Pori Cylchdro ar 1250 troedfedd

Mae Irwel Jones wedi troi dau gae gyda chyfanswm o 30 erw yn 9 padog unigol trwy ddefnyddio ffensys rhannol-barhaol a ffens drydan. Bydd yr amgylchedd agored a garw ar yr uchder hwn yn newid y cysyniad o bori cylchdro, a hefyd gobeithio yn gwaredu’r meddylfryd mai dim ond ar ffermydd llawr gwlad ac ucheldir y mae modd defnyddio system bori cylchdro.

Roedd hi’n gam dewr i rannu ei gaeau mwyaf cynhyrchiol ar uchder o 1250tr uwch lefel y môr, ond roedd Irwel yn gwybod y byddai’n gallu rheoli ei laswellt yn well mewn padogau llai ac yn ei dro, lleihau costau cynhyrchu ei ŵyn.

Bu James Daniels o gwmni Precision Grazing the rhoi cefnogaeth ac arweiniad ar rannu’r caeau a gosod pibelli dŵr newydd, ac mae hefyd yn parhau i ddarparu cynlluniau rheoli wythnosol ar gyfer Irwel.

Mae’r tabl isod yn dangos y cylchdro a’r sylwadau; bydd mesuriadau twf glaswellt yn cael eu hychwanegu’n fuan.

 

Dyddiad

Padog sy’n cael ei bori

Nodiadau

20fed Mawrth- 15fed Ebrill

Cnepyn yn ogystal â 17 erw sy’n cael eu defnyddio ar gyfer ŵyna

 

20fed Ebrill

Cnepyn yn ogystal â chaeau 17 erw

1.8 tunnell  o wrtaith yn cael ei ddefnyddio ar gyfradd 20:10:10

4ydd Mai

 

James Daniels o gwmni Precision Grazing yn rhannu’r ddau gae yn 9 padog (gweler y llun)

6ed – 8fed Mai

SE1

76 set o efeilliaid yn mynd i mewn i’r padog. Nifer fechan i ddechrau adeiladu gorchudd.

8fed – 10fed Mai

SE2

76 set o efeilliaid

10fed – 13eg Mai

SE3

76 set o efeilliaid

13eg – 15fed Mai

SE4

Cynyddu niferoedd mamogiaid o 76 i 163 set o efeilliaid

15fed – 17eg Mai

SE5

163 set o efeilliaid

17eg – 21ain Mai

SE6

163 set o efeilliaid

20fed Mai

CN2

Cau allan ar gyfer silwair

21ain – 25ain Mai

CN1

Gan fod gorchudd yn mynd yn rhy uchel, torrwyd y padog ar ôl i’r defaid ei bori

25ain – 30ain Mai

CN3

Gan fod gorchudd yn mynd yn rhy uchel, torrwyd y padog ar ôl i’r defaid ei bori