Glasnant Morgan
Tal-y-bont ar Wysg, Powys
Mae Glasnant Morgan yn ffermio yn Nhalybont ar Wysg mewn partneriaeth â’i wraig. Yn 1991 roedd y busnes gwartheg a defaid teuluol wedi’i rannu, dyma pryd y cymerodd Glasnant y fferm drosodd gan rentu fferm gyfagos. Ers hynny, mae’r ddau wedi ehangu’r busnes ymhellach ac mae'n rhentu neu’n berchen ar gyfanswm o 400 erw erbyn hyn.
Yn ogystal â chadw buches o fuchod magu ac 800 o famogiaid magu, mae Glasnant hefyd wedi mynd â’r busnes i gyfeiriad newydd trwy arallgyfeirio i ynni gwyrdd, gan gyflwyno ynni solar, bwyler biomas a systemau ynni adnewyddadwy trydan dŵr eraill. Mae wedi plannu coetiroedd ac 20 erw o swêj i borthi’r stoc.
Mae Glasnant, sy’n fentor cymeradwy Cyswllt Ffermio, yn cyfrannu’n fawr i fywyd y gymuned leol a sefydliadau cefn gwlad. Bu’n gadeirydd ar Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Aberhonddu a Maesyfed; yn Gymrawd Cyngor Gwobrau y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol; yn aelod o’r gymdeithas tir glas leol ac yn ail yng Ngwobr Silver Lapwing ar gyfer yr amgylchedd. Mae hefyd yn cynnal nifer o ymweliadau fferm bob blwyddyn gydag ymweliad blynyddol ffermwyr o Seland Newydd drwy Field Farm Tours.
“Cefais wahoddiad i siarad â chyfranogwyr yr Academi Amaeth rai blynyddoedd yn ôl, ers hynny mae wedi bod yn fwriad gennyf ymgeisio fy hun.
“Rwyf wedi mwynhau cyfarfod cymaint o bobl sy’n gweithio ym maes amaethyddiaeth trwy fy ngwahanol swyddi ac rwy’n ymwybodol iawn, wrth i’r genhedlaeth nesaf gymryd drosodd, fod arnaf angen ac eisiau mwy o amser rhydd. Rwy’n siŵr y bydd bod yn rhan o’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yn fy helpu i ddatblygu fy sgiliau ymhellach a fy annog i sefyll fel cynghorydd yn etholiad nesaf y cyngor.”