Profion genomig ar deirw stoc du a gwyn
Rhys Davies, Swyddog Technegol Llaeth
Bydd llawer o gynhyrchwyr llaeth masnachol yn aml yn defnyddio teirw stoc o fridiau bîff neu laeth i’w cyplu â buchod sy’n ail-ofyn tarw wedi cyfnod o ddefnyddio tarw potel. Ar hyn o bryd, prynir teirw yn breifat neu trwy arwerthiannau teirw arbenigol, a chânt eu defnyddio’n aml i’w cyplu â heffrod gwasod yn ogystal â buchod. Yn aml, prynir teirw heb eu profi na’u defnyddio ar sail gwybodaeth am eu rhieni ynghyd â golwg a chydffurfiad y tarw ei hun. Fodd bynnag, yn sgil datblygiadau diweddar mewn gwerthuso genomig gan AHDB Llaeth ar gyfer y mwyafrif o fridiau gwartheg laeth, bellach gellir dewis teirw stoc ar sail nodweddion pwysig ynghylch iechyd a llaeth.
Cynhaliwyd profion genomi ar dri tharw blwydd sy’n eiddo i Richard a Ruth Pilkington o Shorley Hall yn Wrecsam, trwy law Holstein UK a gwasanaeth gwerthuso genomig AHDB Llaeth. Dangosai proffiliau genomig y teirw hyn fod manylion dibynadwyedd amrywiaeth o nodweddion rhwng 58% a 68%, sy’n dyblu proffiliau cyfartaledd eu rhieni yn unig. Gellir defnyddio’r wybodaeth hon i ddewis y tarw mwyaf priodol i’w droi at eu buches eu hunain, neu i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ddibynadwy i brynwyr am botensial o ran cynhyrchu, iechyd a chydffurfiad. Yn wir, byddai’r wybodaeth yr un mor ddibynadwy â manylion unrhyw semen o deirw ifanc sydd wedi cael prawf genomig a werthir gan amrywiaeth o gwmnïau bridio.
Tabl 1. Nodweddion cynhyrchu, iechyd a chydffurfiad o broffil genomig tri o’r teirw ifanc a fridiwyd yn Aintree Holsteins
Enw’r tarw |
£GPLI |
Llaeth (Kg) |
Cyfrif celloedd somatig (SCC) |
Rhwyddineb lloia uniongyrchol (dCE) |
Teilyngdod Math (TM) |
Aintree Squire |
£522 |
560 |
-18 |
0 |
2.82 |
Aintree Sterling |
£454 |
101 |
-17 |
-0.1 |
1.61 |
Aintree Wesley |
£463 |
417 |
-12 |
0.2 |
2.47 |
Byddai un o’r teirw, Aintree Squire, ymhlith y 30 tarw ifanc gorau sydd wedi cael prawf genomig yn unol â mynegai teilyngdod math genomig y DU, ac o drwch blewyn, byddai ymhlith y 500 tarw ifanc gorau o ran £PLI (mynegai oes broffidiol) pe bai ar gael yn fasnachol. Hefyd, mae gan y tri tharw werthoedd cyfrif celloedd somatig negyddol ffafriol, ac maent yn uwch na £450 o safbwynt £PLI. Pe cai’r tri eu defnyddio i’w cyplu â heffrod, byddai’n ddoeth ystyried sgôr rhwyddineb lloia cymharol y tri cyn gwneud defnydd helaeth ohonynt ar heffrod sydd heb gael tarw. Aintree Wesley yw’r gorau o ryw fymryn o blith y tri, o ran rhwyddineb lloia.
Ffigur 1. Enghraifft o fanylion prawf genomig un o’r teirw a brofwyd
Mae un prawf yn costio oddeutu £100, felly dylai gwerthwyr teirw stoc du a gwyn ystyried y posibilrwydd o brofi a sicrhau y caiff prynwyr yr wybodaeth ychwanegol am ddibynadwyedd a geir trwy brynu tarw sydd wedi cael prawf genomig. Dylai prynwyr ystyried unrhyw gostau porthi teirw stoc, ynghyd ag argaeledd adeiladau priodol i’w cadw dan do a chyfleusterau i’w trin a’u trafod.