Adroddiad ar y Gelli o Goed Ymchwil ISN ym Mhlas yn Iâl – Rhagfyr 2020
Cyflwyniad
Mae Plas yn Iâl yn fferm 183 erw a choetir parcdir arni ers blynyddoedd maith. Mae’r fferm yn Barcdir Hanesyddol Cofrestredig (CADW), yr uchaf yng Nghymru, gyda choetir yn cyfrannu at y dirwedd hanesyddol. Cyfanswm ardal y coetir yw 12.7ha sy’n cynnwys coetir parcdir aeddfed a chymysgedd o gellïoedd sy’n cael eu pori ac wedi eu ffensio o amrywiol fathau o goetir. Mae’r fferm yn agos at bentref Llandegla ac yn cynnig llety hunan-arlwyo. Gosodwyd boeler sglodion coed 40kWth i gynhesu’r tŷ a’r llety gwyliau.
Dyluniwyd y gelli o goed Ymchwil ISN i samplo’r coetir fferm i gofnodi’r mathau o goetir, y cyfansoddiad o ran rhywogaethau a gallu’r coetir o ran cynhyrchiant.
Cyd-destun
Mae’r mathau o goetir yn amrywiol iawn o ganlyniad i blannu parcdir ers talwm, pa mor agored yw’r coetir, effaith digwyddiadau tywydd, ail-stocio rhai rhannau a’r math o ail-stocio, ymdrechion i adfer ac effeithiau pori neu gau stoc allan. O ran y cyfansoddiad o rywogaethau, yr hen rywogaethau parcdir sy’n dominyddu, yn nodedig ffawydd, masarn a rhai coed conwydd gyda derw mewn rhai ardaloedd ynysig. Dewiswyd y plotiau sampl i gasglu’r amrywiaeth eang o fathau o goetir.
Nodweddion Coedwrol y Gelli
Cyfansoddiad o Ran Rhywogaethau: Y gyfran uchaf o unrhyw rywogaeth ar draws y coetir cyfan yw masarn ar 30.2%, yna ffawydd ar 26.1% o choed llydanddail eraill gan gynnwys derw ac onnen ar 13.8% o’r stoc tyfu yn ôl ardal waelodol. Roedd coed conwydd yn cynnwys un gelli o binwydd yr Alban a ffynidwydden Douglas a llarwydd a phinwydd yr Alban gwasgaredig yn cyfri am 30.5% o’r stoc tyfu.
Maint a Strwythur y Stoc Tyfu: Mae’r stoc tyfu yn gyffredinol yn 31.8m2/ha yn cynnwys 0.3m2/ha o bolion dros 7.5cm dbh. Y cyfartaledd o goed ar bob hectar yw 220 a’r polion yn 29 i bob hectar. Mae dwyster y gelli yn amrywiol iawn ar draws y gelli ymchwil, ar rhwng 2.3m2/ha a 67.5m2/ha ar gyfer coed >17.5cm dbh gyda chyfernod amrywiad o 65%. Mae dosbarthiad cyffredinol maint y coed yn cael ei dra-arglwyddiaethu gan y categori Coed Mawr sy’n dynodi gor-stocio yn y rhannau parcdir. Mae’r amrywiaeth yn y clystyrau yn amrywiol iawn gyda rhai plotiau, fel SP2 a SP4, wedi eu hailstocio yn ddiweddar neu blannu egin goed, yn cofnodi ychydig o goed ond yn cofnodi naill ai polion neu ail-dyfiant.
Ymyraethau Coedwrol: Mae’r fforest yn amrywiol iawn, yn cynnwys hen goetir parcdir o goed conwydd a choed llydanddail, gyda darnau wedi syrthio yn y gwynt yn cynnig ailstrwythuro naturiol mewn rhai mannau. Cynhaliwyd gwaith teneuo a thorri yn Adran 1.
Mae Adran 2 wedi ei ailstocio a phlannwyd coed ifanc yn Adran 5 yng nghanol yr eithin. Nid yw’r coed parcdir aeddfed yn cael eu rheoli i raddau helaeth, mae un ardal o rododendron ymledol wedi ei chlirio gan ei fod yn tagu’r gelli. Mae rhai o’r adrannau yn cael eu pori. Mae’r tabl isod yn rhoi cofnod o gyflwr y gelli:
Adran 1 Wedi’i ffensio Teneuo a thorri dethol 39.6 m2/ha
Adran 2 Wedi’i ffensio Ail-stocio 2.3 m2/ha
Adran 3 Wedi’i ffensio Coed parcdir aeddfed 24.8 m2/ha
Adran 4 Wedi’i ffensio Coed parcdir aeddfed 33.1 m2/ha
Adran 5 Wedi’i bori Plannu coed ifanc 6.8 m2/ha
Adran 6 Wedi’i ffensio Clirio rhododendron 18.0 m2/ha
Adran 7 Wedi’i ffensio Coed coetir wedi syrthio yn y gwynt 29.6 m2/ha
Adran 8 Wedi’i bori Planhigfa gonwydd aeddfed 60.0 m2/ha
Adran 9 Wedi’i bori Pwll a choetir gwlyb amh
Adran 10 Wedi’i bori Parcdir aeddfed 67.5 m2/ha
Ar ôl ysgrifennu Cynllun Rheoli Coedwig bydd y gellïoedd yn cael eu rheoli i’w trawsnewid yn Goedwig Gorchudd Di-dor i fodloni’r galw lleol am danwydd coed ac i gynhyrchu pren o safon uchel.
Ansawdd: Nid yw’r amrywiaeth o ran safon yn uchel oherwydd bod y coed parcdir yn or-aeddfed, mae 21% o’r stoc o ansawdd A-B.
Tyfiant dan y coed: Hwn yn amrywio ar draws yr holl blotiau, gyda dim tyfiant newydd yn y gellïoedd sy’n cael eu pori (ac eithrio eithin yn gysgod i’r coed ifanc sydd wedi eu plannu) ac ychydig o dyfiant dan y coed mewn ardaloedd aeddfed, wedi’i ffensio.
Aildyfu Naturiol: Mae dwyster cyfartalog yr aildyfu Dosbarth 1 yn eithaf uchel ond mae’n amrywio’n fawr ar draws y plotiau. Ychydig sydd o’r aildyfu Dosbarth 2 neu 3 mwy.
Cynyddiad: Amcangyfrifir cynyddiad y gelli dros dro yn y rhestr gan ddefnyddio amcangyfrifon o’r cynyddiad yn y diamedr ar gyfer rhywogaethau unigol. O ystyried bod y clystyrau parcdir yn oraeddfed amcangyfrifir y cynyddiad ar y pen isaf o’r ystod ar 0.69m2/ha y flwyddyn a’r cynyddiad cyfaint ar 7.19m3/ha y flwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i tua 90 tunnell y flwyddyn gyda chyfatebiaeth ynni o 178,365kWh y flwyddyn. (Defnydd y fferm ei hun tua 28,000kWh/y flwyddyn).
Esblygiad Gwerth y Fforest: Gan fod y cynyddiad a amcangyfrifwyd yn isel mae’r Gwerth yn Sefyll yn uwch na’r Gwerth Potensial ar gyfradd ddisgownt o 3.00%. Ond, rhaid i ddadansoddiad priodol o’r agwedd hon aros hyd at y cynaeafu a chael data cynyddiad gwirioneddol wrth eu mesur yr ail waith.
Casgliad
Mae’r Gelli Ymchwil hwn o ddiddordeb oherwydd natur nodweddiadol y coetir fferm a’i gyd-destun hanesyddol, a’r amrywiaeth eang o strwythurau ac amrywiaeth y rhywogaethau. Mae’n cynnig cyfle unigryw i arddangos rheoli coetir fferm, y defnydd ohono a wneir gan y ffermwr ei hun a gwerth ychwanegol.