Dr Ruth Wonfor: IBERS, Prifysgol Aberystwyth

 

Negeseuon i’w cofio:

  • Mae pigo niweidiol yn ymddygiad sy’n effeithio ar les ieir mewn llawer o systemau ieir buarth, y strategaeth reoli gyffredin ar hyn o bryd yw trimio pigau.
  • Gall strategaethau rheoli i wella ymddygiad yr ieir wrth grafu a chyfoethogi amgylchedd yr ieir helpu i leihau pigo niweidiol mewn heidiau.
  • Dylai’r cyfnod trosglwyddo o fagu i ddodwy hefyd gael ei reoli gyda chyn lleied o straen i’r aderyn â phosibl i leihau’r nifer sy’n dechrau pigo yn niweidiol.
  • Bydd defnyddio pecynnau rheoli penodol i’r haid yn lleihau pigo niweidiol a thrwy hynny gall leihau’r angen i drimio pigau.

Mae pigo niweidiol yn broblem gyffredin o ran lles yr ieir ymhlith heidiau o ieir buarth. Mae pigo niweidiol yn derm cyffredinol sy’n trin nifer o wahanol ymddygiadau pigo, yn amrywio o’r pigo plu llai difrifol, i’r pigo canibalaidd mwy difrifol.  Gelwir yr ymddygiad canlynol yn bigo niweidiol: pigo plu ysgafn a difrifol, pigo cloacâu (vents) a phigo canibalaidd. Mae pigo plu difrifol, pigo cloacâu a phigo canibalaidd yn wahanol i bigo plu yn ysgafn gan eu bod yn achosi niwed corfforol i’r aderyn. Mae’r niwed yn amrywio o dynnu plu, i bigo’r croen sy’n arwain at friwiau a thynnu gwaed ac, mewn achosion eithafol, hyd yn oed dynnu’r organau mewnol allan trwy bigo’r cloaca. Mae’r ymddygiad yma yn creu straen ac yn boenus i’r dioddefwyr; gall gynyddu’r gyfradd farwolaeth a pha mor agored yw’r adar i afiechyd, ei gwneud yn anos i’r ieir reoli gwres yn effeithiol, a lleihau cynhyrchiant yr haid. Er nad yw pigo ysgafn ar y plu yn arwain at niwed corfforol yn aml, gan mai dim ond blaen y plu sy’n cael ei bigo, mae’r cwestiwn yn dal i godi, pam bod yr adar yn ymddwyn fel hyn; a oes problem waelodol o ran eu lles sy’n gwneud i’r adar deimlo eu bod angen pigo? Mae’n anodd dod o hyd i bigo niweidiol mewn cywion bach gan eu bod yn bwrw eu plu nifer o weithiau wrth dyfu. Ond, mae’n hysbys bod pigo niweidiol yn bresennol wrth fagu a dylid gwneud ymdrech i atal ei ddatblygiad er mwyn lleihau’r nifer sy’n mabwysiadu’r ymddygiad yn gynnar yn eu hoes, sy’n anos i gael gwared arno yn y cyfnod dodwy.

Trimio pig yw’r prif gam rheoli a ddefnyddir gan y mwyafrif o systemau ieir buarth i atal yr adar rhag pigo plu. Bydd pigau cywion diwrnod oed yn cael eu trimio gyda thechnoleg is-goch. Ymdrechodd nifer o wledydd Ewrop, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, i wahardd defnyddio trimio pigau fel dull rheoli, oherwydd pryderon am les yr adar. Roedd y Deyrnas Unedig wedi anelu at wahardd trimio pigau erbyn Ionawr 2016, ond, daeth adroddiad a gomisiynwyd gan y llywodraeth gan y Grŵp Gweithredu Trimio Pigau (BTAG) i’r casgliad, oni bai bod strategaeth reoli lwyddiannus arall yn ei lle, y byddai gwahardd trimio pigau yn arwain at lefelau uwch o bigo niweidiol. Casglwyd y byddai canlyniadau hynny yn fwy niweidiol o ran lles yr anifeiliaid na thrimio is-goch yn ddiwrnod oed. Penderfynodd y Llywodraeth ohirio cyflwyno’r gwaharddiad; ond nid yw hyn yn golygu na fydd gwaharddiad trimio pigau yn cael ei gyflwyno fyth. Mae pryder mawr am oblygiadau lles trimio pigau, ac felly, rhaid i’r diwydiant dodwy ganolbwyntio ar ffyrdd i wella rheolaeth ar yr heidiau o ddydd i ddydd mewn ymdrech i atal pigo niweidiol a thrwy hynny gael gwared â’r angen am drimio pigau. Yn y sector organig, ni chaniateir trimio pigau; ffactor a all gynyddu amlygrwydd pigo plu difrifol yn y systemau hyn. Ond mae’n werth nodi bod heidiau organig yn wahanol iawn i rai masnachol; er enghraifft mae’r heidiau yn llawer llai ac mae’r adar yn cael eu cadw yn llai dwys, ffactorau a all wneud pigo plu yn haws ei reoli.

Mae pigo niweidiol yn fwy cyffredin mewn systemau ieir buarth mewn cymhariaeth â systemau mewn cewyll. Y rhesymau am hyn yw bod yr ieir sy’n ymddwyn fel hyn yn cael cysylltiad â mwy o ddioddefwyr, a’r ffaith ei bod yn anos i’r cynhyrchwyr ganfod pa ieir sy’n ymddwyn fel hyn ac felly yn methu eu symud o’r haid. Un ateb posibl fyddai symud yn ôl i systemau mewn cewyll, ond, nid yw hyn yn ddichonol. Mae defnyddwyr yn ystyried bod lles yr adar yn well mewn systemau ieir buarth ac yn amgyffred bod yr ieir yn hapusach mewn systemau o’r fath mewn cymhariaeth â systemau mewn cewyll. Yn ychwanegol, mae mwyafrif yr adwerthwyr yn y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i symud tuag at gynhyrchu heb gawell. Ond mae llawer o ddefnyddwyr nad ydynt yn gwybod am bresenoldeb pigo niweidiol mewn systemau ieir buarth, a dangosodd arolwg diweddar, pan roddwyd gwybodaeth iddynt, bod 40% o ddefnyddwyr wedi newid eu barn am y system. Adroddodd y defnyddwyr y byddent yn talu tua 3.4% yn fwy am ddwsin o wyau buarth er mwyn gwella lles yr ieir yn y systemau ieir buarth presennol. Felly, mae angen clir am ddatblygu a defnyddio atebion gwahanol trwy reoli er mwyn gwella lles yr adar ac atal pigo niweidiol mewn heidiau o ieir buarth.

Bu ymchwilwyr yn gweithio gyda ffermwyr i ymchwilio i ffactorau risg pigo plu, a ffyrdd o ddefnyddio’r rhai a ganfuwyd i leihau amlygrwydd pigo niweidiol, gan anelu at wneud y strategaethau mor hawdd i’w defnyddio â phosibl. Mae nifer o ffactorau yn gyfrifol am achosi pigo niweidiol, ac mae’r ymchwil wedi dod o hyd i ffactorau sy’n ei achosi fel maethiad, genoteip, golau, straen, math o lawr a dwyster y stocio, ymhlith eraill. Mae pigo niweidiol hefyd yn estyniad o ymddygiad crafu’r ieir, a gall eu hanallu i gyflawni’r ymddygiad greddfol hwn fod yn ffactor a all ddylanwadu ar ddatblygu pigo niweidiol.

Mae mynediad at dir yn rhoi’r gallu i’r ieir grafu a phrofi amgylchedd gwahanol, gan gynyddu eu hysgogiad

iar c
trwy drwsio plu, gorffwys yn yr ardaloedd cysgodol a throchi mewn llwch yn yr ardaloedd mwy agored. Dylai ieir gael eu cyflwyno i hyn mor gynnar â phosibl yn eu hoes er mwyn sicrhau eu bod yn ei ddefnyddio i’r graddau eithaf. Ond, yn aml iawn ni fydd yr ieir yn defnyddio’r tir yn llawn, oherwydd diffyg cysgod naturiol ac artiffisial o bosibl. Mae’r ieir yn cael budd o bresenoldeb cysgod naturiol (e.e. coed) ac artiffisial (e.e. hen drelars) i gysgodi a’u diogelu rhag rheibwyr posibl.  Dangosodd astudiaethau, pan fydd cysgod ar gael, y bydd ieir yn crafu ymhellach o’u sied na phan na fydd cysgod. Yn ddiddorol, dangoswyd bod cysgod hefyd yn effeithio ar niwed i’r plu – pan fydd mwy o gysgod coed dros y tir, mae’r difrod i’r plu yn llai mewn cymhariaeth â heidiau â llai o gysgod. Yn ychwanegol dylai’r porfa ar y tir gael ei reoli a’i gylchdroi yn dda, nid yn unig o ran cynnal y tir, ond hefyd i wella’r ymddygiad crafu.

Dylai siediau gael eu dylunio yn dda bob amser i sicrhau eu lles, hyd yn oed os oes gan yr ieir fynediad at dir. Bydd defnyddio clwydi yn lleihau pigo niweidiol trwy roi lle i’r ieir sy’n dioddef ffoi, cyn belled bod y clwydi yn uwch na lefel y pennau. Mewn tai magu, mae mannau deor tywyll yn ddefnyddiol i gywion orffwys mewn amodau sy’n ailadrodd gorffwys dan blu’r fam. Bydd hyn yn gadael i rai cywion fod yn weithredol, ac i eraill gael ardal orffwys sy’n debyg i amodau naturiol ac yn ei dro dangoswyd ei fod yn gwella’r gorchudd o blu ar yr heidiau. Dylid ystyried y math o lawr hefyd mewn systemau rhydd. Gall magu ieir ar wifrau arwain at sgoriau gorchudd plu gwael, oherwydd diffyg ysgogiad i grafu neu drochi mewn llwch mae’n debyg. Mae’n hysbys ers tro bod cael gwellt yn ystod y cyfnod magu yn lleihau pigo plu mewn heidiau, yn fwy felly na chael tywod neu lwch lli. Mae gwellt yn creu llaesod dyfnach ac yn annog ymddygiad archwilio.

iar c 1

Mae diet yr ieir hefyd yn chwarae rôl bwysig, o ran cynhyrchu cyffredinol a hefyd ei effaith ar bigo niweidiol. Mae diet llawn protein ac asid amino yn benodol, fel methionin, cystin a lysin yn bwysig i leihau pigo niweidiol. Yn ychwanegol mae ffibr yn ffynhonnell ddietegol hanfodol. Gellir defnyddio ffibrau anhydawdd i leihau’r egni yn y diet, sy’n cynyddu’r amser sy’n cael ei dreulio yn bwyta, yn ogystal â symudoldeb y perfedd, a gall leihau pigo niweidiol. Dylai diet o’r fath, yn ddelfrydol, gael ei roi wrth fagu’r cywion a phan fyddant yn dodwy i weld y fantais fwyaf o ran rheoli pigo niweidiol. Dylid cadw’r nifer o weithiau y mae’r diet yn cael ei newid cyn lleied â phosibl. Os yw’n hanfodol newid y diet, dylai hyn gael ei gyflawni yn raddol a dylid rhoi ychwanegion i leihau’r straen. Gall y dogn gael ei roi ar ffurf stwnsh neu friwsion - mae’r ddau yn gwella ymddygiad crafu’r ieir ac yn lleihau pigo niweidiol.

Dylid cadw’r ffactorau sy’n peri straen wrth drosglwyddo o fagu i ddodwy cyn lleied â phosibl hefyd. Y sefyllfa ddelfrydol yw magu adar ar yr un fferm ag y byddant yn dodwy arni, gan adael iddynt symud yn raddol gan roi’r gallu i gynhyrchwyr gadw’r ddau amgylchedd yn debyg. Ond, os nad yw hyn yn bosibl mae’n bwysig i fagwyr a chynhyrchwyr gyfathrebu a sicrhau bod yr amgylchedd magu a dodwy mor debyg â phosibl. Bydd lleihau’r nifer o newidiadau rhwng y systemau yn lleihau’r straen wrth symud, a all yn ei dro helpu i leihau datblygiad pigo niweidiol. Mae’n ddefnyddiol cyflwyno a chynefino cywion â chymaint o agweddau’r sied ddodwy â phosibl; er enghraifft, y math o borthwyr ac offer yfed a fydd yn cael eu defnyddio, yn ogystal â chlwydi, ychwanegion cyfoethogi a mynediad i’r tir.

Gan fod ffactorau risg pigo niweidiol yn niferus, ni ellir ystyried bod y cynlluniau rheoli i leihau pigo niweidiol mewnnheidiau yn ddull ‘un math yn addas i bawb’. Mae angen cynlluniau penodol felly ar gyfer pob haid, gan ddadansoddi unrhyw wendidau yn y system a all fod yn cyfrannu at bresenoldeb pigo niweidiol, a datblygu gwelliannau wedi eu targedu. Dangoswyd bod pecynnau a luniwyd i’r diben fel hyn yn lleihau pigo niweidiol; mwyaf yn y byd o strategaethau rheoli a ddefnyddir, gorau yn y byd yw’r gwelliant. Mae’r strategaethau hyn yn gofyn am ddull aml ffactoraidd ac yn gofyn am synergedd rhwng cynghorwyr, diwydiant, milfeddygon, academyddion ac yn bwysicaf oll, y cynhyrchwyr eu hunain. Dylai strategaethau fod yn hygyrch i’r cynhyrchydd ac yn hawdd eu gweithredu er mwyn lleihau’r effaith ar amser a chyllid.

Cynhyrchodd prosiect FeatherWel, dan arweiniad Prifysgol Bryste, ganllaw i ffermwyr ieir dodwy i wella’r gorchudd plu, gan edrych ar systemau dodwy a magu. Edrychwch ar y canllaw i gael cyngor am strategaethau rheoli hawdd eu gweithredu i leihau pigo niweidiol yn eich haid. Chwiliwch am ddigwyddiadau dofednod trwy Cyswllt Ffermio. 

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cynllun gwrthsefyll newid hinsawdd ar gyfer Busnesau Garddwriaeth yng Nghymru
Opsiynau amgen ar gyfer deunydd gorwedd i wartheg llaeth: Tail sych wedi’i ailgylchu
Dr Natalie Meades: IBERS, Aberystwyth University. Mawrth 2024 Mae
Cyfleoedd ar gyfer sefydlu gwerth tail a slyri a’u defnydd mewn economi gylchol
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Ebrill 2024