Diweddariad prosiect Moelogan Fawr: Defnyddio technoleg i fonitro iechyd - gwella’r patrwm lloia, cyfraddau beichiogi a lleihau colledion wrth loia
Nodau’r prosiect
- Tynhau’r cyfnod lloia gan ddefnyddio technoleg arloesol a chynyddu faint o ddata a gesglir
- Lleihau mewnbynnau llafur trwy ddefnyddio technoleg i helpu i ganfod gwartheg sy’n gofyn tarw
- Lleihau costau triniaethau milfeddygol ar gyfer ffrwythlondeb ac iechyd
Datblygiadau’r prosiect
Cafodd 39 bolws rwmen nodweddiadol smaXtec classic eu rhoi i heffrod Stabiliser blwydd oed ar fferm Moelogan Fawr yn 2020. Pwrpas y bolws yw mesur gweithgaredd a thymheredd mewnol yr anifail yn barhaus, a allai roi cipolwg o statws iechyd yr anifail, yn ogystal â chanfod newidiadau ac anfon negeseuon hysbysu pan fydd ar fin lloia neu ofyn tarw. Un o brif elfennau’r prosiect oedd canfod cyfnod ffrwythloni pob heffer gan ddefnyddio data gweithgaredd, er mwyn gallu rhoi AI ar yr adeg fwyaf addas o fewn y gylchred.
Rhoddwyd y bolysau ar 14 Ebrill 2020, gyda’r gwaith o fonitro arwyddion o ofyn tarw’n dechrau ar 1 Mehefin 2020. Bu’r milfeddyg, Dr Iwan Parry yn ymweld â’r fferm ganol Mehefin i gynnal asesiad milfeddygol dall i ganfod cam bob heffer yn y gylchred, yn ogystal â sgôr aeddfedrwydd cenhedlu a mesuriadau’r pelfis. Cafodd yr heffrod eu sganio ar 22 Hydref, gyda dadansoddiad manwl o’r data a gasglwyd trwy gydol y cyfnod monitro.
Canlyniadau hyd yn hyn
Mae’r canlyniadau wedi cael eu crynhoi i’r cryfderau a’r bylchau a nodir isod.
Prif gryfderau
Ffigwr 1. Y prif gryfderau a nodwyd yn y canlyniadau. Mae pob graff yn dangos y data a gasglwyd yn ystod y cyfnod monitro ar gyfer heffer unigol.
Bylchau a gwendidau
Ffigwr 2. Y prif wendidau/bylchau a nodwyd yn y canlyniadau. Mae pob graff yn dangos y data a gasglwyd yn ystod y cyfnod monitro ar gyfer heffer unigol.
Mae’r cyfraddau beichiogi’n dilyn yr AI cyntaf wedi cynyddu >10% ar ôl rhoi’r bolws. Mae hyn wedi arwain at gyflawni un o’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol a osodwyd ar ddechrau’r prosiect, sef cynyddu canran yr heffrod sy’n beichiogi’n dilyn yr AI cyntaf o 57% i >65%. Yn ogystal, mae nifer y gwellt semen a ddefnyddiwyd wedi lleihau 4% yn 2020 o’i gymharu â ffigyrau 2019.
Roedd yr amser a dreuliwyd yn arsylwi’r heffrod yr un fath â’r blynyddoedd blaenorol, sef pum awr y dydd. Mae Tabl 1 yn rhoi crynodeb o’r costau milfeddygol sy’n gysylltiedig â ffrwythloni’r heffrod cyn rhoi’r bolws yn ogystal ag ar ôl rhoi’r bolws. Noder, nid yw costau sgorio aeddfedrwydd a mesuriadau’r pelfis wedi’u cynnwys gan fod y rhain yn asesiadau ychwanegol a gynhaliwyd fel rhan o’r prosiect.
Tabl 1. Costau triniaeth filfeddygol yn gysylltiedig â ffrwythloni’r heffrod cyn ac ar ôl rhoi’r bolws. Defnyddiwyd system CIDR (Rhyddhau Cyffuriau dan Reolaeth yn Fewnol) i gydamseru yn 2018 a 2019; rhoddwyd bolws yn 2020).
|
2018 |
2019 |
2020 |
Costau milfeddygol (£/heffer) |
£33.73 |
£29.51 |
£6.46 |
Arbediad ariannol o’r flwyddyn flaenorol (£/heffer) |
N/A |
-£4.22 |
-£23.05 |
O ran costau ychwanegol, gwnaed buddsoddiad sylweddol ar ddechrau’r prosiect er mwyn prynu’r bolysau. Mae’r gost flynyddol dros bedair blynedd yn gyfwerth â <£32/heffer*. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth ar gyfer data ychwanegol er mwyn canfod problemau iechyd a lloia.
Camau nesaf
Fel y soniwyd eisoes, mae Llion a Siân yn derbyn hysbysiad uniongyrchol gan y bolws trwy’r feddalwedd smaXtec cyn lloia. Mae’r negeseuon hysbysu’n cael eu hanfon yn seiliedig ar newid yn nhymheredd y corff, a dylent fod o gymorth cyn, yn ystod ac ar ôl lloia. Bydd y data’n cael ei werthuso ynghyd ag arsylwadau gweledol yn ystod lloia a mesuriadau’r pelfis i weld a oes cysylltiad rhwng y ffactorau.
*Noder: mae’r gwerth hwn yn seiliedig ar y costau ar ddechrau’r prosiect, a bydd yn amrywio o un fuches i’r llall gan ddibynnu ar sawl ffactor.