cyswllt ffermio iechdiogelwch 1 0

26 Mehefin 2018

 

Lladdwyd 30 o bobl yn y sectorau amaethyddol, coedwigaeth neu bysgodfeydd yn y Deyrnas Unedig yn ystod 2016 a 2017.

Dyna’r ffeithiau syfrdanol a rannwyd gyda ffermwyr Cymru yn ystod digwyddiad Cyswllt Ffermio yng Ngholeg Amaethyddol Glynllifon ger Caernarfon, Gwynedd yn ddiweddar.

Mae 9 o ffermwyr yn cael eu lladd ar ffermydd yn y DU ym mhob 100,000 o’r gweithlu o’i gymharu ag 1.5 o fewn y diwydiant adeiladu.

“Mae’r diwydiant yn sylweddoli bod gennym broblem, ond mae ffermwyr unigol sy’n gweithio o gwmpas eu ffermydd bob dydd yn gyndyn o weld bod angen gwneud newidiadau,” eglurodd Brian Rees, Cadeirydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru a arweiniodd y digwyddiad.

Rhoddwyd cyfle i’r rhai a oedd yn bresennol weld sesiynau ymarferol o fywyd go iawn ar y fferm yn y digwyddiad yng Nglynllifon. Dywedodd ffermwyr fod y sesiynau yn ystod y dydd wedi bod yn llwyddiannus a defnyddiol, a rhannwyd yn grwpiau llai i ddysgu mwy am wahanol sefyllfaoedd diogelwch yn ystod y digwyddiad.

Dangoswyd sut i drafod da byw yn ddiogel a lleihau’r perygl o ddamweiniau gan ddefnyddio craets (crush) gwartheg ar y safle yn ystod un o’r sesiynau grŵp. Rhoddwyd cipolwg i eraill ar sut i ddefnyddio ATV neu feic cwad yn effeithiol, trwy ddefnyddio pwysau eich corff i addasu a gwrthbwyso llethrau serth a thir creigiog. Defnyddiwyd peiriannau fferm a thractor ar gyfer y drydedd sefyllfa ddiogelwch, i ddangos y ffordd orau i fod yn ddiogel wrth ddefnyddio’r peiriannau a thrafod cemegau peryglus wrth chwistrellu ar y fferm.

Meddai Dyfan Parry Jones ffermwr ifanc o Faesteran, Penegoes, ger Machynlleth: “Clywsom stori gan un o’r hyfforddwyr am ddamwain PTO, a sut y collodd ffermwr ei fraich gyfan mewn damwain anghyffredin.

“Pwysleisiodd bwysigrwydd STOP diogelwch, a’r cyngor a roddir i ddiffodd peiriant y tractor wrth fynd oddi arno i archwilio’r peirannau neu eu datgysylltu. Mi fydd y stori yna yn bendant yn aros yn fy nghof.”

Meddai Gwyndaf Roberts o Lanllyfni, Dyffryn Nantlle, ffermwr bîff a defaid: “Roedd yr hyfforddiant yn llawer mwy cynhwysol nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl. Rhoddodd gipolwg gwirioneddol i ni o’r problemau sy’n effeithio arnom ar ffermydd. Roedd gen i ddiddordeb arbennig mewn dysgu am y system trafod gwartheg, a’r cyngor a roddwyd i ni.

Meddai Edward Rhys Evans, ffermwr ifanc sy’n ffermio gyda’i deulu yn Nysyrnant, Cwm Maethlon yn Nhywyn: “Roedd yr hyfforddiant ar feiciau cwad yn ddefnyddiol dros ben. Cynghorwyd ni sut i atal unrhyw beth anffodus rhag digwydd wrth deithio i lawr llethrau serth. Byddaf yn yn cofio’r cyngor pan fyddaf nôl gartref yn gweithio ar y tir.”

Dyma’r tro cyntaf i Huw Thomas, ffermwr bîff a defaid o Feillionydd Bach, ger Aberdaron, Pen Llŷn, fynd i ddigwyddiad Cyswllt Ffermio: “Gwnaed argraff arna i oherwydd bod yr hyfforddwyr wedi siarad efo ni, mewn sefyllfaoedd go iawn ar y fferm. Roedd yn amlwg bod ganddynt brofiad o waith fferm ac roedd eu ffordd o gyflwyno’r wybodaeth yn addas.

“Roeddwn yn gallu uniaethu â’r sylw bod nifer ohonom ddim yn sylweddoli ein bod yn mynd yn hŷn, a’n bod yn methu â symud mor gyflym â phan oeddem yn 20 oed! Rwyf wedi cael profiad o fod mewn sefyllfaoedd peryglus gyda gwartheg mewn sied, ac yn sicr fydda i ddim yn mynd ar fy mhen fy hun i gael golwg ar y lloi newydd eu geni ar y fferm y dyddiau yma. Rwy’n gwneud yn siŵr bod fy mab neu rywun arall gyda mi. Dydi o ddim gwerth y risg pan ydych yn gwybod bod rhai gwartheg yn wyllt.”

Roedd y digwyddiad yng Nglynllifon yn rhan o raglen hyfforddiant dau ddiwrnod gan Cyswllt Ffermio, gyda’r cyntaf yn rhoi cyfle i ffermwyr yn Ne Cymru fynychu hyfforddiant iechyd a diogelwch yng Ngholeg Gelli Aur, Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin. Mae rhagor o raglenni ar y gweill drwy Gymru.

“Rydym yn falch iawn o’r ymateb gan ffermwyr drwy Gymru,” eglurodd Sara Jenkins, Rheolwr Datblygu ar gyfer Cyswllt Ffermio, gyda’r rhaglen yn cael ei chynnal ar ran Llywodraeth Cymru gan gwmni Menter a Busnes.

“Rydym wedi cael cymorth gwych gan bartneriaid i gynnal y digwyddiadau yma o Wasanaeth Cysylltwyr Fferm Llywodraeth Cymru, NFU Cymru, FUW, RABI a Grŵp Llandrillo Menai. Yn sicr mae iechyd a diogelwch yn fater sydd angen sylw yn y diwydiant, ac rydym yn ddiolchgar i Goleg Gelli Aur a Choleg Glynllifon am eu cefnogaeth i gynnal y digwyddiadau yma. Mae mwy o ddigwyddiadau eisoes ar y calendr, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod iddynt i gofrestru yn fuan.”

Meddai Brian Rees, Cadeirydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru: “Efallai bydd ein sesiynau’n fodd i arbed bywydau rhai ffermwyr gan ein bod wedi dangos bod nifer o ffyrdd y gallwch leihau perygl damweiniau ac anafiadau i chi, eich teulu a staff.

“Mae'n ffaith bod plant sy’n cael eu lladd mewn damwain gyda pheiriant fferm yn cael eu lladd ar y llwybr sy’n mynd o ddrws y ffermdy at y peiriant ei hun. Mae gallu gweld wrth eistedd ar beiriant yn ffactor pwysig, gan nad yw’n bosibl gweld plant bach ar rai lefelau. Yn anffodus, mae’r amgylchiadau trasig yma’n dal i ddigwydd ar ffermydd y DU.

“Rhaid i ni hefyd gofio mai cyfrifoldeb perchennog y fferm yw unigolion sy’n ymweld â ffermydd, boed yn filfeddygon, ymgynghorwyr proffesiynol neu bobl sy’n danfon nwyddau. Dylid lleihau perygl cyn belled â phosibl, er mwyn i bawb sy’n gweithio neu’n ymweld â’r fferm mor ddiogel ag sy’n ymarferol bosibl.”

Bydd dau ddigwyddiad ‘Achub Bywydau a Bywoliaeth’ pellach yn cael eu cynnal gan Cyswllt Ffermio mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Diogelwch Ffermio Cymru, rhwng 13:00 a 16:000 yn y lleoliadau canlynol:

 

Dydd Mawrth 28 Awst 2018

Maes y Sioe Frenhinol, Llanfair ym Muallt, Powys. LD3 3SY

Dydd Mercher 29 Awst 2018

Marchnad Da Byw Rhuthun, LL15 1PB

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cyrsiau Cyswllt Ffermio yn helpu i lansio busnes cymorth gyda gwaith swyddfa fferm
10 Ionawr 2025 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites