Dull Strategol o Weithredu
Darperir Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio a'r Gwasanaeth Cynghori gan Menter a Busnes. Mae Lantra Cymru yn arwain ar ddarparu Rhaglen Dysgu a Datblygu Cydol Oes Cyswllt Ffermio.
Mae Cyswllt Ffermio yn dod â rhanddeiliaid, cyrff a sefydliadau allweddol sy’n cefnogi’r diwydiannau ffermio a choedwigaeth at ei gilydd er mwyn darparu rhaglen integredig a fydd o fud di economi wledig Cymru. Mae’r ffocws ar ddatblygu a chynnal dull cydgysylltiol o weithio i sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau i osgoi dyblygiad a ffocws clir ar fynd i’r afael ag anghenion busnes.
Prif Gontractwr y Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth yw’r Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), un o sefydliadau Amaeth-Bwyd mwyaf y DU, a fydd yn cydweithio’n agos gyda Menter a Busnes.
Y prif isgontractwyr yw:
- Rhwydwaith Fferm Arloesol Cymru sy’n cynnwys y colegau Addysg Bellach sy’n darparu hyfforddiant Amaethyddol a Choedwigaeth yng Nghymru.
- ADAS Wales
- Kite Consulting
- Innovis
- Lantra
- Prifysgol Bangor
Bydd Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio yn darparu cyngor annibynnol, wedi’i deilwra, ar sail un-i-un a grŵp wedi'i anelu at wella cynaliadwyedd a pherfformiad economaidd ac amgylcheddol BBaCh ffermio, coedwigaeth a chynhyrchu bwyd sy’n gweithredu yng Nghymru wledig.
Bydd y Gwasanaeth Cynghori’n cael ei ddarparu gan yr wyth cwmni ymgynghorol canlynol a fydd yn gweithredu fel isgontractwyr i Menter a Busnes.
- ADAS Wales
- Agri Plan Cymru
- Andersons
- CARA
- Kite Consulting
- Landsker
- Promar International
- Savills
Bydd fframweithiau presennol hefyd yn cael eu defnyddio trwy’r gwasanaeth cynghori ar gyfer darparu Cyngor Cynllunio Iechyd Anifeiliaid a Chyngor Milfeddygol Arbenigol; Ynni, Effeithlonrwydd Dŵr, Effeithlonrwydd Ynni Adnewyddadwy a Phrosesu; a Chynllunio Busnes Strategol ar gyfer BBaCh Bwyd.
Mae Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) - Llaeth a Hybu Cig Cymru (HCC) hefyd yn bartneriaid strategol allweddol gan sicrhau dull integredig o weithio i fynd i’r afael ag anghenion y sector, cynnig arweiniad ar themâu, negeseuon allweddol a'r wybodaeth ddiweddaraf sydd angen eu cyfleu i'r diwydiant.