Diweddariad ar Brosiect Glanmynys – Mawrth 2021
Un o’r gwersi pwysicaf a ddysgwyd y llynedd oedd pwysigrwydd sgorio cyflwr corff (BCS) mamogiaid. Nid oedd y mamogiaid yn y cyflwr gorau adeg wyna 2020, ac mae hynny wedi cael sgil-effaith ar ffrwythlondeb y mamogiaid. Mae BCS yn ddull rheoli cyflym, hawdd ac isel ei gost i wella cynhyrchiant mamogiaid a phroffidioleb eich diadell. Ffordd o gymharu defaid ydyw: yn annibynnol ar bwysau byw, maint ffrâm, brîd, cyfnod beichiogrwydd, llawnder perfedd. Mae BCS yn werthfawr gan ei fod yn ymwneud â gallu defaid i gynhyrchu heb ystyried pwysau’r corff.
Dengys astudiaethau bod sgoriau cyflwr corff mamogiaid yn cael effaith uniongyrchol ar:
- % sganio
- Pwysau ŵyn ar eu genedigaeth
- Eu gallu i fagu ŵyn
- Goroesiad ŵyn
- Cynhyrchiant colostrwm
- Cyfradd tyfu ŵyn a phwysau amser diddyfnu
- Cyfraddau marwolaethau defaid
Yr un ffactor pwysicaf sy’n dylanwadu ar y rhain yw canran y mamogiaid sydd o dan BCS o 3 adeg rhoi hwrdd ac adeg wyna. Felly, mae’n hollbwysig tynnu nifer y mamogiaid teneuach i lawr, gan mai’r rhain sy’n tynnu perfformiad ar draws y ddiadell i lawr.
Un o’r ffigyrau meincnodi tymor byr y byddwn yn ceisio’u gwella eleni yn fferm Glanmynys fydd cynyddu nifer yr ŵyn sy’n cyrraedd y targed pwysau 8 wythnos o 19kg a chynyddu nifer yr ŵyn sy’n cael eu gwerthu’n dew adeg diddyfnu. Bydd y targedau hirdymor yn canolbwyntio ar leihau nifer y mamogiaid sydd â BCS o dan 3 a chynyddu’r canrannau sganio yn 2022. Er mwyn gwneud hyn, bydd Carine a Peredur yn gweithio’n agos â Liz Genever, sy’n arbenigwr defaid annibynnol, sydd wedi dyfeisio’r rhaglen a welir isod.
Drwy sgorio cyflwr corff y mamogiaid ar adegau allweddol o’r flwyddyn, bydd Peredur a Carine yn rhannu’r ddiadell yn ddwy: Diadell A (BCS o 3 a drosodd) a Diadell B (BCS o dan 3). Mae rhedeg mamogiaid fel un criw yn golygu eich bod yn gwastraffu porthiant drwy wella cyflwr mamogiaid sydd eisoes wedi cyrraedd y cyflwr gorau posibl ac na chewch ddim ychwanegol yn ôl ganddynt. Byddai’n well i’r porthiant hwnnw fod wedi cael ei ddefnyddio fel ‘porthiant wedi’i dargedu’. Mae’n cymryd llawer mwy o laswellt i gynyddu pwysau mamog sydd mewn cyflwr da (tewach/trymach) na mamog deneuach/ysgafnach. Byddant nid yn unig yn cofnodi sgôr cyflwr corff y ddau grŵp, ond bydd hynny hefyd yn cael effaith ar ba hwrdd a roddir iddynt. Mae Peredur yn bwriadu rhoi hwrdd ‘Easycare’ i Ddiadell A, i gynhyrchu ŵyn benyw cadw ar gyfer y dyfodol, a rhoddir hwrdd i gynhyrchu ŵyn i’w lladd i Ddiadell B. Y nod hirdymor fydd sicrhau bod yr ŵyn cadw yn cael eu bridio o’r mamogiaid sydd fwyaf effeithlon.
Mae Peredur yn mesur y glaswellt ar y fferm, ac mae hynny’n helpu i fonitro’r cyflenwad porthiant a’r galw amdano. Y gorchudd fferm cyfartalog yn fferm Glanmynys ar ddechrau Chwefror 2021 oedd 2,000kgDM/ha. Yn ddibynnol ar y gorchudd glaswellt, mae Peredur wedi gosod padogau wyna a chyn-wyna yn barod ar gyfer y mamogiaid.
Bydd gweithredu rhaglen reoli yn ei gwneud yn haws i reoli’r defaid a gallu casglu data yn fwy effeithlon. Gellir dyblygu’r cynllun isod ar gyfer unrhyw fferm.
TYMOR BYR – tri mis nesaf |
|
1 |
Monitro’r glaswellt |
2 |
Monitro sgôr cyflwr corff y mamogiaid ar adegau allweddol o’r flwyddyn |
3 |
Cynllun i leihau effaith haint y cymalau a phliwrisi (Heptavac) mewn ŵyn |
TYMOR CANOLIG – y tri i chwe mis nesaf |
|
1 |
Dewis cymysgedd ar gyfer cnydau porthiant - swêd a chnydau eraill i ledaenu’r risg |
2 |
Defnyddio data ar gyfraddau pesgi dyddiol ochr yn ochr â chyfrif wyau ysgarthol (FEC) i wneud cynllun trin llyngyr |
3 |
Cynnal perfformiad yr ŵyn ar ôl diddyfnu |
TYMOR HWY – yn y deuddeg mis nesaf |
|
1 |
Cynllun pori ar gyfer yr hydref/gaeaf gyda dewisiadau, gan gynnwys gaeafu llai i ffwrdd dros y gaeaf a chamau rheoli gweddilliol yn ystod y cyfnod hyrdda |
2 |
Rhoi targed i gael canran benodol o’r ŵyn oddi ar y fferm erbyn adeg diddyfnu |
3 |
Gwella cyfraddau ŵyn byw a chanrannau sganio mewn mamogiaid |
1. Cynllun Gweithredu Misol