Dolygarn – diweddariad prosiect porthiant amgen - Medi 2020
Cynhaliwyd ymweliad â fferm Dolygarn gan gadw at reolau cadw pellter cymdeithasol ar 9 Medi 2020
Yn ystod yr ymweliad hwn, bu Charlie Morgan yn mesur cynnyrch y ddau gnwd, sef Clampsaver a Brassica Express (tunnell DM/ha). O ganlyniad i natur y ddau gnwd, nid oes modd eu mesur gan ddefnyddio mesurydd plât. Roedd y cnydau yn y ddau gae’n eithaf amrywiol, ond yn amrywio rhwng da ac ardderchog, felly roeddem ni’n hapus iawn gyda sefydliad y ddau gnwd. Roedd y cnwd cyfartalog ar gyfer y Clampsaver rhwng 4.5 - 5 tunnell DM/ha, ac roedd y cynnyrch cyfartalog ar gyfer y cnwd Brassica Express rhwng 6-6/5 tunnell DM/ha. Dylid rhoi ystyriaeth i golledion yn sgil defnydd wrth edrych ar y ffigyrau hyn, yn ogystal ag aildyfiant y cnwd Clampsaver. Bydd pori’r ddau gnwd yma’n bwysig iawn er mwyn gwneud defnydd effeithlon ac effeithiol ohonynt. Bydd yr egni ar gyfer y da byw yn dod o’r coesyn a’r bylbiau maip o fewn y cymysgeddau, a’r protein yn dod o’r dail.
Llun 1. Charlie Morgan yn casglu samplau o’r cae arbrofol Clampsaver i fesur cynnyrch cyfartalog.
Lluniau 2 a 3. Y cae gyda chnwd Clampsaver, mae’r ddau gae arbrofol bellach yn barod i gael eu pori.
Llun 4. Bride Whittle (Wye and Usk Foundation) yn edrych ar strwythur y pridd a phoblogaeth pryfed genwair gyda’r ffermwr, James Powell.
Mae Llun 5. yn dangos canfyddiadau’n dilyn cymryd sampl o’r afon Ieithon sy’n llifo drwy waelod fferm Dolygarn (mae Dolygarn wedi’i leoli ger rhan uchaf dalgylch yr afon Ieithon). Mae canfod nifer a rhywogaethau’r infertebratau yn yr afon yn rhoi syniad da o ba mor iach yw’r afon.
Llun 5.
Yn ystod yr ymweliad hwn, bu Bridie Whittle (Wye and Usk Foundation) yn cynnal asesiadau pridd mewn pum man amrywiol ar y ddau gae. Yn y cae gyda’r cnwd Clampsaver, roedd y gwreiddiau’n ymestyn hyd at 11 modfedd o ddyfnder, tra yn y cae gyda’r cnwd Brassica Express, dim ond 6-7 modfedd oedd dyfnder y gwreiddiau, gyda’r pridd yn doredig islaw’r dyfnder gwreiddio hwnnw (fel y gwelir yn lluniau 6 a 7 isod).
Llun 6. a 7.
Clampsaver: Mae arwyneb y pridd yn cael ei warchod gan laswellt hyd yn oed ar ô lei bori, ac mae dwysedd y gwreiddiau o dan y ddaear yn diogelu rhag cywasgiad.
Brassica Express: Mae pridd sy’n cael ei adael yn foel ar ôl pori maip yn agored i erydiad ac mae’r gwreiddiau’n llai dwys i allu diogelu rhag cywasgiad
Bu Bridie hefyd yn cynnal profion ymdreiddiad a chyfrif pryfed genwair, a gellir gweld y canlyniadau isod yn lluniau 8 a 9.
Llun 8. and 9.
Llun 8: Cyfraddau ymdreiddio 10 gwaith yn gynt yn y cnwd Brassica Express
Llun 9: Dwywaith cymaint o bryfed genwair ar gyfartaledd yn y cnwd Clamp Saver