Diweddariad ar Brosiect Glanmynys – Mawrth 2021

Un o’r gwersi pwysicaf a ddysgwyd y llynedd oedd pwysigrwydd sgorio cyflwr corff (BCS) mamogiaid. Nid oedd y mamogiaid yn y cyflwr gorau adeg wyna 2020, ac mae hynny wedi cael sgil-effaith ar ffrwythlondeb y mamogiaid. Mae BCS yn ddull rheoli cyflym, hawdd ac isel ei gost i wella cynhyrchiant mamogiaid a phroffidioleb eich diadell. Ffordd o gymharu defaid ydyw: yn annibynnol ar bwysau byw, maint ffrâm, brîd, cyfnod beichiogrwydd, llawnder perfedd. Mae BCS yn werthfawr gan ei fod yn ymwneud â gallu defaid i gynhyrchu heb ystyried pwysau’r corff.

Dengys astudiaethau bod sgoriau cyflwr corff mamogiaid yn cael effaith uniongyrchol ar: 

  • % sganio 
  • Pwysau ŵyn ar eu genedigaeth
  • Eu gallu i fagu ŵyn 
  • Goroesiad ŵyn 
  • Cynhyrchiant colostrwm 
  • Cyfradd tyfu ŵyn a phwysau amser diddyfnu 
  • Cyfraddau marwolaethau defaid

Yr un ffactor pwysicaf sy’n dylanwadu ar y rhain yw canran y mamogiaid sydd o dan BCS o 3 adeg rhoi hwrdd ac adeg wyna. Felly, mae’n hollbwysig tynnu nifer y mamogiaid teneuach i lawr, gan mai’r rhain sy’n tynnu perfformiad ar draws y ddiadell i lawr. 

Un o’r ffigyrau meincnodi tymor byr y byddwn yn ceisio’u gwella eleni yn fferm Glanmynys fydd cynyddu nifer yr ŵyn sy’n cyrraedd y targed pwysau 8 wythnos o 19kg a chynyddu nifer yr ŵyn sy’n cael eu gwerthu’n dew adeg diddyfnu. Bydd y targedau hirdymor yn canolbwyntio ar leihau nifer y mamogiaid sydd â BCS o dan 3 a chynyddu’r canrannau sganio yn 2022. Er mwyn gwneud hyn, bydd Carine a Peredur yn gweithio’n agos â Liz Genever, sy’n arbenigwr defaid annibynnol, sydd wedi dyfeisio’r rhaglen a welir isod. 

Drwy sgorio cyflwr corff y mamogiaid ar adegau allweddol o’r flwyddyn, bydd Peredur a Carine yn rhannu’r ddiadell yn ddwy: Diadell A (BCS o 3 a drosodd) a Diadell B (BCS o dan 3). Mae rhedeg mamogiaid fel un criw yn golygu eich bod yn gwastraffu porthiant drwy wella cyflwr mamogiaid sydd eisoes wedi cyrraedd y cyflwr gorau posibl ac na chewch ddim ychwanegol yn ôl ganddynt. Byddai’n well i’r porthiant hwnnw fod wedi cael ei ddefnyddio fel ‘porthiant wedi’i dargedu’. Mae’n cymryd llawer mwy o laswellt i gynyddu pwysau mamog sydd mewn cyflwr da (tewach/trymach) na mamog deneuach/ysgafnach. Byddant nid yn unig yn cofnodi sgôr cyflwr corff y ddau grŵp, ond bydd hynny hefyd yn cael effaith ar ba hwrdd a roddir iddynt. Mae Peredur yn bwriadu rhoi hwrdd ‘Easycare’ i Ddiadell A, i gynhyrchu ŵyn benyw cadw ar gyfer y dyfodol, a rhoddir hwrdd i gynhyrchu ŵyn i’w lladd i Ddiadell B. Y nod hirdymor fydd sicrhau bod yr ŵyn cadw yn cael eu bridio o’r mamogiaid sydd fwyaf effeithlon.  

Mae Peredur yn mesur y glaswellt ar y fferm, ac mae hynny’n helpu i fonitro’r cyflenwad porthiant a’r galw amdano. Y gorchudd fferm cyfartalog yn fferm Glanmynys ar ddechrau Chwefror 2021 oedd 2,000kgDM/ha. Yn ddibynnol ar y gorchudd glaswellt, mae Peredur wedi gosod padogau wyna a chyn-wyna yn barod ar gyfer y mamogiaid. 

Bydd gweithredu rhaglen reoli yn ei gwneud yn haws i reoli’r defaid a gallu casglu data yn fwy effeithlon. Gellir dyblygu’r cynllun isod ar gyfer unrhyw fferm. 
 

TYMOR BYR – tri mis nesaf

1

Monitro’r glaswellt

2

Monitro sgôr cyflwr corff y mamogiaid ar adegau allweddol o’r flwyddyn

3

Cynllun i leihau effaith haint y cymalau a phliwrisi (Heptavac) mewn ŵyn

TYMOR CANOLIG – y tri i chwe mis nesaf

1

Dewis cymysgedd ar gyfer cnydau porthiant - swêd a chnydau eraill i ledaenu’r risg

2

Defnyddio data ar gyfraddau pesgi dyddiol ochr yn ochr â chyfrif wyau ysgarthol (FEC) i wneud cynllun trin llyngyr

3

Cynnal perfformiad yr ŵyn ar ôl diddyfnu

TYMOR HWY – yn y deuddeg mis nesaf

1

Cynllun pori ar gyfer yr hydref/gaeaf gyda dewisiadau, gan gynnwys gaeafu llai i ffwrdd dros y gaeaf a chamau rheoli gweddilliol yn ystod y cyfnod hyrdda

2

Rhoi targed i gael canran benodol o’r ŵyn oddi ar y fferm erbyn adeg diddyfnu

3

Gwella cyfraddau ŵyn byw a chanrannau sganio mewn mamogiaid

 

1.    Cynllun Gweithredu Misol