwm Nyfer, Trefdraeth, Sir Benfro
Mae Naomi a’i phartner Richard yn berchen ar gwmni Llysiau Cwm Nyfer, sef safle gardd farchnad a chadwraeth deng erw yng ngogledd Sir Benfro. Maent yn arbenigo mewn tyfu llysiau, perlysiau a blodau’n naturiol, ac mae’r pâr yn defnyddio dull sy’n golygu trin y tir cyn lleied â phosibl, gan osgoi defnyddio chwynladdwyr na phlaladdwyr.
Dros y tair blynedd diwethaf, maent wedi plannu dros 1,000 o goed a gwrychoedd newydd, wedi creu dôl blodau gwyllt, pyllau bywyd gwyllt a chynefin ar gyfer tylluanod gwynion, gan hefyd gynnal tair erw o goetir gwern gwlyb.
Trwy fynd ati i dyfu llysiau a pherlysiau yn gymysg â gwelyau blodau, tomenni compost, pyllau a chloddiau chwilod, maent wedi creu cartref i beillwyr o fewn amgylchedd ecolegol cynaliadwy.
“Mae Naomi a Richard wedi gwella bioamrywiaeth, ac iechyd y pridd ac wedi datblygu noddfa i fywyd gwyllt yng nghanol Cwm Nyfer.
“Mae eu ffocws ar ddatblygiad proffesiynol, parhaus, ymrwymiad i reoli tir yn gynaliadwy ac ymgysylltiad gweithredol gyda’u cymuned leol yn eu gwneud yn enillwyr haeddiannol y wobr hon.”
Gwobr Garddwriaeth Cyswllt Ffermio
Ail wobr – Becky a Sean Davies, River Meadow Flower Farm, Aberhonddu
Yn 2022, sefydlodd Becky a Sean Davies fusnes River Meadow Flower Farm - menter arallgyfeirio fasnachol, ar lethr yn wynebu’r de ar y fferm bîff a defaid sydd wedi bod yn cael ei ffermio gan deulu Sean ers saith cenhedlaeth.
Gan arbenigo mewn tyfu ystod o blanhigion lluosflwydd, eilflwydd a phlanhigion blynyddol gwydn, yn ogystal â menter ‘casglu eich hun’ boblogaidd a chae rhosod mynydd a blannwyd yn ddiweddar, mae’r busnes bellach yn cyflenwi blodau a dail ar gyfer tuswau, a gosodiadau ar gyfer priodasau ac angladdau. Fel cyrchfan poblogaidd i ymwelwyr, mae Becky hefyd yn cynnal teithiau, cyflwyniadau a gweithdai blodau.
Mae eu blodau tymhorol ar gael o fis Ebrill hyd at fis Medi. Ni ddefnyddir unrhyw fawn, ac mae’r blodau, sy’n cael eu gwerthu’n lleol yn bennaf, yn gynaliadwy.
“Mae’r pâr wedi creu model llwyddiannus sy’n dangos bod modd i arddwriaeth fasnachol ac arferion amgylcheddol da ffynnu ochr yn ochr.
“Dyma arddwriaeth gynaliadwy ar ei orau, gyda’r dull ‘ffermio araf’ yn gwarchod iechyd y pridd a bioamrywiaeth - ail safle haeddiannol iawn ar gyfer y wobr arddwriaeth.”
Gwobr Mentor y Flwyddyn Cyswllt Ffermio
Enillydd – Haydn Evans, Llanybri, Sir Gâr
Mae Haydn Evans yn fentor profiadol sy’n canolbwyntio ar ddull ‘fferm gyfan’. Mae gwybodaeth eang Haydn ym maes busnes a materion ariannol a ddatblygwyd trwy ei yrfa flaenorol yn y banc, a’i arddull tawel a sicr, yn werthfawr iawn wrth gefnogi ffermwyr sy’n aml yn mynd ato pan fyddant yn wynebu heriau anodd yn eu busnesau.
Y tu hwnt i dasgau ymarferol megis craffu ar broffidioldeb, llif arian parod a chynigion ar gyfer benthyciadau, mae Haydn hefyd yn fedrus wrth hwyluso trafodaethau’n ymwneud â materion megis cynllunio olyniaeth a chynigion i arallgyfeirio. Mae ei gymorth yn aml yn ymestyn at yr heriau iechyd meddwl a brofir gan nifer o ffermwyr, ac mae ei arddull cytbwys wedi bod yn drawsnewidiol i nifer o ffermwyr sydd angen datblygu gwytnwch a chyfathrebu effeithiol o fewn busnesau fferm.
“Mae gallu Haydn i fagu ymddiriedaeth a hyder yn ei alluogi i ddarparu cymorth gwerthfawr i ffermwyr sy’n aml yn wynebu heriau sylweddol, gan amrywio o ailstrwythuro ariannol ac anghydfodau gyda thenantiaeth i gydymffurfiaeth gyfreithiol neu reoleiddio a chytundebau llaeth. Mae wedi profi i fod yn fentor eithriadol ac yn llawn haeddu’r wobr hon.”
Gwobr Mentor y Flwyddyn Cyswllt Ffermio
Ail wobr – Gwenan Ellis, Llanerfyl, Y Trallwng
Mae gwasanaeth mentora Gwenan yn rhoi’r hyder a’r sgiliau ymarferol i ffermwyr Cymru i barhau i gydymffurfio, gwella effeithlonrwydd, a rheoli cofnodion digidol gorfodol. Ers mis Medi 2023, mae wedi cynorthwyo ffigwr syfrdanol o 355 o ffermwyr, gan gynnig arweiniad ymarferol gyda systemau TG, cydymffurfiaeth ddigidol, gweithlyfrau rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol a mapio risg ar gyfer cynllunio rheoli maetholion. Trwy rannu gofynion cymhleth yn gamau clir a chyraeddadwy, mae’n symleiddio gofynion rheoleiddio i sicrhau bod ffermwyr yn deall nid yn unig beth sydd angen ei wneud, ond hefyd pam ei fod yn bwysig.
Mae ei dull calonogol yn galluogi ffermwyr i fod yn hunan-ddibynnol. Mae’n cyfeirio at adnoddau hanfodol, yn amlygu problemau posibl, ac yn rhannu ei phrofiad ei hun o ddefnyddio’r llwyfannau digidol ar gyfer diogelwch, y gallu i olrhain a sicrwydd fferm o ddydd i ddydd. Mae cymorth ymarferol Gwenan o ‘ddysgu trwy wneud’ yn galluogi ffermwyr i gwblhau tasgau digidol gorfodol yn gywir ar yr ymgais gyntaf, ac i fagu hyder ynglŷn â chydymffurfiaeth.
“Mae Gwenan yn rhagori oherwydd ei heffaith eithriadol, ei harweiniad eglur a’i hymroddiad di-droi’n ôl i sicrhau bod cydymffurfiaeth ddigidol yn gyraeddadwy i bob ffermwr.”
Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio
Enillydd: Aaron Buckingham, Arberth, Sir Benfro
Er nad yw’n dod o gefndir ffermio, mae Aaron Buckingham yn rheolwr fferm laeth llwyddiannus ac uchel ei barch, gan arwain chwe chydweithiwr mewn system brysur sy’n lloia mewn bloc yn y gwanwyn ac yn godro tua 700 o wartheg bob dydd.
Mae Aaron wedi ymrwymo i ddysgu parhaus, gan ddatblygu ei wybodaeth a rhoi’r safonau uchaf posibl ar waith ar draws y fferm. Mae wedi datblygu arbenigedd technegol mewn ffrwythloni artiffisial, sganio gwartheg, trimio traed, mesur glaswellt a rheoli staff, gan arwain gwelliannau o safbwynt perfformiad y fuches a phroffidioldeb y fferm.
Trwy ddefnyddio arfer gorau, safonau iechyd a lles uchel, rheoli’r borfa’n fwy effeithlon, a threfnu’r tîm yn effeithiol, mae Aaron eisoes wedi cyflawni buddion mesuradwy ar gyfer y busnes.
Mae’n uchel ei barch ymysg ei gydweithwyr, ac mae’n cynorthwyo datblygiad eraill, gan gynnal cyrsiau hyfforddiant ymarferol yn rheolaidd ar y fferm.
“Mae ymrwymiad eithriadol Aaron i ddysgu parhaus, ei sgiliau arweinyddiaeth, a’i gyraeddiadau o safbwynt gwella perfformiad y fferm yn golygu ei fod yn llawn haeddu gwobr Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio.”
Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio
Ail wobr: Dan Jones, Llandudno, Conwy
Mae Dan Jones yn ffermwr tenant ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn pori 700 o famogiaid bridio ym Mhen y Gogarth, Llandudno. Mae’n gefnogwr brwd o ffermio cynaliadwy a chadwraeth, a thrwy system bori wedi’i thargedu, mae Dan yn gwella bioamrywiaeth y glaswelltir calchfaen hwn sydd o bwysigrwydd rhyngwladol, gan gydbwyso rheolaeth da byw gyda stiwardiaeth amgylcheddol.
Bob blwyddyn, mae Dan yn ymgysylltu gyda miloedd o ymwelwyr, ysgolion a chymunedau lleol i egluro rôl hanfodol ffermio o ran siapio a gofalu am y tirlun, gan hefyd gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel.
Ochr yn ochr â rhedeg y fferm, mae Dan wedi cwblhau cyrsiau dysgu gydol oes gyda sefydliad ymchwil a dysgu IBERS Prifysgol Aberystwyth, mewn maeth da byw, gwyddor cynhyrchu da byw, a systemau cyflenwi cynaliadwy, gan roi’r hyn a ddysgodd ar waith yn uniongyrchol i wella’r penderfyniadau ar y fferm. Fel Ysgolor Nuffield, nod Dan at y dyfodol yw datblygu cwmni ymgynghori gwledig yn arbenigo mewn pori cadwraeth ac arfer gorau ar gyfer ffermio ucheldir.
“Mae ymrwymiad Dan i ffermio cynaliadwy, ymgysylltu â’r cyhoedd a dysgu parhaus yn ei wneud yn ail gwych ar gyfer gwobr Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio.”
Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio
Clod uchel: Freddy Tewson Green, Llandrillo, Corwen
Ac yntau ond yn 18 mlwydd oed, mae Freddy Tewson Green eisoes wedi dangos ymrwymiad syfrdanol i fyd amaeth a’r economi wledig ehangach, gan ennill gwobr clod uchel yng ngwobrau Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio eleni. Fel myfyriwr blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Harper Adams yn astudio Menter Cefn Gwlad a Rheoli’r Tir, mae Freddy yn cyfuno ei astudiaethau academaidd gyda phrofiad ymarferol ar y fferm deuluol a ffermydd cyfagos.
Mae wedi cwblhau nifer o gyrsiau Cyswllt Ffermio a Lantra Cymru, gan gynnwys gweithredu llif gadwyn, rheoli coed a chwythwyd gan y gwynt a gosod waliau cerrig, gan roi’r sgiliau hyn ar waith mewn ymateb i heriau gwirioneddol a achoswyd gan dywydd gwael. Ar y fferm gartref, mae Freddy yn gweithio ar draws system ffermio gymysg, gan helpu i reoli gwartheg Henffordd a defaid, a rheoli coetir, ac mae wedi mentro’n ddiweddar i sefydlu ei fenter ddefaid ei hun.
“Mae brwdfrydedd, sgiliau ymarferol ac uchelgais amlwg Freddy i ddatblygu gyrfa mewn rheoli ystadau a thir yn ei amlygu fel dysgwr ifanc eithriadol gyda photensial enfawr ar gyfer dyfodol byd amaeth.”