EDPET (Canfod yn Gynnar a Thriniaeth Effeithiol yn Brydlon): Asesu effaith canfod cloffni yn well ar gyffredinrwydd cloffni a digwydded briwiau.
Canlyniadau allweddol:
- Roedd CattleEye yn ffordd effeithiol o wella’r broses o ganfod cloffni’n gynnar fel rhan o ddull cyfannol o reoli cloffni.
- Nododd camerâu VetVisionAI fod cysur gwartheg ac amseroedd gorwedd yn 12-14 awr, sy'n ardderchog i wneud y mwyaf o berfformiad buches.
- Bu i achosion o friwiau newydd ar wadnau traed y gwartheg ostwng ddwy ran o dair a hanerwyd briwiau clefyd y llinell wen bron o’i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
- Arweiniodd ffocws ar gloffni dros gyfnod o 12 mis at arbedion cost o £15,650, sef enillion o 37% ar fuddsoddiad yn seiliedig ar y gostyngiad mewn achosion o gloffni.
Cefndir
Efallai y bydd ychydig o dan draean o wartheg llaeth yn y DU yn profi rhywfaint o gloffni. Mae digwyddiad cyfartalog o gloffni yn costio tua £330 i'r fferm laeth oherwydd bod llai o laeth yn cael ei gynhyrchu, mae ffrwythlondeb yn cael ei leihau, a cheir risg uwch o ddifa. Mae hyn yn golygu, ar gyfer buches laeth gyffredin sydd â 250 o wartheg, gyda lefelau cyfartalog o gloffni, y ceir colledion o oddeutu £65,000 y flwyddyn.
Mae gan Fferm Moreton fuches o 440 o wartheg sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn, gyda'r rhan fwyaf o fuchod yn lloia yn yr hydref. Mae'r gwartheg yn cynhyrchu 9,600 litr o laeth fesul buwch/blwyddyn ar gyfartaledd, gyda 4.30% o fraster menyn a 3.35% o brotein. Nod Lewis yw gwthio am gynnyrch uwch a dod â'r fuches gyfan i mewn i un bloc sy’n lloia yn yr hydref yn y dyfodol. Yn ddiweddar, newidiodd i odro dair gwaith y dydd ar gyfer y rhan fwyaf o gyfnod llaetha’r fuches. Ers i Lewis ymuno â'r busnes teuluol, mae nifer y gwartheg wedi cynyddu'n sylweddol ochr yn ochr â buddsoddiadau mewn isadeiledd, parlwr godro, sied giwbiclau o'r radd flaenaf a mwy.
Bu’r prosiect yn gweithio’n agos â Sara Pedersen o Farm Dynamics i asesu iechyd y traed a nodi meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt er mwyn gwella symudedd yn y fuches. Yn benodol, y nod oedd adnabod gwartheg ar gam cynnar o gloffni er mwyn sicrhau bod cyfraddau adfer da yn cael eu cyflawni a bod yr effaith ar golledion o ran cynnyrch llaeth a ffrwythlondeb yn cael ei chadw i leiafswm. Ochr yn ochr â chanfod cloffni’n gynharach, roedd ffocws hefyd ar atal cloffni rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Diben y gwaith
- Asesu data trimio a thrin traed i nodi briwiau allweddol sy'n achosi cloffni
- Rhoi’r Rhaglen Traed Iach ar waith trwy gynnal asesiad risg llawn o’r fferm i nodi meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt a datblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r rhain
- Ymchwilio i opsiynau ar gyfer gwella’r broses o ganfod cloffni yn gynnar, a hynny naill ai drwy dechnoleg neu sgorio symudedd yn rheolaidd
- Asesu protocolau trimio traed a hyfforddi/datblygu sgiliau tîm y fferm i sicrhau triniaeth brydlon ac effeithiol ar ôl i wartheg gael eu nodi'n gloff
Yr hyn a wnaed:
Er mwyn penderfynu ar y dull gorau o ganfod cloffni, y cam cyntaf pwysig oedd canfod maint y cloffni yn y fuches a'r prif friwiau a oedd yn achosi cloffni. Er mwyn gwneud hyn, dadansoddwyd y cofnodion trimio traed. Mae Ffigur 1 yn dangos nifer y gwartheg y cofnodwyd bod ganddynt bob prif fath o friwiau yn 2023 (dim ond unwaith y mae pob buwch yn cael ei chyfrif waeth faint o weithiau y cafodd ei chofnodi'n gloff yn ystod y flwyddyn).
Ffigur 1. Nifer y gwartheg y cofnodwyd bod ganddynt friwiau yn 2023
Dangosodd Ffigur 1 mai briwiau dermatitis digidol oedd y rhai mwyaf cyffredin; fodd bynnag, nid yw gwartheg â dermatitis digidol bob amser yn gloff, felly canolbwyntiodd y gwaith canfod cynnar ar nodi yn y parlwr gan ddefnyddio CattleEye, yn hytrach na thrwy sgorio symudedd. Gellir ystyried cleisiau a briwiau ar wadnau’r traed fel yr un briw, am fod cleisiau’n gam cynnar briwiau, felly ystyriwyd mai briwiau/cleisiau a chlefyd y llinell wen oedd y prif friwiau i'w monitro a'u lleihau ar Fferm Moreton.
Sgorio symudedd yn erbyn Awtomeiddio
Ystyriwyd gwahanol opsiynau ar gyfer gwella’r Gwaith o ganfod cloffni’n gynnar, gan gynnwys sgorio symudedd bob pythefnos a gosod CattleEye, a fyddai'n darparu sgoriau symudedd bob dydd. Penderfynwyd y byddai CattleEye yn galluogi mwy o fonitro parhaus. Roedd gosod CattleEye yn cynnwys rhoi camera math CCTV uwchben y rhedfa a hyfforddi’r camera i adnabod gwartheg unigol. Bob tro y byddai'r gwartheg yn mynd i lawr y rhedfa, byddant yn cael sgôr o 0-100 yn seiliedig ar y tebygolrwydd eu bod yn gloff. Byddai gwartheg yr oedd angen sylw arnynt wedyn yn cael eu nodi ar ddangosfwrdd CattleEye fel y gellid eu harchwilio.
Ffigur 2. Dangosfwrdd sgorio symudedd CattleEye
Techneg a phrotocolau trimio traed
Dilynwyd y dull trimio 5 cam yn ystod ein prosiect, a oedd yn cynnwys
- Trimio hyd y bysedd traed i’r hyd cywir
- Sicrhau bod y crafangau heb eu trimio yn cyfateb o ran eu hyd
- Modelu allan faint y briwiau ar y gwadnau
- Lleddfu’r pwysau ar y grafanc boenus
- Tynnu carn rhydd / sydd wedi tyfu o dan y droed ac ymylon caled
Adolygwyd y dechneg trimio traed a'i haddasu i gynnwys model dwfn ac eang fel rhan o Gam 3 o'r dull 5 cam. Nod hyn oedd lleihau pwysau ar safle briwiau ar y gwadnau. Yn ogystal, cyflwynwyd yr holl fuchod ar gyfer archwiliad ychwanegol ar 60-80 diwrnod ers cychwyn cynhyrchu llaeth, yn ogystal ag o gwmpas yr adeg sychu.
Monitro Cysur Gwartheg
Mae cyswllt annatod rhwng cloffni a chysur gwartheg, oherwydd po fwyaf cyfforddus yw gwartheg, y lleiaf o amser maen nhw'n ei dreulio ar eu traed. Gosodwyd camerâu VetVisionAI i fonitro ymddygiad yn y siediau. Roedd y rhain yn dangos sut roedd gwartheg yn treulio eu hamser ac roeddent yn galluogi asesu cyfnodau sefyll, gorwedd a bwydo. Mae Ffigur 3 yn dangos 'map gwres' sy'n nodi ble roedd gwartheg yn sefyll amlaf wrth fwydo. Roedd y gwartheg yn bwydo ar hyd y rhwystr gyda llecyn a ffafriwyd ychydig ganddynt ar ben y sied. Mae Ffigur 3 hefyd yn dangos cysur gwych i’r gwartheg yn y sied, gyda bron pob buwch yn gorwedd.
Ffigur 3. Mae mapiau gwres o gamera VetVisionAI yn dangos lle roedd y gwartheg yn sefyll yn bennaf wrth gael eu bwydo
Canlyniad:
Mae'r siart far yn Ffigur 4 yn dangos y gwahaniaeth yn nifer yr achosion o gloffni rhwng dau dymor, o fis Medi 23-24 a mis Medi 24-25
Ffigur 4. Cymariaethau a wnaed rhwng 1 Medi a 31 Awst ar gyfer 2023-2024 a 2024/2025
Cost a Budd:
Mae cyfanswm yr arbedion yn seiliedig ar y gostyngiadau uchod flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn achosion newydd a chost geidwadol o £750 fesul briw ar wadn a £500 fesul briw clefyd y llinell wen yn dod i £18,250. Mae cynnydd mewn achosion o ddermatitis digidol a fyddai wedi arwain at gostau ychwanegol o ~£2,600; fodd bynnag, ffocws y gwaith canfod cloffni yn gynnar oedd ar friwiau’r carn h.y. briw ar y gwadn a chlefyd y llinell wen, felly dim ond y rhain sy’n cael eu hystyried yma. Cyfanswm costau CattleEye dros gyfnod y prosiect oedd £3,759; roedd cost ychwanegol o £5,429 ar gyfer trimio traed, gwnaed newidiadau i'r isadeiledd gydag addasiad i'r rhwystr porthiant a gostiodd £350, a chyfanswm costau ymgynghori Farm Dynamics oedd £1860. Cyfanswm cost y prosiect oedd £11,398.
Yn gyffredinol, yr enillion ar fuddsoddiad oedd 37%. Am bob £1 a wariwyd ar y prosiect, dychwelwyd £1.37 i'r ffermwr, sy'n ardderchog.
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm
- Defnyddiwch y data iechyd traed sydd gennych o gofnodion trimio traed neu gofnodion cloffni i nodi prif achosion cloffni ar y fferm.
- Trafodwch brif achosion cloffni a lluniwch gynllun gweithredu gyda'ch milfeddyg – dyma le y gall y Rhaglen Traed Iach helpu, am ei bod yn darparu dull strwythuredig o nodi atebion ymarferol a chyraeddadwy i wella iechyd traed.
- Adolygwch eich protocolau canfod cloffni: os ydych chi'n gweld achosion difrifol (e.e. briwiau ar y gwadnau), ystyriwch sut y gallwch chi ganfod gwartheg cloff yn gynharach, gan gynnwys defnyddio technoleg sydd wedi'i dilysu yn erbyn sgoriau symudedd a data ynghylch briwiau traed.
- Ewch ati i gynnwys y tîm iechyd traed cyfan (y trimiwr traed, staff y fferm a’ch milfeddyg) mewn trafodaethau a chynnal adolygiadau rheolaidd.
- Datblygwch sgiliau aelodau'r tîm i wneud yn siŵr, pan fydd gwartheg cloff yn cael eu canfod, eu bod yn cael eu trin yn dilyn y dull diweddaraf sy'n seiliedig ar dystiolaeth.