9 Mai 2019

 

eurig evans 020 0

Mae ffermio’n galw am ystod o sgiliau, gan gynnwys cryfder corfforol ac emosiynol, ac mae Eurig Evans, sy’n ffermio yn Llanychaer ger Aberdaugleddau, yn defnyddio ei brofiad a’i empathi i helpu’r rhai sy’n cael eu herio gan fywyd bob dydd.

Ei nod yw sefydlu Fferm Gwaun Care Farm, lle bydd modd helpu pobl ifanc gydag amrywiaeth o anawsterau i oresgyn eu heriau drwy weithgareddau’n ymwneud â’r tir.

Gyda bwrsariaeth drwy raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio, bu Eurig yn ymweld â’r Eidal i weld gwaith ar fferm San Patrignano Care Farm – arweinydd sector mewn adferiad wedi’i deilwra ar gyfer pobl gydag amrediad eang o anawsterau, gan gynnwys problemau iechyd meddwl sy’n cael eu sbarduno gan ddibyniaeth.

Roedd yr ymweliad yn ysbrydoliaeth i Eurig  sydd ar fin dechrau cwrs i fod yn gwnselydd - a chadarnhaodd yr ymweliad ei gred y gallai dilyn rhaglen sgiliau gwledig a ddarperir mewn amgylchedd fferm ofal fod o gymorth i bobl sy’n cael wynebu problemau er mwyn adfer eu hyder o fewn y gymdeithas.

“Un o’r pethau pwysicaf a ddysgais o ganlyniad i’r ymweliad â San Patrigano, oedd bod unrhyw beth yn bosibl. Os ydych chi’n gallu gweddnewid bywyd rhywun sy’n byw gyda dibyniaeth ar heroin, gallwch wneud unrhyw beth.”

Mae Eurig, sydd eisoes yn ymwneud â helpu eraill, yn diwtor than amser yng Ngholeg Plas Dwbl, Clunderwen – sy’n darparu ystod o weithgareddau’n ymwneud â’r tir a chrefft i helpu pobl ifanc ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, cymdeithasol, gwaith a sgiliau byw.

Mae’r myfyrwyr yn treulio amser ar ei fferm 200 erw lle mae’n magu 150 o heffrod llaeth, ac mae ganddo hefyd fusnes chwarel sy’n cynhyrchu darnau mân o lechi Glas Sir Benfro. Yn ddiweddar, penderfynodd roi’r gorau i odro’n rhan amser a phrynodd ddiadell o 117 o famogiaid Friesland croes – ac mae’n gwerthu eu llaeth i wneuthurwr caws lleol.

Yn ôl Eurig, “Mae’n ffordd wych o ddysgu’r myfyrwyr o ble daw ein llaeth. Rydw i wedi mynd â nhw i weld gwartheg yn cael eu godro, ond gyda’r defaid, gallant bellach brofi’r gwaith godro ar fy fferm, yn ogystal â chynorthwyo i fagu’r ŵyn.”

Ychwanegodd, “Rydw i hefyd yn bwriadu datblygu gweithgareddau coetir a gweithdai gwaith coed gwyrdd, gan ymgorffori’r rhain i weithgareddau eraill yn seiliedig ar natur i gynnig amgylchedd ddysgu holistaidd.”

Mae fferm Gwaun Care Farm yn dal yn ei gyfnod cynnar, ond mae Eurig yn benderfynol o helpu cymaint o bobl â phosibl, ac mae hefyd yn ystyried y bydd sefydlu’r Fferm Ofal yn rhan o’i gynlluniau at y dyfodol.

Mae wedi derbyn anogaeth yn y fenter hon drwy ymuno â grŵp Agrisgôp Cyswllt Ffermio, ac mae’n diolch iddynt am roi’r hyder iddo arwain a datblygu ei gynlluniau.

“Rydw i wedi derbyn cefnogaeth wych gan Cyswllt Ffermio, ac mae’r grŵp Agrisgôp wedi bod yn wych, yn llawn anogaeth - ni allaf ddiolch digon iddyn nhw. Roedd y syniad gen i, ond pan fyddwch chi’n rhannu’r syniad a chael barn saith neu wyth o bobl eraill hefyd, mae’n eich cynorthwyo i weld pethau o safbwynt gwahanol ac i edrych ar ffrydiau gwahanol.”

Er nad yw pawb yn dymuno rhannu eu meddyliau na’u syniadau gydag eraill yn eu cymuned leol, mae Eurig yn awgrymu y dylent ymuno â grŵp Agrisgôp tu hwnt i’w hardal leol.

Ceir manteision cymdeithasol ehangach i aelodau’r grŵp yn ogystal, gan fod ffermio’n gallu bod yn fywyd unig, sy’n gallu effeithio’n negyddol ar iechyd a lles meddyliol.

Dywed Eurig, “Fel ffermwyr, nid ydym yn gweld neb o reidrwydd mewn diwrnod. Ond mae gadael y fferm, am awr hyd yn oed, yn therapi ynddo’i hun.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cyrsiau Cyswllt Ffermio yn helpu i lansio busnes cymorth gyda gwaith swyddfa fferm
10 Ionawr 2025 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites