Ffeithiau Fferm Nantglas
Mae Fferm Arddangos Nantglas yn ddaliad 55 hectar (ha) sy’n gweithredu fel fferm laeth, dan ofal Iwan Francis. Mae’n rhentu 75ha ychwanegol o dir oddi ar y fferm.
Mae’r ardal bori yn 58ha ac mae tri chnwd 40ha o silwair yn cael eu torri bob blwyddyn; mae 300 o fyrnau silwair mawr hefyd yn cael eu cynhyrchu.
Mae’r fuches yn lloia mewn dau floc – mae 100 o wartheg yn lloia yn y gwanwyn a 100 yn lloia yn yr hydref.
Mae’r fferm hefyd yn cadw 120 o heffrod.
Mae’r gwartheg yn cynhyrchu 6,500 litr o laeth yn flynyddol ar gyfartaledd, gyda 4.5% o fraster menyn a 3.5% protein.
Mae’r llaeth yn cael ei gyflenwi i hufenfa Dairy Partners yng Nghastell Newydd Emlyn.
Dangosyddion Perfformiad Allweddol
- Tyfu mwy na 12 tunnell o ddeunydd sych/ha (t/DM)
- Cynnal cyfradd isel o wartheg gwag, sy’n is na 10% ar hyn o bryd; ni ddylai lleihau’r cyfnod lloia effeithio’n negyddol ar gyfraddau gwartheg gwag