Ffeithiau Fferm Tyreglwys
Ffermwyr
- Mae Fferm Arddangos Tyreglwys yn cael ei ffermio gan Geraint Thomas a’i deulu.
- Mae Geraint yn ffermio mewn partneriaeth â’i rieni, Rhys a Margaret a’i wraig Sheryl, sydd hefyd yn gweithio’n rhan amser oddi ar y fferm.
- Mae’r fferm yn cael ei rheoli gan Geraint a’r teulu, gan weithio gydag un aelod o staff llawn amser ynghyd â godrwr achlysurol.
Tir
- Mae Tyreglwys yn fferm 350 erw.
- Mae 42 erw hefyd yn cael eu rhentu ar gytundebau tymor hir.
Da Byw
Llaeth
- Mae’r fuches Gwynnog yn cynnwys 165 o fuchod Ayrshire a Holstein pedigri, gyda’r ddau frîd yn cynrychioli hanner y fuches.
- Mae’r buchod yn fuchod llaethog a gwerth geneteg uchel. Mae’r cynhyrchwyr uchaf yn cael eu cadw dan do dros nos drwy gydol y flwyddyn. Defnyddir dogn TMR gan ddefnyddio ychydig o ddwysfwyd a silwair a dyfwyd gartref, ond mae corn wedi’i grimpio hefyd yn cael ei brynu i mewn i’w gynnwys yn y dogn.
- Mae’r fferm yn cyflenwi cwmni Muller Wiseman ar gytundeb hylif, gan dargedu lefelau cyfansoddion dros y litr safonol (4% braster, 3% protein). Mae’r strwythur prisio’n cynnwys bonws ar gyfer faint a gynhyrchir, felly mae’r cynhyrchwyr uchaf yn cael eu cadw dan do dros nos ar gyfer bwydo ychwanegol.
- Y cyfnod presennol rhwng lloea yw 430 diwrnod, a’r nod yw lleihau’r cyfnod hwn gan wella’r dulliau o ganfod pryd y mae’r fuwch yn gofyn tarw.
- Mae siediau gwartheg yn amrywio o gytiau gwartheg, ciwbiclau a siediau agored. Mae’r siediau agored yn cael eu neilltuo ar gyfer da byw sy’n cael eu harddangos.
- Mae amodau ar y fferm yn wlyb, gan droi’r anifeiliaid allan yng nghanol mis Ebrill fel arfer.
Defaid
- Mae defaid tac yn cael eu pori ar y fferm yn y gaeaf.
Cnydau
- Tyfir 15 erw o haidd gwanwyn yn flynyddol.
Gwybodaeth ychwanegol
- Mae contractwyr yn gwneud yr holl waith slyri, silwair a thorri cloddiau.
- Mae’r teulu wedi cael llwyddiant mewn sioeau gyda gwartheg Holstein yn ogystal a’r Ayrshire, gan ennill yn Sioe Laeth Cymru yn 2015.
- Mae llwyddiannau eraill yn cynnwys ennill yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru a nifer o wobrau mewn sioeau cenedlaethol.
- Mae Geraint yn weithgar yn y gymuned amaethyddol gan fod yn rhan o nifer o bwyllgorau ac mae’n gadeirydd Clwb Ayrshire De Cymru.