Gan Gwawr Hughes, Swyddog Technegol Moch a Dyfednod Cyswlt Ffermio
Gyda phrisiau moch yn is na chost cynhyrchu mewn rhai achosion, mae ffermwyr moch yn cael eu hannog i wneud y mwyaf o’u hallbynnau i wneud iawn am golledion mewn mannau eraill. Un elfen o gynhyrchu a ellir ei dargedu ar gyfer gwelliannau yw goroesiad moch bach. Mae cyfraddau marwolaeth cyn diddyfnu ar hyn o bryd yn 16-20% ar gyfartaledd. Mae hynny’n golled posib o £22 miliwn mewn elw net bob blwyddyn sy’n golled economaidd sylweddol i ddiwydiant moch y DU (SRUC, 2016).
Mae’r broblem ‘syndrom moch ysgafn’ (light pig syndrome) wedi bod yn un o brif bryderon y diwydiant moch ers nifer o flynyddoedd. Mae nifer o gynhyrchwyr yn cwestiynu pa mor ymarferol yw cadw’r moch yma gan eu bod yn cael eu hystyried yn amhroffidiol ac yn aneffeithlon yn aml. Mae ymchwil wedi dangos bod gwella maeth ar ôl diddyfnu yn aneffeithiol, ac y dylid mabwysiadu agwedd ‘gwell atal na gwella’ o’r dechrau. Bydd angen dechrau ar y gwaith o leihau’r tebygolrwydd o gael moch bychain iawn neu wan yn y dorllwyth cyn iddynt gael eu geni, a dyna phryd y mae maeth a rheolaeth cyn geni yn allweddol.
Mae ymchwil wedi dangos fod cynnydd o 1.3 porchell wedi’i diddyfnu mewn torllwyth, sef y gwahaniaeth rhwng y dorllwyth gyfartalog a thorllwyth yn y 10% uchaf o ran perfformiad, yn dangos cynnydd o £60 mewn elw net i bob hwch yn flynyddol (BPEX, 2009).
Wrth edrych yn ôl, y gwahaniaeth rhwng 12% a 6% o foch bach sy’n cael eu geni’n fyw yw 0.6 mochyn bach yn goroesi mewn torllwyth o ddeg a bron i fochyn bach cyfan yn ychwanegol mewn torllwyth o 16. Pe byddai’r moch bach yma’n goroesi (gan ganiatau ar gyfer ambell farwolaeth yn hwyrach yn nes at bwysau pesgi), byddai hynny gyfwerth â gwerthu 2.2 yn fwy o foch wedi’u pesgi i bob hwch bob blwyddyn ar gyfer torllwythi mwy at y dyfodol. Mae hynny’n golygu oddeutu 170kg yn fwy o gig gwerthadwy i bob hwch. Mae’r gost cynhyrchu yr union yr un fath gan fod dal angen i’r hwch gael ei chadw, ei bwydo a’i rheoli p’un ai yw bob un o’i moch bach yn goroesi hyd at ddiddyfnu ai peidio.
Gall hybu rheolaeth a maeth da yn ystod y cyfnod cyn geni moch bach effeithio’n sylweddol ar fywiogrwydd ac egni moch bach. Bydd bwydo diet o safon uchel ar gyfnodau rheolaidd ynghyd â chynnwys dwysfwyd ategol yn cyfrannu at foch bach bywiog ar enedigaeth. Gall ychwanegu decstros at fwydo rheolaidd gynnig ffynhonnell ychwanegol o egni yn ystod beichiogrwydd. Mae angen monitro hychod yn ofalus yn ystod y cyfnod hwn gan gadw llygad am arwyddion o salwch a all effeithio ar fywiogrwydd y moch bach.
Ar ôl geni mae’n hanfodol i’r moch bach dderbyn y gofal gorau posib yn ystod yr oriau cyntaf ac wedi hynny. Mae wedi cael ei brofi bod yr amser sy’n cael ei dreulio gyda moch bach newydd anedig yn chwarae rhan bwysig o ran cyfraddau marwolaeth cyn-diddyfnu. Gwelodd unedau moch sy’n treulio cyn lleied ag 8% o’r amser llafur dyddiol gyda moch bach newydd anedig fod marwolaethau cyn diddyfnu yn 12% neu’n uwch. Roedd cyfradd marwolaeth cyn diddyfnu’r unedau hynny a oedd yn treulio o leiaf 16% o’r amser llafur dyddiol posib lawr i 7% neu is. Mae cyfradd marwolaeth o 12% gyfwerth â 170kg o gig yn cael ei golli ar bris o oddeutu 117c/kg (Chwefror 2016), sy’n golled o £198.90.
Yn ogystal â chadw llygad mwy manwl ar foch bach newydd anedig, dylai cynhyrchwyr ystyried manteision cyflwyno dwysfwyd mor gynnar â thri diwrnod oed, a pharhau i fwydo nes diddyfnu. Gall ychwanegu dwysfwyd yn ogystal â llaeth yr hwch arwain at enillion cynyddol mewn pwysau yn ogystal â gwella perfformiad ar ôl diddyfnu. Gall gwelliannau mewn perfformiad ar ôl diddyfnu sy’n deillio o fwydo dwysfwyd yn ifanc arwain at gynnydd o hyd at £2 y mochyn mewn elw net (BPEX, 2013).
Mae sicrhau bod holl staff y fferm yn canolbwyntio ar flaenoriaethu goroesiad moch bach yn hanfodol ym mhob uned moch er mwyn cadw’r cyfraddau’n isel. Mae sylw at fanylder yn bwysig iawn wrth drin a thrafod moch bach newydd anedig. Dylid mabwysiadu’r un sylw at fanylder drwy gydol eu hoes, yn enwedig nes y cyfnod diddyfnu. Gallai cyflwyno protocol ar fferm sy’n canolbwyntio ar flaenoriaethu lles y moch bach fod yn gam ymlaen i gynhyrchwyr moch ac arwain at enillion uwch yn ogystal â diwydiant mwy cynaliadwy ac effeithlon.