Cyflwyno system silwair aml-doriad yn arbed miloedd i ffermwyr llaeth.
Mae un o safleoedd arddangos llaeth Cyswllt Ffermio wedi cyflwyno system silwair aml-doriad er mwyn asesu a fyddai modd lleihau costau dwysfwyd drwy gynhyrchu cymaint o laeth â phosibl o borthiant. Bu’r prosiect yn monitro ansawdd y porthiant, cynhyrchiant llaeth a chostau cynhyrchu.
Mae’r cysyniad o silwair aml-doriad a rheoli’r clamp yn datblygu i fod yn opsiwn poblogaidd i ffermwyr yn y Deyrnas Unedig. Mae’r cynnyrch llaeth ychwanegol a geir o ganlyniad i newid i system aml-doriad yn aml yn gwrthbwyso’r costau ychwanegol ar gyfer contractwyr. Mae dau glamp silwair o 1,000 tunnell o bwysau silwair ffres, un ar 11.5ME a’r llall ar 10.5ME, yn cynnwys gwahaniaeth o 300,000mJ mewn egni - sy’n gyfwerth â 60,000 litr o laeth.
Mae system aml-doriad yn golygu monitro twf y glaswellt yn ofalus yn ystod y cyfnod cynaeafu silwair er mwyn cael pedwar toriad neu fwy yn ystod y tymor. Mae hyn yn sicrhau bod glaswellt deiliog iau yn cael ei gynaeafu a'i silweirio, a fydd yn sicrhau’r lefelau uchaf posibl o ddeunydd sych (DM), egni metaboladwy (ME) a gwerth treuliadwyedd (gwerth D). Bu Richard Gibb, arbenigwr ar gynhyrchu porthiant, yn cynghori’r teulu Edwards ar fferm New Dairy ynglŷn â sut i wneud y defnydd gorau o system aml-doriad. Cafodd y toriadau cyntaf eu cynaeafu o ganol Ebrill, ac yna bob 4-5 wythnos.
"Yn ystod y tywydd sych yn 2018, roeddem ni’n falch ein bod wedi gallu adennill ychydig o borthiant yn ystod diwedd yr haf a dechrau’r hydref. Fodd bynnag, fe wnaethom ni gyfyngu rhywfaint ar ein colledion drwy dreialu system aml-doriad a lwyddodd i gynhyrchu silwair o ansawdd da yn ystod y tymor,” dywedodd y ffermwyr Hugo a Ross Edwards
Cafodd dadansoddiad o’r silwair ei gymharu gyda dadansoddiad o’r flwyddyn flaenorol, gan edrych yn benodol ar werth D, ME, DM a Phrotein Crai. Cafodd ansawdd a chyfanswm y cynnyrch llaeth ei gymharu gyda data’r flwyddyn flaenorol trwy edrych ar ffigyrau sieciau llaeth a choleri casglu data ar y gwartheg. Mae fferm New Dairy yn gweithio gyda For Farmers Dairy Herd Costings i gofnodi perfformiad y fuches bob mis, ac felly roedd modd cyfrifo buddion ariannol system aml-doriad.
Cafodd y prosiect effaith gadarnhaol ar incwm y fferm. Mae'r elw dros borthiant a chynnyrch a brynwyd fesul buwch wedi cynyddu ac mae'r fferm yn cynhyrchu mwy o borthiant o ansawdd uwch – naill ai fel glaswellt ffres neu wedi'i silweirio. Yn ystod y prosiect, o fis Ebrill 2018 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2020, roedd cynnyrch llaeth a lefelau braster llaeth a phrotein bron yr un fath. Fodd bynnag, roedd cynnyrch llaeth o borthiant fesul buwch wedi cynyddu 76% o 1,627 i 2,867 litr. O ran buddion ariannol, gwelwyd lleihad o 1.5/litr o ran cost dwysfwyd fesul litr. Roedd hyn yn ostyngiad o 755kg yn llai o ddwysfwyd fesul buwch bob blwyddyn. Roedd hyn yn cyfateb i arbediad ariannol o £109,771 y flwyddyn mewn costau dwysfwyd. Roedd costau cynhyrchu silwair glaswellt ar gyfer y clamp yn hanner y gost ar gyfer porthiant a brynwyd i mewn o ran cost fesul tunnell DM, sef £107/tunnell a £254.50/tunnell yn y drefn honno.
Yn ogystal â’r cyflawniadau hyn, mae’r teulu Edwards bellach yn canolbwyntio mwy ar reoli’r glaswelltir erbyn hyn i sicrhau bod y porthiant a gynhyrchir o’r ansawdd gorau posibl, a gwneud y gorau o’r tir sydd ar gael ar y fferm, a gwneud gwell defnydd o gaeau sydd wedi’u lleoli’n rhy bell i ffwrdd ar gyfer pori.
Bydd Hugo a Ross yn parhau â'r system aml-doriad gan eu bod yn hapus iawn â'r canlyniadau.
“Er nad yw’r system o reidrwydd yn addas ar gyfer pob fferm, rydym ni wedi gweld buddion gwirioneddol o’r dull aml-doriad yma ar fferm New Dairy. Mae’r prosiect wedi arwain at welliannau economaidd ac o ran cynnyrch drwy gynhyrchu mwy o laeth o borthiant a gwneud y defnydd gorau posibl o fwydydd a dyfir gartref.”