Lucy Owens
Rhuthun, Sir Ddinbych
Magwyd Lucy Owens ar fferm ei theulu yn Swydd Gaerlŷr. Yn briod â chyfrifydd sy’n gweithio gydag ocsiwn ffermwyr lleol, mae Lucy yn gobeithio datblygu ei diadell fach o ddefaid a hefyd mae’n helpu gyda diadell ei thad yng nghyfraith.
Yn fam i dri o blant ifanc, mae Lucy yn rhannu ei hamser rhwng dyletswyddau teuluol, helpu gyda’r defaid, ei rôl yn cadw llyfrau i fusnes cyfrifyddu’r teulu a nifer o bethau eraill! Yn Ebrill lansiodd ei brand dillad, I Care Clothing, sy’n cefnogi elusennau a sefydliadau gwledig ac mae hefyd yn ysgrifennydd ar sioe Cymdeithas Treialon Cŵn Defaid a Sioe Llanrhaeadr.
Ar ôl mynychu Prifysgol Nottingham Trent, lle cafodd Dystysgrif Genedlaethol mewn Amaethyddiaeth, aeth ymlaen i wneud BSc mewn Amaethyddiaeth a Marchnata ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd ei gwaith yn y gorffennol yn cynnwys caffael i ladd-dy mawr ac fel rheolwr cyfrifon i gyflenwr porthiant pwysig lle’r oedd yn cynghori ar ddognau porthiant ac yn hyrwyddo cynnyrch y cwmni.
“Ers cael y plant, rwyf yn llawer mwy ymwybodol o’r bwyd yr ydym yn ei fwyta, o ble y mae’n dod a siopa yn lleol i gefnogi cynhyrchwyr o Gymru. Dyna wnaeth fy nghymell i gychwyn fy mlog a’r dudalen ‘This Mum Cares’ sy’n trafod bwyd, ffermio a bywyd teuluol.
“Rwy’n gobeithio y bydd bod yn rhan o’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yn fy nghyflwyno i bobl sydd wedi llwyddo yn eu meysydd dewisedig, a fydd yn fy ysbrydoli i ganolbwyntio ar y pethau sydd o bwys i mi, dysgu sgiliau newydd a chyfarfod rhwydweithiau newydd o fentoriaid a phobl o’r un meddylfryd.”