13 Awst 2019

 

1 Crynodeb

 

Fe wnaeth fferm dofednod o Gymru gymryd rhan mewn prosiect a gafodd ei redeg trwy gynllun Ffermydd Ffocws Cyswllt Ffermio.  Caiff y fferm ei ffermio ar hyn o bryd gan dîm o ŵr a gwraig a’u mab.  Yn ogystal â’r busnesau bîff a defaid, mae’r busnes hefyd yn rhedeg dwy uned sy’n magu 40,000 o gywion brwylio yr un.  Cafodd yr uned ddofednod gyntaf ei hadeiladu wyth mlynedd yn ôl. Roedd y fenter gychwynnol hon yn llwyddiant mawr, felly fe wnaeth y teulu ehangu, ac adeiladwyd ail uned magu cywion brwylio.  Mae’r fferm wedi’i hachredu trwy gynllun y Tractor Coch. Mae’r teulu yn bwriadu gwella effeithiolrwydd a phroffidioldeb y fenter dofednod ymhellach trwy weithredu’r dechnoleg ddiweddaraf.  

Fe wnaiff rheoli amgylchiadau amgylcheddol mewn unrhyw sied ddofednod leihau cyfanswm cost cynhyrchu.  Mewn llawer o fusnesau dofednod, yr amcan yw darparu amgylchedd sy’n uchafu perfformiad yr haid, yn cyflawni’r cyfraddau twf gorau ac unffurf ac effeithlonrwydd porthiant uchel, ac ar yr un pryd, sicrhau na chaiff safonau iechyd a lles yr adar eu peryglu. 

Amcanion Allweddol Prosiect y Fferm Ffocws:

  • Dangos sut gall technoleg fodern helpu i nodi ac atal anawsterau o ran iechyd a lles anifeiliaid.
  • Dangos sut gellir sicrhau arbedion effeithiolrwydd ac enillion ariannol trwy’r defnydd o dechnoleg fodern.
  • Gwneud penderfyniadau mwy gwybodus ynghylch rheoli ar sail gwerthusiadau rheolaidd o amgylchedd yr adar.

 

   

                   

ta 1

 

Yn ystod pob cam o ddatblygiad adar, ceir parth tymheredd penodol ble bydd cyfanswm yr egni metaboladwy uwchlaw’r hyn sy’n ofynnol i gynnal y corff yn caniatáu i’r aderyn ennill pwysau.  O fewn y “parth cysur thermol” hwn, ceir ystod tymheredd cyfyng (o fewn 1 neu 2 ⁰c) ble bydd yr aderyn yn gwneud y defnydd gorau o egni ar gyfer twf.  Dyma’r parth perfformiad optimaidd, fel y gwelir yn y graff isod.  Bydd darparu’r tymheredd optimaidd hwn – ynghyd â chyfanswm digonol o borthiant a bwyd – yn sicrhau y caiff lles a pherfformiad economaidd yr aderyn eu huchafu (Aviagen, 2010). 

Awyriad yw’r adnodd pwysicaf o ran rheoli’r amgylchedd mewn adeiladau ble cedwir adar i sicrhau’r perfformiad gorau gan adar.  Dylai'r amgylchedd mewn adeiladau fod yn unffurf; gall pocedi o aer marw, llecynnau oer neu lecynnau poeth ostwng perfformiad heidiau, a gallant achosi cynnydd yn lefelau marwoldeb heidiau (Aviagen, 2010).  

Ar gyfer y prosiect hwn, defnyddiwyd synhwyrydd PrognostiX i greu map amgylcheddol o dymheredd a lleithder yn y siediau magu cywion brwylio.  Fe wnaeth hyn ddynodi’r rhannau hynny sy’n broblemus o ran tymheredd a lleithder yn yr adeiladau dofednod.  Mae’r mapiau byw sy’n cael eu creu yn cael eu defnyddio i lywio penderfyniadau ynghylch rheoli’r adeiladau dofednod. 

 

2 Casgliadau'r Prosiect

 

2.1 Crynodeb o'r casgliad

 

Fe wnaeth technoleg y synwyryddion PrognostiX ddarparu setiau data gwerthfawr y gellir eu defnyddio fel sail i wella rheolaeth.

Er nad yw manylion y newidiadau a wnaed o ganlyniad i ddefnyddio’r dechnoleg ar gael, mae’r wybodaeth a gasglwyd ac a gyflwynwyd yn weledol yn dangos beth yw gwerth y dechnoleg a pha mor haws yw defnyddio’r dechnoleg honno o ran mapio manylion amser real.

Mae’r casgliadau ynghylch rheolaeth yn cynnwys:

Mae darparu amgylchedd unffurf mewn adeiladau ar gyfer adar yn hanfodol i sicrhau lefelau da o gynhyrchiant – fe wnaeth y dechnoleg ddarparu tystiolaeth glir o amgylchedd tyfu anunffurf. 

Dylai'r amgylchedd mewn adeiladau fod yn unffurf; gall pocedi o aer marw, llecynnau oer neu lecynnau poeth ostwng perfformiad heidiau, a gallant achosi cynnydd yn lefelau marwoldeb heidiau.  Fe wnaeth y synhwyrydd PrognostiX gasglu data oedd yn dangos nad oedd tymheredd a lleithder yn unffurf ar lefel yr adar ym mhob rhan o’r sied.  Fe wnaeth y map o wres amgylcheddol ddynodi’r rhannau o’r adeilad ble nad oedd tymheredd optimaidd, ac felly, fe wnaeth hynny amlygu ble oedd angen gwneud gwelliannau. 

Fe wnaiff rheoli amgylchiadau amgylcheddol mewn unrhyw adeilad dofednod leihau cyfanswm cost cynhyrchu.

Mewn llawer o fusnesau magu dofednod, yr amcan yw darparu amgylchedd a wnaiff uchafu perfformiad yr haid er mwyn cyflawni cyfraddau twf optimaidd ac unffurf ac effeithlonrwydd porthiant a chynnyrch cig uchel, ac ar yr un pryd, sicrhau na chaiff safonau iechyd a lles yr adar eu peryglu.

Gosod systemau awyr priodol yw’r dull pwysicaf o reoli’r amgylchedd mewn adeiladau.

Caiff amonia ei ollwng i’r amgylchedd pan fydd gwasarn dofednod yn rhyw wlyb.  Dyma un o’r problemau mwyaf cyffredin yn ymwneud ag ansawdd yr aer, a bydd hynny’n arwain at broblemau o ran iechyd adar a pherfformiad salach.  Mae awyriad priodol yn lleihau’r perygl o amonia yn ymgasglu, trwy reoli’r lleithder cymharol yn yr adeilad. 

 

2.2 Safbwynt y ffermwyr ynghylch y prosiect

Prif amcan y prosiect oedd ymchwilio i’r defnydd o dechnoleg fodern mewn unedau magu dofednod.  Credai’r ffermwyr bod y prosiect wedi eu helpu i ddatblygu dealltwriaeth well o'u hamgylcheddau magu cywion brwylio. 

Credai’r teulu y dylai technoleg gael ei defnyddio yn ehangach ar draws y diwydiant i ddadansoddi amgylchiadau amgylcheddol mewn unedau. 

Yn eu barn hwy, roedd y synwyryddion PrognostiX yn hawdd i’w gosod yn y lle cyntaf. 

Yr unig anhawster y gwnaethant gyfeirio ato oedd gorfod ailosod y synwyryddion yn rheolaidd.  Ar ôl bob criw o adar, cyn glanhau’r sied, roedd angen i’r synwyryddion gael eu dadosod a’u gosod unwaith yn rhagor ar ôl i’r criw newydd o adar gyrraedd yr uned.  Roeddent yn credu y gellid datrys hynny trwy osod synwyryddion parhaol neu sefydlu arferion rheoli mwy caeth. 

Ystyrid bod y synwyryddion PrognostiX yn cynnig gwasanaeth rhagorol ac nad oeddent yn amharu o gwbl ar y tasgau beunyddiol yn y sied. 

 

2.3 Gwersi eraill i'w dysgu gan y diwydiant

Bydd derbyn technoleg newydd yn helpu’r diwydiant i ymateb i ofynion a wynebir gan y sector yn y dyfodol, o ran cynhyrchu yn fwy effeithlon, safonau lles anifeiliaid uwch a chynhyrchu mwy.

Mae’r nifer o unedau dofednod ar gynnydd ledled Cymru, felly mae’n ofynnol i bob menter barhau i fod yn gystadleuol.  Bydd gwneud buddsoddiadau a wnaiff sicrhau arbedion ariannol yn y dyfodol yn amddiffyn y busnes rhag amrywiadau yn y gadwyn gyflenwi a chystadleuaeth gynyddol gan gyflenwyr yn y sector hwn.

Dull cyson a da o reoli’r haid, ynghyd a rheoli costau yn dda, yw’r sylfaen i sicrha busnes dofednod proffidiol.  

Dylid mynd ati i geisio cyngor proffesiynol gan ymgynghorwyr arbenigol ym maes dofednod ac amaethyddiaeth.  Fe wnaiff hyn sicrhau fod y busnes yn hollol ymwybodol o’r arferion sy’n briodol ar gyfer amgylchiadau unigol y fferm, er mwyn gwella perfformiad a chynhyrchiant.

Dylid gwneud penderfyniadau doeth wrth ddewis y dechnoleg briodol i’w gosod.  Dylai technoleg o’r fath fod yn addas ar gyfer anghenion busnesau unigol. 

Dylid ystyried yn ofalus wrth fwriadu cydweithredu â chwmnïau technoleg. Ymchwiliwch i ansawdd y cymorth ar ôl gwerthu a gynigir, yn ogystal â’u lleoliad a’u profiad busnes blaenorol.  Bydd anawsterau yn sicr o ddigwydd rywbryd neu’i gilydd yn achos technoleg, felly mae’n hollbwysig sicrhau bod cymorth ar ôl gwerthu ar gael yn gyflym ac yn rhwydd. 

Gweithredwch i wella effeithiolrwydd a chynhyrchiant trwy gofnodi’r canlynol yn rheolaidd:

  • Ymddygiad y criw o adar
  • Perfformiad
  • Iechyd a lles
  • Costau sy’n gysylltiedig â llafur  

 

3 Adolygiad o'r prosiect

 

3.1 Cefndir rheoli'r hinsawdd mewn unedau cynhyrchu cywion brwylio

Mae anhwylderau resbiradol, treulio ac ymddygiad yn fwy tebygol o ddigwydd mewn adeiladau ble na cheir amgylchiadau hinsoddol digon da.  Mae effeithiolrwydd y defnydd o borthiant yn gysylltiedig â statws iechyd yr haid. Ni ellir disgwyl i anifeiliaid nad ydynt yn iach berfformio ar eu gorau.  Bydd anifeiliaid iau neu anifeiliaid sydd â lefelau uchel o gynhyrchiant yn fwy sensitif i amgylchiadau hinsoddol yn yr adeilad.  Mae’n rhaid mesur y ffactorau hinsoddol dilynol ar lefel yr anifail:

  • Tymheredd
  • Lleithder cymharol
  • Cyfansoddiad yr aer
  • Cyflymder yr aer a symudiadau’r aer
  • Goleuni

Ffactorau sy’n dylanwadu ar amgylchiadau hinsoddol a microhinsawdd yr adar

Gall hinsawdd adeiladau gael ei ddylanwadu gan ddefnydd ynysu yn y to, y waliau a’r llawr, awyru, oeri a goleuo. Gelwir yr hinsawdd sy’n uniongyrchol o amgylch yr adar yn ficrohinsawdd (er enghraifft, cywion ieir mewn cylch deor). Yn wir, y microhinsawdd yw’r unig beth sy’n bwysig i’r adar. Gall yr hinsawdd yn yr adeilad fod yn dderbyniol tra bod yr hinsawdd ar lefel yr adar yn anaddas. Er enghraifft, mae CO2 yn nwy trwm a gall lefelau CO2 ar lefel yr adar fod yn llawer uwch nag ar uchder o 2m. Enghraifft arall yw’r cylch deor. Mae’r defnydd o gylchoedd deor yn golygu y gall tymheredd yr adeilad fod yn is cyn belled ag y bydd y tymheredd ar lefel y cywion ieir (o dan y deorydd) yn gywir. Gweithredir yr egwyddor hon er mwyn arbed ar gostau gwresogi. Dylid cymharu’r manteision â’r anfanteision, h.y. yn achos cylchoedd deor, gallwch chi arbed ynni, ond yn aml iawn, bydd y llafur sydd ei angen i adeiladu a rheoli’r cylchoedd deor yn fwy.

 

Tymheredd

Mae ieir dodwy yn homeothermig, h.y. o fewn ystod benodol, mae tymheredd eu corff yn eithaf cyson. Ar gyfartaledd, mae tymheredd corfforol adar rhwng 41°C a 42.2°C. Caiff tymheredd y corff ei gynnal ar lefel eithaf cyson a chaiff ei reoleiddio gan ran o ymennydd cywion ieir (y chwarren bitẅidol). Gellir cymharu’r rhan hon o’r ymennydd â thermostat. Bydd cyfangu a lledu’r pibellau gwaed a chyflymder resbiradu yn dylanwadu ar allyrru a chadw gwres, sydd felly yn dylanwadu ar dymheredd y corff. Bydd angen rhywfaint o amser cyn i fecanweithiau rheoleiddio gwres gychwyn gweithredu mewn anifeiliaid newydd-anedig, ac felly mae arnynt angen tymheredd amgylchynol uwch nag anifeiliaid yn eu llawn dwf. Yn ychwanegol, mae’r gyfradd rhwng arwynebedd arwyneb anifeiliaid ifanc a’u pwysau yn anffafriol, ac nid oes ganddynt unrhyw gronfeydd o fraster.

 

Parthau tymheredd

Disgrifir y parth cysurus fel y parth tymheredd sy’n caniatáu i’r adar gadw tymheredd eu corff ar lefel gyson heb fawr ddim ymdrech. Mae’r parth tymheredd hwn hefyd yn dibynnu ar lefel y porthi a’r amgylchiadau mewn adeiladau. Fe wnaiff ymddygiad adar newid pan fydd tymereddau yn codi i lefel sy’n uwch na’r parth cysurus, oherwydd byddant yn cychwyn dyhefod ac yn newid ystum eu corff. Pan fydd tymereddau yn is na’r parth cysur, fe wnaiff yr adar newid ystum eu corff a swatio at ei gilydd.

Disgrifir y parth thermoniwtral fel y parth tymheredd sy’n caniatáu i’r adar gadw tymheredd eu corff ar lefel gyson ag ychydig iawn o ymdrech. Mae’r parth tymheredd hwn yn dibynnu ar lefel y porthi ac amgylchiadau adeiladau ble cedwir yr adar a ffactorau eraill. Gelwir y tymheredd isaf yn y parth thermoniwtral yn dymheredd critigol isaf (LCT). Os bydd tymereddau yn gostwng i lefelau sy’n is na’r tymheredd hwn, bydd yr adar yn cychwyn defnyddio egni o borthiant i gynhesu eu hunain (h.y. cynnal tymheredd eu corff), ac oherwydd hynny, byddant yn bwyta mwy. Gelwir y tymheredd uchaf yn y parth thermoniwtral yn dymheredd critigol uchaf (HCT). Os bydd y tymheredd yn codi i lefel sy’n uwch na’r tymheredd hwn, ni fydd yr adar yn gallu allyrru eu gwres. Byddant yn cychwyn bwyta llai ac fe wnaiff cynhyrchiant ostwng o ganlyniad i hynny.

Mae’r tymheredd critigol isaf ac uchaf yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar:

  1. Oedran
  2. Pwysau’r corff
  3. Y system cadw adar dan do
  4. Lefel y porthi
  5. Lleithder cymharol
  6. Cyflymder yr aer
  7. Iechyd

 

Rheoleiddio gwres trwy ddulliau corfforol

Pan fydd tymereddau oddi allan i’r parth cysurus, bydd adar yn gallu defnyddio sawl mecanwaith sy’n eu galluogi i gadw tymheredd eu corff ar lefel gyson heb orfod cynhyrchu gwres ychwanegol. Rheoleiddio gwres y corff yw hyn ac mae’r ffactorau sy’n dylanwadu ar reoleiddio gwres y corff yn cynnwys:

  • Ynysu meinweoedd - os oes gan adar haenen o fraster isgroenol, gallant fforddio gadael i dymheredd eu croen ostwng . Os caiff anifeiliaid eu porthi’n briodol, gallant gronni haenen o fraster isgroenol pan fydd y tymheredd yn gostwng.
  • Plu – mae gan blu effaith ynysu ac maent yn gostwng y cyfanswm o wres a gaiff ei golli i’r amgylchedd.
  • Newid ystum y corff a swatio at ei gilydd - gall adar reoleiddio colledion gwres trwy gyfrwng ystum y corff. Gallant leihau colledion gwres trwy swatio’n agos at ei gilydd. Ar y llaw arall, pan fydd y tywydd yn boeth, bydd yr adar yn cynyddu arwynebedd eu corff cymaint ag y gallant.
  • Dŵr yn anweddu - os bydd tymereddau yn uchel, neu’n eithriadol o uchel, caiff colledion gwres y gellir ei deimlo eu lleihau i’r eithaf, a bydd angen i’r holl wres bron iawn gael ei golli fel gwres cudd. Mae colli gwres cudd yn cyfeirio at y gwres a gollir o’r corff trwy ddiddymu lleithder resbiradol.
  • Llif y gwaed trwy’r croen a’r pilenni mwcaidd – gellir rheoli llif y gwaed i’r croen a’r pilenni mwcaidd trwy grebachu a lledu’r pibellau gwaed. Po fwyaf fydd llif y gwaed, y mwyaf o wres fydd yn cael ei golli.

Rheoleiddio gwres trwy ddulliau emegol

Mae rheoleiddio gwres trwy ddulliau cemegol yn ddull arall y gall dofednod ei ddefnyddio i reoleiddio gwres eu corff. Pan fydd y tymheredd amgylchynol oddi allan i’r parth thermoniwtral, gall yr adar:

  1. Gynyddu eu cymeriant o borthiant pan fydd y tymheredd yn is na’r parth thermoniwtral.
  2. Gostwng eu cymeriant o borthiant pan fydd y tymheredd yn uwch na’r parth thermoniwtral. 

 

Mesur ac asesu tymheredd

Yr anifail ei hun yw’r offeryn gorau i fesur tymheredd.  Dylid asesu’r tymheredd trwy arsylwi’r adar eu hunain pan fydd yr anifeiliaid yn gorffwys yn unig, nid pan fyddant yn fywiog neu’n bwyta. Dyma ddangosyddion amlwg o hinsawdd annerbyniol mewn adeiladau:

  • Ymddygiad yr anifeiliaid
  • Ystum corfforol annormal
  • Annormaleddau eithafol
  • Gall plu annormal awgrymu camgymeriadau o ran hinsawdd adeiladau
  • Amledd tagu/tisian
  • Bywiogrwydd

Mesur y tymheredd yw’r dull mwyaf cyffredin o asesu hinsawdd mewn adeilad. Gall mesuriad o’r fath gynnig llawer iawn o wybodaeth ddefnyddiol ac nid yw’n ddrud nac yn anodd gwneud hynny. Mae sawl dull o fesur y tymheredd:

  1. Thermomedr isafswm/uchafswm (ym mhob adeilad neu ym mhob rhan o adeilad)
  2. Synhwyrydd tymheredd (rheoli’r hinsawdd gan ddefnyddio dulliau cyfrifiadurol)
  3. Thermomedrau (alcohol, electronig)
  4. Thermomedrau isgoch – thermomedrau electronig

 

Lleoliad y thermomedr

Nid yw’r tymheredd mewn adeilad yn unffurf, ac felly, mae nifer o fannau ble na ddylid gosod y synhwyrydd (h.y. ni ddylid ei hongian yn agos at y wal neu'r tu ôl i rywbeth sy’n llesteirio llif yr aer). Yn ychwanegol, mae lleoliad y fewnfa aer a’r offer gwresogi yn bwysig o ran pennu’r lleoliad gorau ar gyfer y synhwyrydd tymheredd.  Y dewis gorau yw ei osod mor agos ag y bo modd at yr anifeiliaid ac mewn modd sy’n caniatáu i awyr iach basio'r synhwyrydd cyn iddo gyrraedd yr anifeiliaid.

 

Tymereddau argymelledig ar gyfer ieir dodwy a chywion brwylio

Mae’r tymheredd critigol ar gyfer cywion brwylio ac adar magu yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar oedran.  Nodir y tymereddau argymelledig mewn adeiladau ble cedwir dofednod yn y tabl dilynol.

 

Tymereddau argymelledig ar gyfer cywion brwylio 

Diwrnod cyntaf

32-34°C

Gostyngiad yr wythnos 1af

30°C

Gostyngiad yr 2il wythnos

26°C

Gostyngiad y 3edd wythnos

22°C

Gostyngiad y 4edd wythnos

20°C

Daliwch sylw: Tymereddau argymelledig yw’r rhain a dylid eu haddasu yn unol â’r amgylchiadau lleol os bydd hynny’n ofynnol.

 

Lleithder cymharol

Defnyddir y cysyniadau dilynol i fesur lleithder yr aer mewn adeiladau ble cedwir dofednod:

  • Lleithder absoliwt = sawl gram o leithder sy’n bresennol mewn 1m3 o aer.
  • Lleithder mwyaf = uchafswm y gramau o leithder a all fod yn bresennol mewn 1m3 o aer ar dymheredd penodol.
  • Lleithder cymharol = y berthynas rhwng cynnwys lleithder yr aer a’r cynnwys lleithder mwyaf ar lefel presennol tymheredd yr aer a fynegir mewn canrannau. 

Enghraifft o % lleithder cymharol

Os bydd tymheredd yr aer yn 10 °C a bydd yn cynnwys 5.7 g o leithder, bydd y lleithder cymharol yn 5.7/9.5 x 100 = 60%.  Os caiff yr un aer ei gynhesu heb i leithder gynyddu nes bydd yn cyrraedd tymheredd o 20°C, bydd y lleithder cymharol yn 5.7/17.5 x 100 = 33%. Felly gellir casglu y gwnaiff cynhesu’r aer achosi lefel is o leithder cymharol. I’r gwrthwyneb, fe wnaiff oeri’r aer achosi lleithder cymharol uwch e.e. pe bai tymheredd yr un aer yn 4°C, byddai’r lleithder cymharol yn 5.7/6.4 x 100 = 89%.   

Mae hyn yn dangos bod cynhesu aer yn cynyddu ei gapasiti i gynnwys lleithder.

 

Mesur lleithder

Caiff lleithder cymharol mewn adeiladau dofednod ei fesur i bennu a yw anhwylderau resbiradol yn deillio o leithder cymharol sy’n rhy uchel neu’n rhy isel. Os bydd y lleithder cymharol yn rhy uchel, gall cyddwysiad gronni yn yr adeilad. Mae hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar dwf micro-organebau.

 

Mesur a rheoli lleithder

Mae sawl dull o fesur faint o leithder sydd yn yr aer mewn adeilad cadw dofednod, a’r mwyaf cyffredin yw’r seicromedr (sef hygromedr bwlb sych a gwlyb) neu’r hygromedr mecanyddol. Gall mesur faint o leithder sydd yn aer fod yn ddefnyddiol, ond ceir costau uwch wrth fesur lleithder o gymharu â chostau mesur tymheredd yn unig.  Oherwydd hynny, nid yw’n gyffredin i fesur faint o leithder sydd yn yr aer.

Caiff lleithder ei reoli trwy gynhesu neu oeri’r aer mewn adeilad yn ddwys mewn ymateb i’r tymheredd oddi allan i’r adeilad. Pan fydd tymereddau allanol yn isel, bydd lleithder cymharol yn yr adeilad yn isel, a bydd hynny’n aml yn gwneud i lwch sych gylchredeg yn yr aer o fewn yr adeilad. Os bydd y lleithder cymharol yn rhy uchel, gall hyn achosi gwasarn gwlyb.  

Y lleithder cymharol delfrydol ar gyfer dofednod yw 60-80%.

 

3.2 Nod y prosiect

  1. Nodi buddion systemau rheoli gwybodaeth byw.
  2. Cymharu perfformiad yr haid a nodi a ellir defnyddio technoleg i wella iechyd, lles a pherfformiad yr haid.
  3. Egluro sut gall technoleg newydd gael ei defnyddio mewn unedau dofednod.

 

3.3 Methodoleg

Cafodd y system synwyryddion PrognostiX ei gosod yn un o’r unedau sy’n cynnwys 40,000 o gywion brwylio.  Mae’n system synwyryddion sy’n mapio tymheredd a lleithder yr amgylchedd ac mae’n cofnodi data mewn amser real. Mae’r defnydd o synwyryddion diwifr cost effeithiol yn darparu cynrychioliad diagramatig neu fap lliw o’r hyn sy’n digwydd yn amgylchedd yr adeilad dofednod. 

Mae nodweddion allweddol y system yn cynnwys y canlynol (dyfynnir o wefan PrognostiX):

  • Mesur amser, tymheredd a lleithder yn fanwl gywir
  • LoRA, 4G, WiFi, BLE a phrotocolau trosglwyddo perchnogol
  • Cadarn a dŵr-wrthiannol 
  • Hawdd i’w gosod gan ddefnyddio carabiner
  • Cyfwng rhwng mesuriadau: 1 funud
  • Ystod y mesuriadau (Lleithder Cymharol): 0 - 100% LlC
  • Ystod y mesuriadau (Tymheredd): -10 - 80 °C
  • Cywirdeb y mesuriadau (Tymheredd; 5-60°C): 0.1°C
  • Cywirdeb y mesuriadau (Lleithder Cymharol; 20-80%): ±5%
  • Oes y Batri: blwyddyn, ynghyd â system larwm a ddiffinnir gan y defnyddiwr

Mae’r dechnoleg hon yn caniatáu i’r cynhyrchydd fonitro tymheredd a lleithder mewn amser real, addasu awyriad yn unol â lefelau lleithder, addasu faint o borthiant a roddir yn unol â’r tymheredd amgylcheddol a chanfod a oes lleithder wedi cronni oherwydd gwasarn llaith, draenio gwael neu dywydd gwlyb.

Yna, gall y cynhyrchydd weithredu i atal problemau trwy addasu a gwella awyriad a chynllun adeiladau, gan wella iechyd a pherfformiad da byw.

Mae’r safle yn cynnwys dau adeilad i gadw 40,000 o ddofednod sy’n union yr un fath ac wedi’u lleoli ochr yn ochr â’i gilydd, ac mae’r ddau adeilad yn cynnwys cywion sydd yr un fath o ran oedran, dyddiad, ffynhonnell a brîd, ac roedd hynny’n caniatáu i’r ddau griw o adar gael eu cymharu â'i gilydd trwy gydol y prosiect.  Yn flaenorol, mae’r fferm wedi defnyddio synhwyrydd tymheredd a lleithder diwifr i gasglu ac adolygu data.  

Cafodd offer a meddalwedd y system eu gosod gan PrognostiX a swyddog technegol Cyswllt Ffermio.  Ar ôl eu gosod, cafodd data eu cofnodi yn awtomatig, o fis Gorffennaf 2018 i fis Mawrth 2019. Mesurwyd tymheredd a lleithder cymharol gan synwyryddion dros gyfnodau 5 criw o adar, ond cafwyd problemau technegol â’r synwyryddion pan oedd y criw olaf o adar yn yr adeiladau, felly ni chafodd y cyfnod hwnnw ei gynnwys yn y dadansoddiad terfynol. Cafodd cymeriant dŵr ei fesur pan oedd y criw olaf o adar yn yr adeiladau (criw 5). Yn achos y tri chriw cyntaf, cafodd y synwyryddion tymheredd/lleithder eu gosod mewn chwe rhes o 5, a gosodwyd y synwyryddion â’r un bwlch rhyngddynt ar hyd yr adeilad. Yn achos y pedwerydd criw o adar, gosodwyd pedair rhes o synwyryddion.

Yna, cafodd data eu mewnbynnu i system fyw yn dangos amgylchiadau amgylcheddol ym mhob cwr o’r sied.  Roedd y system ar gael i’r ffermwr, ac fe wnaeth hyn ganiatáu iddo addasu’r dull o reoli’r uned cywion brwylio.  Cafodd yr offer monitro tymheredd a lleithder oedd eisoes yn eu lle, yn ogystal ag unrhyw offer cofnodi arall, eu cadw yn yr unedau i gofnodi’r holl ddata oedd ar gael ochr yn ochr â system PrognostiX. 

Cafodd manylion perfformiad bob haid eu defnyddio i gymharu’r system PrognostiX â’r meddalwedd cofnodi oedd eisoes yn ei lle yn yr adeilad arall.  Arsylwyd gwahaniaethau yn ymddygiad yr heidiau hefyd a chofnodwyd hynny i amlygu unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ar ymddygiad, o ganlyniad i ddefnyddio system PrognostiX.  Gall gwahaniaethau o ran ymddygiad effeithio ar iechyd, lles a pherfformiad criwiau o adar, ac ystyriwyd hyn. 

Fe wnaeth cofnodi ymddygiad a pherfformiad y criwiau o adar a phenderfyniadau rheoli ganiatáu i’r prosiect adolygu iechyd a lles y criwiau o adar, ynghyd â’r costau a’r llafur oedd yn gysylltiedig â phob un o’r systemau cofnodi rheolaeth.  Fe wnaeth hyn alluogi cynnal dadansoddiad o gost a budd gosod synwyryddion PrognostiX yn achos bob criw, ac fe wnaeth hynny bennu beth fyddai’r enillion posibl ar y buddsoddiad i osod y system.   

Roedd y data a gasglwyd ar gael trwy gyfrwng system PrognostiX.  Cafodd y wybodaeth na chofnodwyd trwy gyfrwng y system hon ei chofnodi â llaw gan y ffermwyr.  

Ceisiodd y prosiect gasglu’r manylion a amlinellir isod:

  • Tymheredd, lleithder a chymeriant dŵr a gofnodwyd trwy gyfrwng system PrognostiX.  Ategwyd hynny gan y meddalwedd oedd eisoes yn ei lle a ddefnyddid i gofnodi gwybodaeth o fewn yr adeilad.
  • Cofnodion traddodiadol ar bapur a data ynghylch perfformiad:  pwysau, twf, lefelau marwoldeb a chymeriant porthiant yr adar ayyb 
  • Ymddygiad yr adar ac unrhyw anawsterau o ran iechyd a lles
  • Ymatebolrwydd i’r ddwy system a’r llafur sydd ei angen yn achos y ddwy
  • Penderfyniadau rheoli ynghylch pob criw o adar

 

3.4 Canlyniadau

Tymheredd

 

Ffigur 1: Tymheredd Dyddiol Cyfartalog y Criwiau o Adar

 

                                   

ta 2

 

Mae ffigur 1 yn dangos tymheredd dyddiol cyfartalog y gwahanol griwiau o adar.  Mae’r criwiau yn gyson o fewn ychydig raddau bron iawn trwy gydol eu cyfnod ar y fferm. Cafodd criw 1 y tymheredd uchaf am y cyfnod isaf, a chafodd criw 3 y tymheredd isaf.  Mae’r gyfradd gostwng o ran tymheredd yn eithaf cyson rhwng y criwiau o adar hefyd. Mae’r gostyngiad olaf mewn tymheredd yn digwydd wedi oddeutu 37-40 diwrnod, sy’n dynodi diwedd y criw. 

Gellir gweld gostyngiadau mewn tymheredd wedi 30 diwrnod fwy neu lai, ac mae’n debygol bod hynny’n cyd-fynd â’r broses o deneuo (lleihau nifer yr adar yn y sied).  Fodd bynnag, mae’r tymheredd uchaf ar yr adeg hon yn dal yn gymharol uchel, sy’n dynodi mai dim ond rhannau o’r adeilad sy’n cael eu heffeithio gan y gostyngiadau.  Fe wnaeth rhagor o ymchwil i griw 4 amlygu graddiant yn yr adeilad yn ystod y cyfnod hwn; parhaodd y rhan boethaf o’r adeilad i fod yn 20°C fwy neu lai ac roedd y tymheredd isaf ym mhen arall yr adeiad yn 6.6°C.  Gwelwyd ymddygiad tebyg yn y criwiau eraill, ond roedd y tymheredd isaf a gafwyd yn 11°C fwy neu lai. 

Mae nodi’r gwahaniaeth hwn wedi caniatáu i’r ffermwr wneud newidiadau i’r dull o reoli’r siediau i gyd-fynd â’r amrywiadau o ran tymheredd.

Ymchwiliwyd i’r amrywiadau o ran tymheredd mewn gwahanol rannau o’r adeilad i ganfod a oedd rhannau o’r adeilad a oedd yn boethach neu’n oerach na’r cyfartaledd yn gyson. Cyfrifwyd y gwahaniaethau mewn tymheredd o’u cymharu â’r cyfartaledd fesul awr ar gyfer bob sensor, a chafodd y canlyniadau eu cyfartaleddau dros gyfnod cyfan y criw. Dangosir y gwerthoedd terfynol ar gyfer bob criw yn Ffigur 2 fel map gwres dau ddimensiwn o’r awyr o’r tŷ. Mae’r mannau coch yn cynrychioli’r rhannau o’r tŷ a oedd yn boethach na’r cyfartaledd, ac mae’r mannau melyn yn cynrychioli’r rhannau a oedd yn oerach. Mae rhai o nodweddion yr adeilad wedi’u nodi hefyd, yn cynnwys y drysau ar y chwith a’r gwresogyddion canolog (mae ‘H’ yn dynodi hynny). Dangosir ‘parthau’ cysyniadol a rhifau mewn llwyd i gynorthwyo i wneud cymhariaeth.  Caiff y mannau siâp diamwnt eu cynhyrchu gan y map gwres oherwydd roedd y synwyryddion ar groesliniau.

Mae ffigur 2 yn dangos amrywiad mwyaf o +/-1:8°C o’r cyfartaledd. Mae’n ymddangos mai criw 4 yw’r mwyaf unffurf oherwydd ceir y nifer lleiaf o fannau poeth.oer, a chriw 3 yw’r lleiaf unffurf. Nid oes unrhyw fannau oerach amlwg ger ochrau’r adeilad neu wrth ymyl y drysau, sy’n awgrymu bod lefel yr ynysu yn ddigonol. Yn achos driw 3, mae’n ymddangos bod mwy o fannau poeth yng ‘ngwaelod’ (parthau 1-5) y tŷ na ger y ‘brig’ (parthau 6 – 10), a gwelir hyn hefyd yn achos criwiau 1 a 2 (ond nid yw mor amlwg).  Mae rhannau o’r adeilad hefyd sy’n boethach neu’n oerach yn gyson na’r cyfartaledd dros gyfnod pob criw.  Mae hyn yn cynnwys corneli ‘gwaelod’ yr adeiladau (parthau 1 a 5) sy’n boethach na’r cyfartaledd yn achos criwiau 1 – 3, a pharthau 7 ac 8, sydd ychydig yn oerach. Gwelir llecyn oerach ger y drws yn achos criwiau 3 a 4.

Mae nodi’r gwahaniaeth hwn wedi caniatáu i’r ffermwr wneud newidiadau i’r dull o reoli’r siediau i gyd-fynd â’r amrywiadau o ran tymheredd.

 

Ffigur 2: Tymheredd Dyddiol Cyfartalog y Criwiau o Adar

 

                       

ta 3

 

Lleithder

 

Ffigur 3: Lleithder Cymharol Dyddiol Cyfartalog trwy gydol cyfnod pob Criw

 

               

ta 4

 

Mae ffigur 3 yn dangos y lleithder cymharol dyddiol cyfartalog trwy gydol cyfnod pob criw.  Mae lefel y lleithder cymharol yn is yn gyson yn achos criw 4 o’i gymharu â’r criwiau eraill; mae’r gwahaniaeth yn 15% fwy neu lai yn ystod 25 diwrnod cyntaf y criw, ac mae’n cynyddu wedi hynny.  Mae lefelau criwiau 3 a 4 o fewn 10% o’i gilydd trwy gydol cyfnod y criwiau, oddeutu 65-80% trwy gydol cyfnod pob criw.  Gwelir y gwahaniaethau tymor byr mwyaf hefyd yn achos criw 1; ceir gwahaniaethau o hyd at 10% o fewn cyfnod o 12 awr.  Yn achos criw 4, mae’n ymddangos y ceir pendiliad bob 12 awr yn lefel y lleithder cymharol, ac mae’r gwahaniaeth rhwng uchafbwyntiau ac isafbwyntiau yn amrywio o 2 i 3%.     Gallai hyn gael ei achosi gan fecanwaith adweithio o fewn y system rheoli hinsawdd, neu gan ymyriadau bod 12 awr sy’n achosi newid mewn lleithder (h.y. drysau yn cael eu hagor).  

Roedd llawer o’r mesuriadau lleithder cymharol a wnaed yn gynnar (0 - 5 diwrnod) yn isel, ac roedd hi’n ymddangos bod angen hyd at 5 diwrnod cyn gallu cyrraedd gwerth sefydlog. Er enghraifft, mae’r lleithder yn 51% fwy neu lai ar ddiwrnod sero, ac mae angen 5 diwrnod cyn iddo gyrraedd 70%, a bydd yn pendilio o amgylch y lefel honno trwy gydol gweddill yr amser y bydd y criw yn yr adeilad. Mae criw 4 yn cychwyn â lleithder cymharol o 32% ac mae angen 2 ddiwrnod i gyrraedd 52%.  Gallai hyn fod wedi cael ei achosi gan effaith ar leithder pan roddir y cywion yn y sied, neu oherwydd mae angen mwy o amser i gyflawni lefel sefydlog o leithder nag i gyflawni tymheredd optimaidd.

Lluniwyd map o’r awyr o’r sied fel rhan o arbrawf y prosiect (Ffigur 4), ac fe wnaeth hynny ddarparu’r manylion canlynol ynghylch lleithder cymharol.  Mae’n dangos ystod sylweddol o ran lleithder cymharol mewn gwahanol rannau o’r adeilad, yn amrywio rhwng -20% a +10%. Gwelir yr amrywiadau mwyaf yn achos criw 1 a gwelir y lleithder mwyaf unffurf yn achos criw 4. Yn achos criw 1, gwelir gwasgariad anghyffredin o ran lleithder, a cheir lefelau uchel o leithder mewn llecynnau i’r chwith (parthau 1, 2, 9 a 10) a lefelau is o leithder mewn llecynnau i’r dde. 

 

Ffigur 4: Amrywiad o ran lleithder cymharol ym mhob rhan o’r adeilad, wedi’i gyfartaleddu dros gyfnod pob criw

                     

ta 5

 

Tymheredd mewn cymhariaeth â Lleithder Cymharol

 

Ffigur 5: Tymheredd mewn cymhariaeth â Lleithder Cymharol

 

              

ta 6

 

Mae ffigur 5 yn dangos tymheredd mewn cymhariaeth â lefelau lleithder cymharol ar gyfer pedwar criw a adar.  Yn achos criw 4, mae’r canlyniadau yn dangos lefelau o leithder cymharol sydd gryn dipyn yn is nag yn achos y tri chriw arall.  Mae’n ymddangos yn achos criw 4 y ceir cydberthynas wrthdro amwys rhwng lleithder cymharol a thymheredd, ac mae’r tymereddau uwch yn tueddu i gyfateb i lefelau is o leithder, ac i’r gwrthwyneb.  Nid yw hyn yn amlwg yn achos y tri chriw arall, oherwydd mae lefelau’r lleithder cymharol yn weddol gyson â’r tymheredd yn achos y rhain.

 

Cymeriant Dŵr

 

Ffigur 6: Cymeriant Dŵr Cronnus dros gyfnod Criw 5

           

ta 7

 

Mae’r graff uchod (ffigur 6) yn dangos cymeriant dŵr cronnus criw 5, ar gyfer y ddwy linell dŵr a osodwyd.  Gellir gweld yn glir yn y graff bod llinellau yn gwastatáu ar adeg teneuo ac mae’r graddiant yn fas iawn yn ystod yr ychydig ddiwrnodau sy’n dilyn hynny, sy’n cyfateb â nifer llai o adar. 

Mae’n debyg bod y gostyngiad o ran cymeriant dyddiol wedi 30 diwrnod (a welir yn ffigur 7 isod) yn deillio o deneuo’r criw. 

 

Ffigur 7: Cymeriant Dŵr Dyddiol dros gyfnod Criw 5

                    

ta 8

 

Ffigur 8: Gwahaniaeth Canrannol y Cymeriant Dŵr Dyddiol trwy gydol Cyfnod Criw 5 

                    

ta 9

Mae ffigur 8 yn dangos y gwahaniaeth canrannol o ran cymeriant dŵr dyddiol rhwng y ddwy linell dŵr yn ystod cyfnod criw 5. Mae’r gwerthoedd uchel iawn cyn diwrnod 10 yn deillio o gymeriant dŵr bychan ar y cyfan, sy’n golygu y gall amrywiadau bychan o’r lefel hon achosi gwahaniaethau canrannol mawr. Wedi oddeutu 10 diwrnod, mae cymeriant dŵr yn cychwyn cynyddu ac mae’r canlyniadau yn fwy ystyrlon.

Fel y dengys y graffiau, ceir uchafbwyntiau amlwg yng ngwahaniaeth canrannol y cymeriant dŵr, sef 125% wedi 15 diwrnod, 140% wedi 25 diwrnod, 133% wedi 34 diwrnod a 170% wedi 38 diwrnod. 

 

4 Casgliadau cyffredinol y prosiect

Trafodir y rhain yng ‘Nghasgliadau’r Prosiect’ yn Adran 1.1.

 

5 Dadansoddiad SWOT

CRYFDERAU

  • Gwella effeithiolrwydd
  • Gwella iechyd a lles adar
  • Gwella effeithlonrwydd
  • Llai o gostau yn gysylltiedig â gwresogi a chyflenwi dŵr

GWENDIDAU

  • Costau uchel gweithredu’r system
  • Hynod o ddibynnol ar dechnoleg; nid yw hynny’n ddibynadwy bob amser
  • Costau hyfforddiant yn gysylltiedig â’r dechnoleg pan gaiff ei gosod i ddechrau
  • Diffyg profiad yn achosi rhwyfaint o gymhlethdodau ar y dechrau

Cyfleoedd

  • Efallai bydd cyfleoedd amgen ar gael wrth i’r diwydiant gymryd camau pellach tuag at weithredu technoleg newydd
  • Cynhyrchu yn fwy effeithiol trwy gyfrwg buddsoddiadau ychwanegol mewn technoleg

BYGYTHIADAU

  • Gallai peiriannau yn torri achosi problemau
  • Y galw gan gwsmeriaid am gynnyrch y sector dofednod
  • Tynhau rheoliadau ynghylch allyriadau a thail o unedau dofednod
  • Colli contract

 

6 Cyfatebiaeth â nodau strategol y sector

Mae’r gwaith hwn yn cyfrannu at nodau a bennwyd gan Gyngor Dofednod Prydain, sy’n dymuno parhau i gynhyrchu “bwyd sy’n ddiogel, yn faethlon, yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy yn gyson ar gyfer teuluoedd Prydain a marchnadoedd tramor.

Bydd sicrhau bod busnesau dofednod yn parhau yn effeithlon yn helpu’r busnesau hyn i ffynnu yng Nghymru, gan ddarparu ffrwd incwm amgen ar gyfer sectorau traddodiadol megis ffermio defaid a gwartheg bîff, gan sicrhau y gall y busnes wrthsefyll heriau Brexit.  Mae arbedion effeithlonrwydd a wneir gan y cynhyrchwyr yn y gadwyn gyflenwi yn golygu y bod y cynnyrch yn debygol o barhau i fod yn fforddiadwy i brynwyr, ac fe wnaiff hynny helpu’r cynhyrchwyr hynny i barhau i gyfranogi yn y gadwyn gyflenwi honno.

Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â chamau 16, 17 ac 18 y Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, mewn perthynas â’r canlynol yn benodol:

  • Nifer y busnesau sydd â mynediad at wasanaethau cymorth trwy un porth mynediad (canolfan busnes).
  • Sicrhau bod y Cynllun Datblygu Gwledig yn darparu cynlluniau cymorth busnes a phrosesu sy’n briodol i’r sector bwyd.
  • Sicrhau bod pob ffynhonnell o gymorth ariannol gan yr UE, Llywodraeth Cymru ac eraill (grantiau, benthyciadau hyblyg, eraill) i fusnesau bwyd yn briodol, yn gydlynol, yn cael llawer o gyhoeddusrwydd a'u defnyddio i ddatblygu’r sector yn y ffordd orau bosib. 

7 Effaith ar y diwydiant

7.1 Effaith ar fusnesau unigol

Trafodir hyn yn y ‘crynodeb’ yn Adran 1.   

 

7.2 Effaith ar y diwydiant ehangach

Cyfeiriwch at adran ‘Gwersi i’w Dysgu gan y Diwydiant’ yn Adran 1.3 yr adroddiad hwn. 

Mae’n bosibl y gallai cysyniad y prosiect gael ei ailadrodd mewn llawer o unedau dofednod yng Nghymru.  Mae’r fferm ble cynhaliwyd y prosiect yn enghraifft o sut gall buddsoddi mewn busnes sydd eisoes wedi’i sefydlu sicrhau buddion ychwanegol a chaniatáu i’r busnes ddod yn fwy cadarn a sefydlog mewn amgylchedd newidiol. 

 

8 Effaith ar themâu trawsbynciol a blaenoriaethol Llywodraeth Cymru

8.1 Iechyd a Lles Anifeiliaid

Fe wnaiff gweithredu technoleg megis synwyryddion PrognostiX sicrhau y caiff amgylchiadau amgylcheddo o fewn unedau dofednod eu rheoli ar y lefelau gorau er mwyn gwella iechyd a lles adar.  Fe wnaiff sicrhau y cynhelir safon uchel o ran iechyd a lles adar leihau nifer y marwolaethau a’r anhwylderau cysylltiedif a chreu system fwy effeithlon a prhoffidiol. 

 

8.2 Cenedlaethau'r Dyfodol

Fe wnaiff mynd i’r afael â’r heriau cyson sy’n gysylltiedig â chynhyrchiant ganiatáu i ffermwyr ifanc sylweddoli y gellir goresgyn heriau yn y diwydiant, ac mae technoleg, megis y math o dechnoleg a ddefnyddid ar y fferm ble cynhaliwyd y prosiect, yn cyfrannu at hyn.  Fe wnaiff targedu effeithlonrwydd gwell ar y fferm wella cynhyrchiant y fferm a chydnerthedd y busnes.

Dylai sicrhau y gweithredir gwelliannau o’r fath ac addasu mewn ymateb i heriau lwyddo i ysbrydoli a chymell cenedlaethau dyfodol i geisio neu barhau â gyrfa ym maes amaethyddiaeth.  Dylai mynd i’r afael â heriau o’r fath a rhannu gwybodaeth â’r diwydiant ehangach lwyddo i annog cenedlaethau’r dyfodol i fabwysiadau dulliau a thechnolegau amaethu newydd, i sicrhau diwydiant mwy cynhyrchiol sy’n cael ei reoli yn well.   Byddai mawbysiadu’r dulliau a’r technolegau hynny yn helpu i greu dyfodol mwy sicr i ffermwyr Cymru.

 

8.3 Trechu Tlodi

Fe wnaiff canolbwyntio ar elfennau allweddol megis gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ar ffermydd leihau’r straen ariannol a brofir gan lawer o ffermwyr Cymru. Mae arferion busnesau mwy cost effeithiol yn golygu potensial am gynnydd mewn enillion, ac mae’n debyg y bydd addasu i dderbyn technolegau newydd yn fuddsoddiad cynaliadwy a defnyddiol ar gyfer y tymor hir. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Opsiynau amgen ar gyfer deunydd gorwedd i wartheg llaeth: Tail sych wedi’i ailgylchu
Dr Natalie Meades: IBERS, Aberystwyth University. Mawrth 2024 Mae
Cyfleoedd ar gyfer sefydlu gwerth tail a slyri a’u defnydd mewn economi gylchol
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Ebrill 2024
Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol