Ffeithiau Fferm Moelogan Fawr
Mae Safle Arddangos Moelogan Fawr yn ddaliad mynydd 304-hectar (ha) sy’n cael ei ffermio gan Llion a Sian Jones.
Roedd y cwpl wedi bod yn ffermwyr tenant ar un o ffermydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol cyn dychwelyd i'r fferm sydd wedi bod yn nheulu Sian ers tair cenhedlaeth.
Mae Moelogan Fawr yn codi o 1,000 i 1,500 troedfedd ac mae’n cynnal buches bîff o 100 o fuchod sugno a 36 o heffrod a diadell o 1,200 o ddefaid.
Mae epil y fuches bîff Stabiliser sy’n lloia yn y gwanwyn i gyd yn cael eu pesgi ar y fferm a’u gwerthu’n uniongyrchol i ABP neu Dunbia neu eu gwerthu’n fyw yn ocsiwn da byw yr Wyddgrug.
Cymysgedd o famogiaid Cymreig, Cheviot a chroesiadau yw’r ddiadell. Mae’r mwyafrif o’r defaid croes yn ŵyna dan do ond eleni fe gafodd 120 eu trin â sbwng i ddod â’u hŵyn ym mis Ionawr; drwy wneud hynny roedd yn bosibl gwerthu’r mamogiaid gyda’u hŵyn wrth eu traed er mwyn helpu’r llif arian ar adeg dawel o’r flwyddyn.
Mae’r mamogiaid Cymreig a’r Cheviots yn ŵyna yn yr awyr agored o fis Ebrill ymlaen.
Mae’r ŵyn i gyd yn cael eu pesgi ar laswellt; i leihau faint o fwyd sy’n cael ei brynu, mae cymysgedd llysieuol wedi’i blannu er mwyn pesgi’r ŵyn.
Mae 5.7 hectar o swêj yn cael eu tyfu i fwydo’r mamogiaid 4-6 wythnos cyn ŵyna.
Mae’r ŵyn yn cael eu gwerthu i Dunbia yn ôl targed pwysau o 16kg – 22kg ar y bach.
Mae 10ha o goed wedi’u plannu drwy gyfrwng cynllun Creu Coetir Glastir.