Ymwelodd Cyswllt Ffermio a fferm Laeth yng ngorllewin Cymru sydd yn canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd wrth fagu lloeau.

Yn Drysgolgoch, Llwyndrain, yng ngogledd Sir Benfro, mae Seimon ac Eleanor Thomas wedi buddsoddi’n drwm mewn seilwaith ar eu fferm laeth 700 erw. Gosodwyd parlwr troi 70 pwynt cyswllt yn haf 2015 ynghyd â sied fagu lloeau a adeiladwyd i’r diben a all gadw tua 200 o loeau ar y tro.

Rhennir y fuches o 730 o fuchod Llaeth Byrgorn peidigri yn ddau floc, gyda 400 yn lloea yn y gwanwyn a’r gweddill yn yr hydref. Ar gyfartaledd mae’r buchod yn cynhyrchu 6,000 litr y flwyddyn gyda 3.45% o brotein a 4.5% braster menyn ar ddiet yn seiliedig ar borthiant cnydau, a dwysfwyd yn cael ei roi yn y parlwr yn unig.

Megir yr holl loeau ar y fferm, gyda’r heffrod yn cael eu cadw i fagu a’r teirw yn cael eu gwerthu yn y farchnad neu yn breifat pan fyddant tua thair wythnos oed. Eleni mae’r lloeau yn cael eu magu ar laeth cyflawn, yn hytrach na llaeth wedi ei wneud o bowdwr.

Dywed Eleanor, sy’n gyfrifol am fagu lloeau: “O gael strwythur prisio A a B mae’n golygu, pan fydd y pris yn isel fel yn awr, nad yw’n gwneud synnwyr talu am bowdwr.”

Rheoli colostrwm yw sylfaen y system fagu lloeau. Cesglir yr holl golostrwm ac mae’r lloeau yn cael pedwar neu bum litr o botel hanner awr ar ôl eu geni. Wedyn maent yn cael eu trosglwyddo i gorlannau unigol, lle maent yn cael dau bryd arall o laeth cyntaf, cyn symud ymlaen i golostrwm ail neu drydydd godrad, wedi ei gymysgu â llaeth o’r fuches.

“Mae’r lloi yn aros mewn corlannau unigol nes y byddant yn yfwyr da a’n bod yn gwybod eu bod yn ddigon abl i fynd i grŵp,” dywed Eleanor.

Mae’r lloeau yn cael eu symud i grwpiau o 10 neu 12 o oedrannau tebyg ac yn cael tri litr o laeth ddwywaith y dydd am dair wythnos. Yna mae’r ail bryd yn cael ei leihau dros wythnos ac am y pum wythnos nesaf maent yn cael pump neu chwe litr o laeth unwaith y dydd. Bydd y lloeau yn cael eu diddyfnu yn naw i ddeg wythnos oed, ar ôl iddyn nhw ddyblu eu pwysau geni ac yn bwyta tua 1.5kg o ddwysfwyd.

“Erbyn iddynt gael eu diddyfnu byddwn wedi gostwng y llaeth i lawr yn araf nes byddan nhw’n cael dŵr llugoer a diferyn o laeth. Mae hyn yn cadw’r lloeau yn fodlon eu byd.”

Mae’r seilwaith yn yr adeiladau newydd hefyd yn gwella effeithlonrwydd magu lloeau. Mae llinell drosglwyddo yn y parlwr sy’n pwmpio llaeth yn uniongyrchol i’r unedau cadw lloeau yn y sied. Yna mae Eleanor yn defnyddio tanc llaeth symudol a all gynhesu, pasteureiddio a dosbarthu llaeth yn gywir i borthwr aml-deth yn ôl oedran a nifer y lloeau yn y grŵp.

“Mae’r system hon yn ein galluogi i borthi llawer o loeau mewn modd sy’n rhesymol o ran costau” dywed Elaenor. “Rydym mewn marchnad mor gyfnewidiol ar y funud, mae’n rhaid i chi chwilio am y ffordd fwyaf cost effeithiol o wneud pethau.”

Monitro lloeau yn ofalus a glanweithdra manwl yw’r ffactorau allweddol wrth reoli afiechyd.

Meddai Eleanor: “Mae cadw pethau yn lân yn bwysig iawn wrth fagu lloeau. Rydym yn newid y dŵr yn y corlannau bob dydd, yn sicrhau bod y dwysfwyd yn ffres ac yn cadw’r deunydd oddi tanynt yn lân. Rydym yn sicrhau bod colostrwm llaeth cyntaf yn cael ei gasglu a’i storio mewn cynwysyddion glân a hefyd yn rhewi colostrwm neu ei gadw mewn oergell yn ôl y gofyn. Mae’r holl bibelli a jariau yn cael eu cadw yn lân hefyd, oherwydd dyna lle bydd unrhyw afiechydon yn lluosogi.

“Nid oes gennym lawer o broblemau iechyd ac nid ydym yn brechu rhag dim byd gan nad oes arnom angen gwneud hynny ar y funud. Rydym yn cadw llygad ar y lloeau ac yn eu cadw ar wahân os byddwn yn sylwi ar rywbeth tebyg i’r ysgôth. Er bod y lloeau mewn grwpiau, mae’n rhaid i chi eu trin fel unigolion.”

Yn ogystal â lleihau llafur, mae Eleanor hefyd yn credu bod y system fagu mewn grwpiau yn fanteisiol i’r lloeau.

“Mae’r math yma o system wedi gweithio i ni yma am dros 15 mlynedd a dwi’n meddwl bod lloi yn gwneud yn well mewn grwpiau fel hyn. Maen nhw’n gallu rhyngweithio â’i gilydd y ffordd yma a rhedeg o gwmpas, felly mae’n amgylchedd iachach iddyn nhw.”

Bydd heffrod yn dod i’r fuches odro yn ddwy flwydd oed. Cred Seimon ac Eleanor bod rhoi cychwyn da i loeau a heffrod gyda gofal a phorthi priodol yn eu helpu i reoli a thyfu busnes y fferm.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Diadell o ddefaid mynydd sy’n rhan o Raglen Geneteg Defaid Cymru yn pesgi ŵyn bythefnos yn gynt na’r arfer
26 Mehefin 2024 Mae ŵyn a gynhyrchir gan ddiadell o ddefaid
Mentora yn rhoi dewrder i cyn newyddiadurwraig y BBC i gychwyn ar brosiectau amgylcheddol ar gyfer fferm ei theulu
24 Mehefin 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Cyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio yn Helpu Ffermwyr i Wella Cynaliadwyedd a Pherfformiad Ŵyn
06 Mehefin 2024 Mae prosiect gan David & Will Lewis, Treforgan