Caryl Non Lewis

Llanfair Caereinion, Powys

Caryl Lewis AgriAcad 1

Mae Caryl Lewis ar hyn o bryd yn astudio Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae’n edrych ymlaen yn barod i astudio gradd Meistr mewn Ecoleg Amaethyddol ym Mhrifysgol Harper Adams.

Mae Caryl bob amser wedi bod yn barod i gynnig help llaw ar y fferm ddefaid a bîff deuluol yn Llanfair Caereinion, ac mae hi hefyd wedi cwblhau nifer o gyfnodau profiad gwaith, gan ganolbwyntio’n bennaf ar ynni adnewyddadwy, amaethyddiaeth a’r amgylchedd. Dywed fod ei thaith ddiweddar i Frwsel, yng nghwmni aelod o’r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewropeaidd, wedi ychwanegu at ei diddordeb mewn polisi amaethyddol a datblygiad.

Fel aelod brwd o’r CFfI lleol, cafodd ei hethol yn aelod iau’r flwyddyn ar gyfer Sir Drefaldwyn a daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth aelod iau Cymru. Mae Caryl yn hoff iawn o chwaraeon ac mae’n gwirfoddoli i elusennau lleol. Bu hefyd yn ddirprwy brif ferch yn Ysgol Caereinion ac yn gapten ar dîm pêl rwyd yr ysgol, y clwb lleol a Chlwb Pêl Rwyd Powys, ac mae hi hefyd wedi ennill gwobr am wirfoddoli dros 50 awr yn hyfforddi a dysgu pêl rwyd.

“Yn ystod fy nghyfnod o brofiad gwaith gyda Llywodraeth Cymru, cefais flas o’r hyn  fbyddai gweithio fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau a llunio polisi yn ei olygu.

“Rwy’n gobeithio y bydd bod yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth yn fy nghynorthwyo i ddysgu’r sgiliau sy’n angenrheidiol er mwyn cyfrannu at yr agenda yma fy hun yn y dyfodol, yn enwedig wrth i ni agosáu at gyfnod o ansicrwydd wrth adael yr UE, ac mae angen i ni gynllunio ar gyfer heriau a chyfleoedd yn ymwneud â materion amgylcheddol ac amaethyddol yng Nghymru at y dyfodol.