Gan Sara Pedersen BSc (Anrh) BVetMed CertCHP DBR MRCVS
Arbenigwraig RCVS mewn Iechyd a Chynhyrchu Gwartheg, Farm Dynamics Ltd, Y Bontfaen, Bro Morgannwg
Pam golchi traed?
Mae golchi traed yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o atal a rheoli dermatitis digidol (DD) ochr yn ochr â gwell glanweithdra a rheoli slyri a thrin briwiau yn gynnar. Ar ôl i fuwch gael ei heintio â DD, os na fydd yn cael ei thrin yn fuan gyda gwrthfiotig priodol ar wyneb y briw fe fydd yn cael ei heintio am oes fel arfer. Ar ôl yr heintiad bydd y bacteria DD yn tyllu yn ddwfn i’r croen a’u cau eu hunain yno, gan aros ynghwsg. Dan yr amgylchiadau cywir bydd y briwiau yma yn dod yn weithredol eto, gan achosi iddo dorri allan mewn mannau eraill a thaenu’r heintiad. Felly prif rôl y baddon traed yw atal yr hen friwiau difrifol yma rhag ail ddeffro (Llun Un) yn ychwanegol at helpu i gadw’r traed yn lanach sydd hefyd yn lleihau heintiadau newydd.
Traed pwy ddylwn i eu golchi a phryd?
Yn aml iawn dim ond y buchod godro sy’n cael golchi eu traed, ond, mae’n bwysig cynnwys y buchod sych a’r stoc ifanc hefyd. Mae heffrod sydd wedi eu heintio cyn lloea fwy na dwywaith mor debygol o gael DD yn eu llaethiad cyntaf, yn ogystal â chynhyrchu 350kg yn llai o laeth a chymryd yn hwy i gyfloi mewn cymhariaeth â heffrod nad ydynt wedi cael DD.
Bydd amlder y golchi traed yn amrywio o fferm i fferm a dylai gael ei ffurfio a’i adolygu fel rhan o gynllun iechyd y fuches gyda milfeddyg y fferm, ond, yn gyffredinol, amlaf yn y byd, gorau yn y byd. Pan fydd y risg yn uchel, ar rai ffermydd bydd angen golchi traed bob dydd i gadw’r heintiad dan reolaeth. Wrth brynu stoc felly mae’n bwysig golchi eu traed wrth iddynt gyrraedd fel rhan o gamau bioddiogelwch y fferm i leihau’r risg o gyflwyno rhywogaeth newydd o’r DD i’r fferm.
Ble ddylwn i olchi traed?
Mae dylunio baddon traed yn allweddol wrth wneud y broses yn haws i chi, ac yn bwysicaf oll, y buchod. Mae baddon traed yn gweithio ar ei orau pan fydd yn cael ei gynnwys ym mhatrwm arferol y fuwch fel nad oes fawr o amharu ar lif y buchod, gydag allanfa’r parlwr yn ddewis poblogaidd.
Sut ddylwn i ddylunio’r baddon traed?
Mae’n hanfodol bod y buchod yn symud trwy’r baddon traed yn llyfn i leihau’r llygru trwy ysgarthion ac i gynnwys y baddon gael ei golli yn ogystal â sicrhau bod cyn lleied â phosibl o amharu ar lif y buchod. Er eu bod yn boblogaidd iawn, mae baddon plastig caled gyda gryniau amlwg ar y gwaelod yn anghyfforddus i fuchod gerdded trwyddo ac nid ydynt yn cael eu hargymell. Yn hytrach mae baddonau traed parhaol, wedi eu llunio wrth adeiladu yn well o ran bod yn fwy cyfforddus i’r buchod ac o ran llif y gwartheg. Nid yw buchod yn hoffi camu i fyny nac i lawr i fath, felly dylai gwaelod y baddon fod ar yr un lefel â’r mannau mynd i mewn/allan a rhoi gafael i’r fuwch wrth iddi gerdded, er y dylid osgoi baddonau gyda gwaelod gryniau. Dewis arall yw mat rwber ar waelod y baddon a bydd hynny yn cynnig gafael ac yn fwy cyfforddus wrth i’r fuwch gerdded trwodd, yn arbennig os yw hi’n gloff.
Er bod y farn yn gymysg o ran defnyddio baddon golch cyntaf, yn gyffredinol teimlir ei bod yn fwy effeithiol cael un baddon cemegol, hwy yn hytrach na dau faddon ar wahân. Defnyddir baddonau golchiad cyntaf i leihau’r llygru ar y baddon cemegol, ond, dangosodd rhai astudiaethau bod y gwrthwyneb yn digwydd gyda chynnydd mewn halogiad ysgarthol yn y baddon cemegol. Yn ychwanegol, os yw’r droed yn wlyb wrth fynd i mewn i’r baddon cemegol mae’n llai abl i amsugno’r hylif. Mae baddonau golchiad cyntaf hefyd yn ychwanegu swm sylweddol o ddŵr at y system slyri.
Mae hyd, lled a dyfnder y baddon hefyd yn allweddol. Argymhellir y dylai pob troed gael ei throchi o leiaf ddwywaith, dair gwaith os yn bosibl, sy’n gofyn am fath traed 3.7-4 metr o hyd. Bydd lleihau lled y baddon i 60-70cm yn lleihau’r costau llenwi gan adael i’r buchod gerdded trwyddo yn gyfforddus (Ffigwr Un). Er bod baddonau traed lletach yn cael eu defnyddio yn aml i hwyluso symudiad y buchod (Llun Dau), gall y rhain fod yn gostus i’w llenwi os byddant yn ddigon hir er mwyn trochi’r nifer cywir o weithiau.
Bydd gosod paneli ochr ar oledd ar ymyl y baddon yn helpu i sicrhau bod y buchod yn rhoi eu traed yn yr hylif yn hytrach nag ar yr ochrau yn ogystal â lleihau faint o’r hylif sy’n cael ei golli trwy dasgu. Bydd grisiau uchel i mewn ac allan hefyd yn lleihau faint o’r hylif sy’n cael ei golli ac yn cynyddu’r nifer o drochiadau a geir, ac argymhellir grisiau 26cm. Er mwyn sicrhau bod y traed yn cael eu trochi yn llwyr yn yr hylif dylid ei lenwi i ddyfnder o ~10cm.
Yn ogystal ag ystyried llif y buchod wrth gynllunio’r baddon traed mae’n bwysig rhoi sylw i’w leoliad a pha mor hawdd yw ei lenwi, ei wagu a’i lanhau. Hawsaf yn y byd yw hi i’w gynnal a’i gadw, amlaf yn y byd y bydd yn cael ei ddefnyddio. Gall twll gwagu llydan helpu i wagu yn gyflym a’i lanhau yn haws (Llun Tri) er bod baddonau traed hollol awtomatig ar gael i wneud golchi traed yn broses ddidrafferth (Llun Pedwar).
Beth ddylwn i ei ddefnyddio?
Er bod golchi traed yn arfer cyffredin ychydig iawn o astudiaethau clinigol cadarn sy’n bodoli ar effeithiolrwydd y gwahanol gyfryngau a ddefnyddir fel arfer. Wrth benderfynu beth i’w ddefnyddio dylid ystyried y canlynol: rhwyddineb ei ddefnyddio, diogelwch y cynnyrch, gwaredu, costau ac yn bwysicach, a yw’n gwneud y gwaith.
Mae’n gamgymeriad cyffredin meddwl bod cyfryngau golchi traed yn ‘driniaethau’, ond, yn bennaf maent yn gweithredu fel diheintyddion. Rhaid ystyried yn ofalus wrth ddewis y cyfrwng mwyaf addas a’r crynhoad ar gyfer y fferm. Dylid penderfynu hyn ar y cyd â milfeddyg y fferm, gydag adolygiadau cyson i sicrhau bod y drefn yn effeithiol. Ymhlith y diheintyddion a brofwyd yn effeithiol wrth eu defnyddio mewn baddonau traed mae 2-5% formalin a 5% sylffad copr. Gwelwyd nad yw asid peracetig a golchion parlwr hypochlorid yn effeithiol wrth reoli DD.
Er bod formalin a sylffad copr yn effeithiol, a hwy a ddefnyddir amlaf, mae nifer o gamau y dylid eu hystyried os byddant yn cael eu defnyddio. Mae’n hysbys bod formalin yn garsinogen ac felly dylid cymryd camau iechyd a diogelwch digonol er mwyn i’r rhai sy’n ei drin neu yn ei ymyl osgoi bod yn agored iddo. Mae’r camau yn cynnwys defnyddio anadlydd wrth ymdrin ag o a sicrhau bod y baddonau traed mewn ardaloedd sydd wedi eu hawyru’n ddigonol. Rhaid ystyried hefyd sut i waredu’r formalin a’r sylffad copr i’r system reoli slyri er mwyn lleihau’r risg o lygredd amgylcheddol ac, yn achos sylffad copr, gweld metelau trwm yn crynhoi yn y pridd os bydd slyri yn cael ei chwalu ar borfa wedyn.
Pa gemegolyn bynnag a ddefnyddir mae’n bwysig cofio ei fod yn annhebygol o weithio os na all gyrraedd yr ardal darged. Ni fydd potensial llawn y cyfrwng yn cael ei wireddu os bydd traed y buchod yn fudron neu na fyddant yn cael eu trochi yn ddigon aml yn yr hylif. Trwy sicrhau bod llif y buchod trwy’r baddon traed yn dda a thawel gellir osgoi’r perygl y bydd y cyfrwng yn tasgu ar byrsiau/cadeiriau’r buchod a heintio’r llath neu greu risg o fastitis.
Rhaid mesur y baddon traed yn ofalus i bennu ei gynhwysedd pan fydd yn llawn fel bod digon o’r cyfrwng yn cael ei ychwanegu i lwyddo i gael y crynhoad a ddymunir. Yn gyffredinol dylai’r baddon traed gynnwys un litr ar gyfer pob buwch sy’n mynd trwyddo h.y. rhaid i faddon 200 litr gael ei newid i bob 200 o fuchod. Ond, bydd hyn yn dibynnu ar lefel yr halogiad yn y baddon a hefyd ar y cyfrwng a ddefnyddir.
Er ei fod yn heintus iawn, gellir rheoli dermatitis digidol yn effeithiol mewn buches trwy ddull integredig. Mae hyn yn cynnwys gwell hylendid i leihau bod yn agored i heintiad trwy reoli slyri yn well, trin briwiau yn gynnar ac effeithiol gyda gwrthfiotig ar yr wyneb a golchi traed i leihau heintiadau ac atal briwiau cronig rhag ailddigwydd. Er mwyn i olchi traed fod yn effeithiol, mae dyluniad yn allweddol i gael y buchod i lifo yn dda, lleihau llygredd a hefyd sicrhau bod y peth pwysicaf yn mynd i’r baddon – y droed!
Llun Un: Prif nod golchi traed yw diheintio traed i leihau heintiadau newydd, yn ogystal ag atal heintiadau cronig, anweithredol (chwith) rhag ailymddangos yn heintiadau gweithredol (yn y cylch ar y dde).
Llun Dau: Gall baddonau traed lletach gynorthwyo llif y buchod ond mae’n angenrheidiol iddynt fod yn 3.7-4m o hyd er mwyn i’r traed gael eu trochi ddigon o weithiau.
Llun Tri: Rhaid i’r baddon traed gael ei ddylunio o ran rhwyddineb ei wagu a’i lanhau, gall twll gwagu mawr helpu yn hyn o beth.
Llun Pedwar: Mae baddonau traed awtomatig sy’n gwagu ac ail lenwi ar ôl nifer benodol o fuchod ar gael.
Ffigwr Un: Y dyluniad a argymhellir i olchi traed yn effeithiol ar sail canllawiau Cynllun Dairyland.