Gwerthuso Perfformiad ŵyn - Diweddariad prosiect

Roedd canlyniadau’r archwiliadau post mortem ar y mamogiaid gwag a anfonwyd ar 9/2/18 yn ddiddorol iawn ac yn gipolwg da ar iechyd y ddiadell. Roedd yr adroddiad yn dangos bod lefelau isel i ganolig o lyngyr yr iau yn dal i fod o fewn y mamogiaid, ac yn awgrymu efallai bod angen trin gweddill y ddiadell. Penderfynodd Irwel drin y mamogiaid gyda sgôr cyflwr corff isel gyda thriniaeth llyngyr yr iau. Nid oedd tystiolaeth o grawniad ar yr ysgyfaint, OPA (Jaagsiekte), nac MV ac roedd pob anifail yn sero negyddol ar gyfer MV a Chlefyd y Ffîn.

Gan nad yw mamogiaid yn derbyn bolws elfennau hybrin, roedd cymryd samplau o’r iau i asesu statws elfennau hybrin yn rhywbeth  yr oeddem ni’n awyddus iawn i fanteisio arno. Cafwyd canlyniadau normal ar gyfer Manganîs, Seleniwm a Chobalt, ond roedd lefelau Copr yn ymylu ar fod yn brin, felly roedd y lefelau hyn yn ddigon i gyfiawnhau rhoi ychwanegion.  

Roedd y canlyniadau proffilio metabolig o’r 20 mamog 3 wythnos cyn ŵyna yn foddhaol iawn ar y cyfan. Ceir trosolwg o’r canlyniadau isod-

 

Cydbwysedd Egni

Y dangosydd mwyaf cyffredin ar gyfer pennu cydbwysedd egni yw beta hydroxybutrate (BOHB). Caiff hwn ei gynhyrchu pan fo cronfeydd braster yn cael eu rhoi ar waith a bod asidau brasterog heb ei esteru (NEFA), (a gynhyrchir mewn ymateb i ddiffyg egni, yn erbyn galw cynyddol gan y ffoetws am glwcos) yn cael ei lethu gan ba mor sydyn y mae’r braster yn cael ei fetaboleiddio.

Roedd cymedr gwerthoedd BOHB y grŵp ar gyfer mamogiaid a oedd yn cario ŵyn unigol a mamogiaid mwy ffit a oedd yn cario gefeilliaid (tua BCS 3) yn llawer is na’r trothwy gan roi hyder i ni fod y mamogiaid yn cael eu bwydo yn unol â nifer y ffoetysau. Roedd lefelau BOHB yn y mamogiaid teneuach a oedd yn cario gefeilliaid ychydig yn uwch, ond yn gyffredinol, roedd y cydbwysedd egni cyffredinol mewn mamogiaid teneuach hefyd yn foddhaol gyda 3 wythnos cyn ŵyna. O ganlyniad, penderfynodd Irwel gadw mamogiaid mewn grŵp dan do yn ôl BCS gyda’r gobaith nad oedd y mamogiaid teneuach yn gorfod cystadlu gyda mamogiaid mwy ffit am fwyd.

Mae hyn yn dangos pwysigrwydd sicrhau’r BCS cywir wrth hyrdda ac wrth nesáu at y cyfnod ŵyna gan fod twf y ffoetws yn gofyn am lawer o egni, yn enwedig mewn mamogiaid gyda BCS isel.

 

Statws protein

Roedd pob mamog a samplwyd yn dangos cymeriant dyddiol boddhaol o Brotein Diraddadwy Effeithiol yn y Rwmen (ERDP).

Mae Albwmin yn adlewyrchu statws protein hirdymor, gweithgaredd yr iau a phroblemau afiechydon megis PGE, Johne’s a llyngyr yr iau. Roedd gan rai o’r mamogiaid teneuach a oedd yn cario gefeilliaid ganlyniadau albwmin isel a allai olygu bod ganddynt rai problemau iechyd ar adeg y samplu, neu’n ddiweddar.

Dylid nodi bod albwmin yn fesur hirdymor o statws protein, a gall gymryd wythnosau neu hyd yn oed misoedd i well o broblemau afiechydon blaenorol. Felly, wrth gwblhau proffiliau metabolig, mae’n bwysig ystyried triniaethau diweddar a roddwyd i’r mamogiaid.

 

Casgliad

O ran cydbwysedd maethol, mae canlyniadau’r prawf gwaed 3 wythnos cyn ŵyna yn foddhaol, gyda statws protein a chymedr BOHB y grŵp yn dangos bod gofynion egni ac ERDP pob un o’r grwpiau BCS yn cael eu cyrraedd, gyda mamogiaid yn derbyn 300 gram o  ddwysfwyd 32% protein a  silwair glaswellt ad lib.

Ceir rhywfaint o bryder nad yw mamogiaid teneuach sy’n cario gefeilliaid yn derbyn egni digonol wrth i’r cyfnod ŵyna agosáu, ond gydag Irwel yn rhannu’r mamogiaid  i grwpiau gyda sgôr cyflwr corff uchel ac isel, bydd hynny’n helpu i sicrhau bod y mamogiaid teneuach yn cael gwell mynediad at fwyd heb orfod cystadlu gyda mamogiaid cryfach.

Ar y cyfan, roedd Irwel yn hapus iawn gyda chanlyniad yr archwiliadau post mortem a’r proffilio metabolig. Byddwn yn parhau i ddefnyddio proffilio metabolig gyda’r mamogiaid cyn ŵyna’r flwyddyn nesaf gan ei fod yn rhoi adlewyrchiad cywir o statws presennol y mamogiaid, a gellir gwneud penderfyniad rheolaeth ar sail hynny wedyn.