26 Chwefror 2021
Dr Cate Williams: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.
- Mae lleihau ôl troed C amaethyddiaeth yn hanfodol ond hefyd yn gymhleth iawn, gyda gostyngiadau mewn un maes yn aml yn creu cynnydd mewn maes arall.
- Mae gostyngiad mewn dwysfwydydd yn helpu i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr a chostau’r mewnbwn ond gall arwain at enillion dyddiol is a pheri i'r anifail gymryd mwy o amser i gyrraedd ei bwysau targed, sy’n arwain at fwy o allyriadau.
- I leihau nifer y dyddiau cyn lladd yr anifail, mae angen rhoi porthiant a llawer o egni ynddo, a gall cynhyrchu hwnnw greu problemau amgylcheddol ac weithiau achosi problemau iechyd i'r anifail.
- Rhaid i’r cymhlethdodau hyn gael eu hystyried yn ofalus a'u cydbwyso, a rhaid mabwysiadu strategaeth holistig wrth geisio lleihau ôl troed C fferm.
- Mae astudiaethau’n awgrymu bod rhaglenni bridio detholus sy'n canolbwyntio ar effeithlonrwydd y porthiant, ffrwythlondeb ac iechyd da yn effeithiol ac yn gallu helpu i wrthbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Yn yr ymdrech i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynyddu cynaliadwyedd amgylcheddol, mae'r diwydiant amaethyddol yn dod o dan bwysau cynyddol i leihau ei ôl troed carbon (C). Er hynny, mae un agwedd hanfodol ar y cynllun hwn yn eisiau, sef sut yn union mae hyn yn cael ei gyflawni? Mae yna lawer o ffyrdd arfaethedig o leihau ôl troed C ffermio, y rhan fwyaf wedi’u seilio ar efelychiadau a dadansoddiadau cylch bywyd (LCA) sydd wedi’u bwriadu i efelychu bywyd go iawn. Wrth gwrs, fydd cynrychiolaeth wedi’i llunio gan gyfrifiadur byth yn disgrifio’n llawn yr ystod lawn o newidynnau sy'n effeithio ar allyriadau nwyon tŷ gwydr mewn bywyd go iawn, ac mae hyn felly, yn amlygu un o brif gyfyngiadau'r astudiaethau hyn. Serch hynny, mae'r arbrofion hyn yn bwysig, oherwydd er mwyn profi gostyngiad mewn allyriadau, yn gyntaf mae’n rhaid sefydlu llinell sylfaen a hyd nes bod technoleg wedi’i datblygu sy'n gallu mesur allyriadau nwyon tŷ gwydr mewn amser real o dir, anifeiliaid, cerbydau a slyri fel ei gilydd, efelychiad yw'r ffordd fwyaf cywir ymlaen.
Un dull o'r fath sydd wedi’i gynnig ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar y fferm yw lleihau “beth sy'n mynd i mewn”, h.y. llai o ddwysfwydydd, llai o ddyddiau cyn lladd a lleihau'r bwlch lloia. Yn syml, os yw’r anifail yn fyw am gyfnod byrrach, mae llai o gyfle iddo fwyta porthiant a chreu allyriadau. Yn yr un modd, mwyaf effeithlon y gall yr anifail fod, mwyaf i gyd o wrthbwysiadau (mewn cig neu laeth) sy'n cael eu creu dros ei oes gyfan.
Lleihau nifer y dyddiau cyn lladd
Gall lleihau nifer y dyddiau cyn lladd yr anifail edrych fel dull syml a rhesymegol o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Ond ar yr ail olwg, mae'r sefyllfa'n fwy cymhleth. Os yw’r anifail yn gorffen yn gynt, mae’n debygol o orffen ar bwysau is, sy’n arwain at bris gwerthu isel ac anhawster posibl i ddod o hyd i brynwr. Gan hynny, mae’n rhaid gorffen yr anifail yn unol â’r targed pwysau mewn cyfnod byrrach, a hynny fel arfer drwy roi deiet o lawer o ddwysfwyd o ansawdd dda. Mae hwn yn ddull deniadol o gofio bod astudiaethau gwyddonol wedi dangos yn gyson fod deietau wedi’u seilio ar ddwysfwyd yn arwain at allyriadau methan (CH4) is hefyd. Mae hyn yn digwydd am fod y meicrobiota yn y rwmen yn creu asetad mwy cymesur a llai asidig ac yn defnyddio hydrogen a chyfyngu ar ei gyflenwad ar gyfer ffurfio CH4. Wrth gwrs, nid yw deietau sy’n cynnwys llawer o ddwysfwyd yn rhydd rhag anfanteision: nid yw anifeiliaid sy’n cnoi cil wedi'u haddasu'n dda i dreulio grawn ac mae’r plisgyn yn aros yn y perfedd a all arwain at groniad pathogenau a heintiau, yn ogystal â phroblem adnabyddus asidosis anifeiliaid cnoi’r cil. O ran elw, mae prynu dwysfwydydd yn ddewis drud, ond os yw'r porthiant yn tyfu gartref gall hyn helpu i leihau ôl troed amgylcheddol y busnes a bydd yn caniatáu arbedion yn y tymor hir. Wrth brynu dwysfwydydd i mewn, ceir hefyd gwestiwn newid defnydd tir, llygredd, datgoedwigo a llu o faterion amgylcheddol yng ngwlad y tarddiad, ar ben y nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir yn y broses allforio/mewnforio. Felly, ydy hwn yn opsiwn gwell? Ydy’r gostyngiadau yn y nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu creu gan yr anifail yn gwrthbwyso'r problemau sy’n codi yn sgil deiet a llawer o ddwysfwyd ynddi? Un elfen allweddol yn y dadansoddiad yw ystyried y ffin: os gât y fferm yw’r fan lle mae mesuriadau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn stopio, yna yn wir, mae'r strategaeth hon yn addawol. Ond, o ddadansoddi’r cylch oes cyfan, gan gynnwys yr effeithiau byd-eang, mae'r dull yn llai effeithiol.
Pan fo anifeiliaid, a defaid yn arbennig, yn cael eu magu ar dir glas uchel ac ymylol bydd cyfran sylweddol o’r ddeiet yn borthiant sy'n tueddu i greu lefelau uwch o CH4 na dwysfwydydd neu borfeydd yr iseldir (Tabl 1). Er hynny, mae gan y mannau uchel a mynyddig hyn rôl o ran cipio CH4 (rôl fach iawn bid siŵr) ac mae rheoli’r mannau hyn drwy eu pori’n llai dwys yn bwysig er mwyn cyflawni amcanion amaeth-amgylcheddol ehangach a chynnal nwyddau cyhoeddus.
Kg CO2e/kg pwysau byw |
Mynydd |
Ucheldir |
Iseldir |
Cyfartaledd |
13.6 |
11.0 |
11.1 |
Tabl 1: Allyriadau nwyon tŷ gwydr cyfartalog wedi’u dangos mewn kg o garbon deuocsid cyfwerth (CO2e) am bob kg o bwysau byw ar gyfer defaid mewn gwahanol systemau – iseldir, ucheldir a mynyddoedd, y data wedi’i godi o EBLEX (2013).
Dros y ganrif ddiwethaf, mae cynhyrchiant anifeiliaid wedi cynyddu'n sylweddol, ac mae angen llai o anifeiliaid i gynhyrchu'r un faint o gynnyrch, sy'n gwrthbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr. Ond, mae’r defnyddwyr yn dal i weld systemau lai dwys yn fwy ecogyfeillgar. Yn groes i'r gred hon, mae astudiaethau'n awgrymu bod gan wartheg cig eidion sydd wedi’u gorffen ar dir pori ôl troed C uwch na'r rhai sy’n cael eu gorffen ar ddeiet sy'n seiliedig ar ddwysfwyd (19.2 kg vs. 14.8 kg o garbon deuocsid cyfwerth (CO2e)/kg). Y rheswm pennaf am hyn yw’r cyfraddau twf cyflymach mewn anifeiliaid a oedd yn cael eu gorffen ar ddwysfwyd ac a lwyddai i gyrraedd eu targed pwysau hyd at 7 mis yn gynt na'r rhai a gâi eu gorffen ar laswellt. Mae’r ymchwil yn awgrymu nad yr opsiynau mwyaf hyfyw o safbwynt economaidd yw’r rhai mwyaf ecogyfeillgar bob amser, ac mai lladd yn 19 mis oed ar ôl gorffen ar dir pori gyda phorthiant atodol oedd yn rhoi’r enillion gorau, ond mai gorffen dan do ar ddwysfwyd ad-lib oedd yn creu’r allyriadau nwyon tŷ gwydr isaf. Er bod systemau tir pori yn cynhyrchu pwysau carcas is, mae costau’r dwysfwyd hefyd gryn dipyn yn is, sy’n arwain at fwy o elw net. Er hynny, drwyddi draw, mae lleihau dwysfwyd yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae'r cydbwysedd rhwng yr optimwm economaidd a’r optimwm amgylcheddol yn gysyniad pwysig ac un y mae angen ei ystyried yn ofalus wrth wneud newidiadau mewn systemau er mwyn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mewn llawer rhan o'r byd, yn enwedig UDA, mae clytiau tir penodol (‘feedlots’) yn aml yn cael eu defnyddio i orffen gwartheg cig eidion ar ddeiet egni uchel sy'n seiliedig ar ddwysfwyd. Mae'r strategaeth hon yn defnyddio ychydig iawn o dir a dwysedd stocio uchel, ac er nad dyma’r opsiwn gorau posibl o ran iechyd a lles yr anifeiliaid, mae hyn yn cynhyrchu llawer llai o nwyon tŷ gwydr o’i gymharu â systemau glaswellt. Mewn systemau o'r fath, dim ond rhyw 20% o gyfanswm yr allyriadau y mae'r clwt o dir porthi yn ei gyfrannu. Er hynny, mae cynhyrchu’r porthiant yn cyfrannu rhwng 38% a 42%. Yn y sefyllfa hon, efallai mai'r gwrthbwysiad pwysicaf yn erbyn allyriadau nwyon tŷ gwydr fyddai cynyddu effeithlonrwydd y porthiant a’r enillion dyddiol cyfartalog (ADG), sef nodweddion a all gael eu gwella drwy ddefnyddio rhaglenni dethol genomig a rhaglenni bridio detholus.
Lleihau dwysfwydydd
Yn yr un modd, gall lleihau'r ddibyniaeth ar ddwysfwydydd edrych fel dull syml ac effeithiol o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Ond ydy hi mor syml â hyn? Pan gaiff dwysfwyd ei dorri ac nad yw'r porthiant a ddarperir o ansawdd dda, mae’r ADG yn gostwng ac mae’r anifeiliaid yn cymryd mwy o amser i’w gorffen, sy’n arwain at fwy o amser i gynhyrchu allyriadau nwyon tŷ gwydr. Nid yw’r targedau pwysau’n cael eu cyrraedd, sy'n ei gwneud yn anodd marchnata'r carcas neu’n creu pris is. Mae’r paradocs hwn yn cael ei adnabod fel 'cyfnewid llygredd'. Er enghraifft, gall bwydo deietau sy'n cynnwys lefelau uchel o rawnfwyd leihau CH4 enterig, ond gall allyriadau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu'r porthiant eu hunan gynyddu cyfanswm yr allyriadau. Ar ben yr allyriadau enterig yn sgil newidiadau yn y porthiant, dylai’r amrywiad dilynol yn yr allbwn tail gael ei gynnwys hefyd mewn cyfrifiadau nwyon tŷ gwydr. Er enghraifft, amcangyfrifwyd bod ôl troed C porthiant atodol yn creu effaith debyg, sef 10-11% o gyfanswm yr allyriadau, ond pan ystyrir allyriadau N2O o’r tail, mae'r ffigur hwn yn neidio i 35%.
Gwelodd cymhariaeth rhwng dognau dwysfwyd uchel ac isel mewn gwartheg godro fod yna gyfaddawd rhwng yr effaith ar fioamrywiaeth a chyfanswm yr ôl troed C. Gallai deietau â mwy o ddwysfwyd leihau’r ôl troed C (0.31 CO2e/kg) ond roedd y gostyngiadau hyn yn llai pan gafodd storio carbon yn y pridd ei ystyried (0.23 CO2e/kg). Yn unol â’r disgwyl, roedd deiet wedi’i seilio ar ddwysfwyd yn creu effaith negyddol ar fesuriadau bioamrywiaeth o’i chymharu â defnyddio llai o ddwysfwyd. O ran ffermio defaid, mae olion traed C yn amrywio'n fawr, gydag un astudiaeth yn gweld amrediad o 0.23 - 55.08 kg CO2e/kg yn y cynhyrchion. Mae hyn yn awgrymu bod rhai systemau hynod effeithlon yn cynhyrchu bron dim allyriadau, sydd yn ei dro yn awgrymu bod yna le i wella.
Mae hefyd yn bwysig ystyried y newid yn y defnydd tir sy’n angenrheidiol er mwyn cynhyrchu bwyd anifeiliaid. Mae deietau â llawer o ddwysfwyd yn lleihau allyriadau CH4 enterig ond ydy hyn yn ddigon i gydbwyso’r nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu rhyddhau wrth gynhyrchu'r porthiant hwnnw? Edrychodd astudiaeth yn yr Iseldiroedd ar ddefnyddio silwair indrawn yn lle silwair glaswellt fel ffordd o leihau allyriadau CH4 enterig ar dair lefel wahanol: yr anifail, y fferm, a’r gadwyn. Dangosodd yr astudiaeth fod lefel y dadansoddi yn dylanwadu'n gryf ar y canlyniadau a’r casgliadau. Ar lefel yr anifail, fe weithiodd y strategaeth, gan leihau’r allyriadau blynyddol o 12.8 kg CO2e am bob tunnell o gynnyrch. Ond, datgelodd dadansoddiad ar lefel y fferm a’r gadwyn yn gyntaf nad yw'r strategaeth bob amser yn bosibl yn gorfforol oherwydd rhai o reoliadau'r UE sy'n gwahardd lleihau arwynebedd glaswelltir. Ond, ar gyfer y fferm fwyaf dwys a all leihau arwynebedd ei glaswelltir, cafodd yr allyriadau blynyddol eu lleihau 17.8 kg CO2e ar lefel fferm ac 20.9 kg CO2e ar lefel y gadwyn. Serch hynny, drwy droi dir glaswellt yn dir indrawn cafwyd allyriadau o 913 kg CO2e. Ar lefelau y fferm a’r gadwyn, felly, nid yw'r strategaeth yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar unwaith waeth beth fo'r canlyniadau ar lefel yr anifail. Amcangyfrifwyd y byddai'n cymryd 44 blynedd ar lefel y gadwyn cyn i'r gostyngiad mewn allyriadau wrthbwyso'r rhai sy'n deillio o newid defnydd y tir.
Drwyddi draw, hyd yn oed pan fydd y tir ychwanegol a'r mewnbynnau ychwanegol sydd eu hangen i gynhyrchu porthiant dwys yn cael eu hystyried, mae anifeiliaid sy'n cael eu magu'n ddwys yn defnyddio llai o dir na'r rhai mewn systemau llai dwys: gan fod cnydau porthiant yn cynnwys mwy o faeth na glaswellt, mae angen llai o arwynebedd ar gyfer swm penodol o faeth. Hefyd, mae llai o nwyon tŷ gwydr (yn enwedig CH4) yn cael eu hallyrru. Ar y llaw arall, mae anifeiliaid sy’n cael eu magu’n llai dwys yn creu llai o allbwn bwytadwy am bob uned o nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu gollwng ac ar raddfa fyd-eang maen nhw’n gyfrifol am swm sylweddol o ddatgoedwigo amaethyddol a ysgogir gan dda byw. Mae angen llai byth o dir ar foch a dofednod ac mae’r rhain yn creu llai o allyriadau nag anifeiliaid sy’n cnoi’r cil, am fod eu heffeithlonrwydd trosi porthiant yn fwy, ac am nad yw’r system dreulio fonogastrig yn creu prin ddim CH4. Efallai mai'r dull mwyaf ecogyfeillgar o fagu da byw yw defnyddio system gymysg neu bori ar dir na all gynnal cnydau. Mewn system gymysg, er enghraifft, gallai da byw gael eu pori mewn cylchdro gyda chnydau a chyfrannu tail. At hynny, o’i reoli'n dda, gall pori da byw ar dir pori gyfrannu at gynnal a chadw ecosystemau a bioamrywiaeth. Mae rhywfaint o ymchwil yn awgrymu y gall systemau pori gynyddu’r C sy’n cael ei ddal a’i storio yn y pridd – ond cymysg yw’r canlyniadau ac mae’r manteision yn gyfyngedig o ran amser. Strategaeth liniaru arall o ran porthiant yw defnyddio gweddillion cnydau neu wastraff bwyd na all pobl ei fwyta, gan ganiatáu i wastraff nad oes modd ei fwyta gael ei droi'n brotein anifeiliaid y gall pobl ei fwyta.
Lleihau bylchau lloia
Dull posibl arall i’r diwydiannau cig eidion a llaeth yw lleihau bylchau lloia (CI) a sicrhau'r canlyniad gorau posibl o ran oedran adeg y lloia cyntaf (AFC). Ystyr y bwlch lloia yw’r cyfnod amser rhwng bwrw lloi ac fe ddylai fod yn 365 o ddiwrnodau neu flwyddyn yn union. Yr AFC gorau i heffrod llaeth a chig eidion yw 22-26 mis oed, sef 24 mis oed ar gyfartaledd. Er y gall fod yn anodd cynnal yr AFCs a'r bylchau lloia gorau posibl yn ymarferol, bydd hynny'n sicrhau’r cynhyrchiant a’r proffidioldeb gorau posibl ac yn gwella hirhoedledd y buchod, ar ben gostyngiadau posibl mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae’r ychydig ddegawdau diwethaf wedi gweld gostyngiad cyson yn ffrwythlondeb buchesi godro a allai gyfrannu at fylchau lloia hirach. Pe bai lefelau ffrwythlondeb yn cael eu hadfer i lefelau 1995, gwelodd un astudiaeth y gallai allyriadau CH4 gael eu gostwng 10-11% ac amonia (NH3) 9%. Pan ddefnyddiwyd y lefelau ffrwythlondeb gorau posibl yn yr efelychiad, cafwyd gostyngiad o 24% yn yr allyriadau CH4 a 17% yn yr allyriadau NH3. Mae'r gwaith hwn yn awgrymu mai'r prif ffactor sy’n dylanwadu ar allyriadau yw nifer yr heffrod cadw y mae eu hangen, a bod bylchau lloia, newidiadau yn y cynnyrch llaeth blynyddol ac yng nghyfansoddiad y ddeiet yn creu effeithiau llai arwyddocaol, sy'n dangos mor bwysig yw edrych ar fater ffrwythlondeb yn ei gyfanrwydd.
Mae defnyddio Mynegai Mamau Cyfnewid (MR) a Mynegai Cig Eidion Terfynol (T) Iwerddon mewn efelychiadau hefyd yn gallu dangos effeithiau posibl geneteg ar allyriadau nwyon tŷ gwydr. Drwy ddefnyddio’r mynegai MR cafwyd gostyngiad mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr o 0.810 kg CO2e i bob buwch fridio. Cafodd y gostyngiadau hyn eu sbarduno gan welliannau yng ngoroesiad y gwartheg, gostyngiad yn y gofynion o ran porthiant, bwlch lloia byrrach a llai o farwolaethau ymysg y lloi. O ran bwlch lloia, cyfrifodd y dadansoddiad y byddai 1.232 kg yn ychwanegol o CO2e y diwrnod yn cael ei gynhyrchu am bob diwrnod o gynnydd yn y bwlch. Yn unol â’r disgwyl, creodd y bwlch lloia effaith wedyn ar gyfanswm nifer yr epil, gan effeithio felly ar nifer y lloi a gâi eu gwerthu fesul buwch, fesul blwyddyn. Awgrymodd yr efelychiad y gallai lleihau’r bwlch lloia gynyddu allyriadau am fod gofynion porthiant gwartheg sy’n feichiog neu yn llaetha yn uwch ac am eu bod yn cynhyrchu nifer uwch o epil bob blwyddyn, ond y gallai hyn gael ei wrthbwyso gan gig a gynhyrchir o'r epil, sy’n golygu mai gostyngiad mewn allyriadau yw’r canlyniad net. Roedd y model hefyd yn rhag-weld y byddai gostyngiadau mewn AFC yn cael effaith gadarnhaol ar yr allyriadau gros ac ar ddwysedd yr allyriadau, ond nid effaith mor arwyddocaol â’r bwlch lloia. Gan roi pris ar hyn, canfu gwyddonwyr yn Awstralia fod y costau wedi codi tua $2.49 - $2.61 y diwrnod/y fuches am bob diwrnod uwchlaw’r bwlch lloia cyfartalog. Mae'r gwaith hwn yn awgrymu bod hwn yn fater cymhleth y mae angen dull cyfansawdd ar ei gyfer, gyda ffactorau fel bwlch lloia, AFC, cyfradd goroesi’r lloi ac effeithlonrwydd y porthiant yn ffurfio rhannau hanfodol o gynllun mwy holistig.
Drwyddi draw, mae bylchau lloia byrrach yn creu mwy o loi fesul buwch y flwyddyn gan arwain at ostyngiad yn y nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir fesul uned o gig eidion neu laeth. Felly, mae bwlch lloia tynn o 12-13 mis a chyflawni'r AFC a argymhellir o 24 mis yn helpu i greu system effeithlon a chynhyrchiol ar gyfer mentrau cig eidion a llaeth. Mae sicrhau maethiad da a bod yn ymwybodol o iechyd y fuches – gan ddal materion cyn iddyn nhw droi’n broblemau – yn cyfrannu at ffrwythlondeb da sydd, yn ei dro, yn helpu i gynnal bwlch lloia da. Mae cyfrifo gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yn broses gymhleth, ac mae gwrthbwysiad llaeth neu gig yn aml yn creu effaith arwyddocaol yn ogystal â rheolaeth yr anifeiliaid a'r math o system. Gall nodweddion atgynhyrchu fel bwlch lloia nid yn unig helpu i gynyddu effeithlonrwydd a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ond gallant hefyd wella proffidioldeb y busnes. Gan hynny, mae'r agweddau hyn yn rhan bwysig o strategaeth holistig ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o'r diwydiant cynhyrchu da byw.
Crynodeb
Mae'r cysyniad o leihau ôl troed C byd amaeth yn gymhleth – gyda gostyngiadau mewn un maes yn aml yn achosi cynnydd mewn maes arall. Gall strategaethau fel lleihau dwysfwydydd neu leihau’r cyfnod cyn lladd edrych yn rhesymegol a didrafferth, ond er mwyn cyflawni targedau pwysau a sicrhau enillion dyddiol cyfartalog da, mae angen gorffen y da byw ar ddeiet sy'n cynnwys llawer o egni ac sy’n gyflawn o safbwynt maeth, sy'n arbennig o bwysig er mwyn cyflymu twf a chyrraedd y lladd-dy yn gynt. Er hynny, mae'r dull hwn yn ddrud i'r ffermwr os oes rhaid prynu dwysfwydydd i mewn ac mae’n arwain at amryw o faterion eraill. Gellir gweld tuedd debyg o ran lleihau dwysfwydydd – gall y twf fod yn arafach, ac mae gan yr anifeiliaid fwy o amser i greu allyriadau yn ogystal â deietau ac ynddi lawer o borthiant sy'n arwain at fwy o CH4. Ar y llaw arall, dylai’r bwlch lloia fod yn rhan bwysig o strategaeth fwy holistig sy'n mynd i'r afael â ffrwythlondeb a chynhyrchiant mewn buchesi llaeth a chig eidion. Mae cadw at y bwlch lloia a’r AFC gorau posibl yn arwain at fwy o loi fesul buwch y flwyddyn sy’n arwain at ostyngiad yn y nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir fesul uned o gig eidion neu laeth. Mae astudiaethau hefyd yn nodi'n aml y bydd dulliau eraill fel cynhyrchu porthiant gartref a defnyddio rhaglenni bridio detholus i gynyddu effeithlonrwydd y porthiant, y ffrwythlondeb neu iechyd yr anifeiliaid hefyd yn talu ar ei ganfed – mewn elw ac o bosibl mewn llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae llawer o ffermwyr eisoes yn gwneud gwelliannau yn y meysydd allweddol hyn i hybu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd eu busnes, a all gael yr effaith ganlyniadol o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy wrthbwysiadau.
Pwyntiau gweithredu
- Bridio ar gyfer effeithlonrwydd: Gallai canolbwyntio ar effeithlonrwydd porthiant, ffrwythlondeb ac iechyd mewn strategaethau bridio detholus leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy eu gwrthbwyso â mwy o gynnyrch.
- Aros yn ymwybodol o iechyd anifeiliaid: Bydd adnabod problemau, megis cloffni, cyn gynted â phosibl nid yn unig yn lleihau costau milfeddygol ond yn paratoi’r anifail i gynhyrchu'r uchafswm o gig neu laeth ac o bosibl yn ymestyn ei oes cynhyrchiol.
- Porthiant o ansawdd dda: Gall porthiant cartref o ansawdd dda helpu i leihau'r ddibyniaeth ar ddwysfwydydd a brynir, gan leihau ôl troed C y busnes a chostau porthiant, ac ar yr un pryd ganiatáu maethiad i’r anifeiliaid sydd wedi'i deilwra ac wedi'i dargedu.