Llunio proffil gwaed metabolig cyn ŵyna ar safle arddangos Glanmynys
Mae samplu gwaed mamogiaid ar ddiwedd beichiogrwydd yn adnodd sydd wedi hen ennill ei blwyf ac mae’n helpu i ganfod a yw’r dogn sy’n cael ei ddarparu ar ddiwedd beichiogrwydd yn bodloni gofynion y famog.
Ar yr 2il o Fawrth 2020, bu Joseph Angell, Wern Vets, yn ymweld â fferm Glanmynys, safle arddangos cig coch ar ran Cyswllt Ffermio, i wneud y canlynol:
- Sgorio cyflwr corff cyn ŵyna
- Llunio proffil metabolig
- Gwirio’r dogn
- Proffilio elfennau hybrin
Sgorio cyflwr corff cyn ŵyna
Nododd Joseph Angell:
“Fe wnes i archwilio tri grŵp o ddefaid a oedd yn pori caeau a oedd wedi’u rheoli’n dda yn agos i’r fferm. Roedd y grwpiau’n cynnwys: mamogiaid yn cario ŵyn sengl, grŵp o famogiaid a oedd yn cario gefeilliaid a grŵp o famogiaid a oedd yn cario tripledi yn gymysg ag ŵyn benyw ac ambell i famog deneuach o grwpiau eraill. Yn gyffredinol, roedd y mamogiaid yn deneuach na’r disgwyl, er gwaethaf digon o laswellt o ansawdd uchel ar gael.”
Roedd y sgôr cyflwr corff cyfartalog (BCS) ar gyfer pob grŵp yn 2.0. Argymhellodd Joseph Angell y byddai’n disgwyl i’r mamogiaid a oedd yn cario gefeilliaid a thripledi i fod â sgôr BCS o 3.0 - 3.5 ac i’r mamogiaid a oedd yn cario ŵyn sengl i fod â sgôr BCS o 3.0.
Proffilio Metabolig
Roedd canlyniadau’r prawf proffilio metabolig a wnaed yn dangos lefelau arferol o brotein a Beta hydroxybutyrate (B-OHB) yng ngwaed pob un o’r grwpiau o famogiaid. Roedd cyfran o’r mamogiaid ym mhob grŵp yn dangos lefelau uchel o wrea. Gallai hyn fod o ganlyniad i ddiffyg egni. Roedd lefelau Albwmin hefyd yn isel mewn cyfran o’r holl grwpiau o famogiaid, a allai awgrymu diffyg protein difrifol neu haint llyngyr yr iau.
Gwirio’r dogn
Yn seiliedig ar ganlyniadau profion metabolig a sgorio cyflwr corff ar fferm Glanmynys, rhoddodd Joseph Angell gyngor y dylid bwydo gwahanol ddogn bob grŵp o famogiaid. Dylai ŵyn benyw beichiog dderbyn dwysfwyd (18% protein) ar gyfradd o 0.5kg y pen bob dydd, gan gynyddu’n raddol i oddeutu 1.1kg ar adeg ŵyna. Dylai mamogiaid sy’n cario gefeilliaid dderbyn bwyd ategol o 0.25kg y pen bob dydd o ddwysfwyd o ansawdd uchel gan gynyddu’n raddol i oddeutu 0.8kg ar adeg ŵyna.
Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd angen bwydo mamogiaid am ychydig wythnosau ar ôl ŵyna gan ddibynnu ar faint o laeth maen nhw’n ei gynhyrchu.
Os mae mamogiaid yn cael eu cadw dan do, mae’n bwysig sicrhau bod ganddynt ddigon o le wrth y cafnau bwydo er mwyn i bob un allu bwydo ar yr un pryd. Mae’r un peth yn wir ar gyfer mamogiaid sy’n cael eu bwydo yn yr awyr agored.
Proffilio elfennau hybrin
Cynhaliwyd profion ar gyfer yr elfennau hybrin canlynol: copr, seleniwm, sinc ac ïodin.
Nid oes angen ychwanegion copr a seleniwm ar hyn o bryd. Gallai gorgyflenwi arwain at broblemau gwenwyndra.
Mae lefelau cobalt yn ddigonol, fodd bynnag, roedd rhai mamogiaid yn dangos lefelau uwch na’r cyfartaledd. Gallai hynny awgrymu gorgyflenwi cobalt, felly mae’n bosibl gwella effeithlonrwydd a lleihau costau trwy gyflenwi llai o gobalt.
Ar gyfartaledd, roedd crynodiadau sinc yn y gwaed yn gymharol isel. Mae’n werth edrych ar hyn yn y dyfodol wrth ystyried ychwanegion cyn troi at yr hwrdd. Mae sinc yn hanfodol er mwyn imiwnedd.
Yn seiliedig ar y data a gasglwyd, nid oes angen ychwanegu unrhyw elfennau hybrin ar hyn o bryd. Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Joseph Angell yn awgrymu y dylid cymryd samplau gwaed gan y mamogiaid ar ôl diddyfnu i ganfod anghenion y mamogiaid cyn eu troi at yr hwrdd. Mae dadansoddi’r porthiant sydd ar gael iddynt hefyd yn bwysig.
Camau nesaf ar fferm Glanmynys:
- Cynnig dwysfwyd ychwanegol mewn perthynas â’r grwpiau mamogiaid a’r argymhellion a roddwyd.
- Cadw’r mamogiaid ar ddigonedd o laswellt o ansawdd uchel.
- Osgoi ychwanegu elfennau hybrin ar hyn o bryd.
- Samplu mamogiaid a’r porthiant sydd ar gael ar eu cyfer ar ôl diddyfnu er mwyn canfod gofynion y mamogiaid cyn eu troi at yr hwrdd.
Awgrymiadau ar gyfer ffermwyr eraill:
- Mae nifer o ffermwyr bellach yn ystyried profion metabolig yn adnodd hanfodol cyn ŵyna. Mae cyfran sylweddol o farwolaethau ŵyn yn fuan ar ôl eu genedigaeth yn gysylltiedig yn uniongyrchol gyda cholostrwm a chynhyrchiant llaeth y famog, ac mae hynny’n cael ei bennu i raddau gan faeth y famog.
- Os bydd mamogiaid yn cael eu cadw dan do, sicrhewch eu bod yn cael digon o le i fwydo fel bod modd i bob un fwydo ar yr un pryd. Os byddant yn cael eu bwydo yn yr awyr agored, sicrhewch fod y bwyd yn cael ei ddosbarthu’n ddigon eang am yr un rheswm.
- Mae proffilio elfennau hybrin yn cynorthwyo i bennu’r angen i roi ychwanegion, ac mae’n adnodd da er mwyn osgoi gorgyflenwi, sy’n gallu arwain at broblemau gwenwyno, ac er mwyn arbed costau sy’n gysylltiedig â gorgyflenwi.
- Bwydwch famogiaid ychydig wythnosau ar ôl ŵyna os maen nhw’n brin o laeth. Gall cynhyrchiant llaeth isel gynyddu’r potensial ar gyfer mastitis wrth i’r oen gnoi’r deth.
Ffigwr 1. Mamogiaid ar fferm Glanmynys
Ffigwr 2. Samplu gwaed mamogiaid ar fferm Glanmynys