21 Mehefin 2021
Roedd gan Emma Roberts, sy’n hanu o Sir Benfro, swydd ran-amser yr oedd hi wrth ei bodd ynddi mewn meddygfa brysur yn Hendy-gwyn ar Daf. Felly, pam bod Emma, a hithau’n nyrs wedi cymhwyso sydd wedi bod ar reng flaen ei phroffesiwn ers mwy na 30 mlynedd wedi penderfynu rhoi’r gorau i’w gyrfa a’i hannibyniaeth i ddod yn ffermwr trwy’r dydd bob dydd ‘allan ym mhob tywydd,’ ar fferm laeth y teulu yng Nghlunderwen? Ac a yw’r cyfan wedi mynd yn iawn?
Pan gollodd diweddar dad Emma ei iechyd rai blynyddoedd yn ôl, cymerodd Emma doriad yn ei gyrfa i ofalu amdano, oedd yn golygu ei bod yn treulio llawer mwy o amser yn helpu ar y fferm.
“Sylweddolais yn fuan iawn bod mwy na digon o waith i mi gartref. Roedd yn amlwg bod yma swydd y gallwn adeiladu arni a’i gwneud yn un i mi.
“Roeddwn i’n teimlo bod gennyf lawer o sgiliau y gallwn eu trosglwyddo a allai helpu i ddatblygu’r busnes ar draws nifer o feysydd, yn arbennig yr ochr magu lloi o bethau, yr oeddwn i yn ei fwynhau yn fawr, mae’n debyg bod hynny oherwydd fy nghefndir nyrsio ‘meithrin a gofalu.’
“Ar ôl penderfynu ymuno â’m gŵr, Philip, ei dad Dilwyn, sydd, er gwaethaf y ffaith ei fod yn 81 yn dal i wneud cyfraniad anferth, a’n mab ni Jonathan (27), sydd wedi bod yn gweithio llawn-amser ar y fferm ers gadael yr ysgol, rwy’n teimlo fy mod wedi gwneud y dewis cywir ac yn raddol rwyf wedi cynyddu fy nghyfraniad yn y meysydd hynny lle’r wyf yn helpu i wneud gwahaniaeth,” meddai Emma.
Er bod achosion o TB Buchol a’r pandemig wedi effeithio ar y teulu yn enfawr, gyda’i merch Mari (23) yn gorfod gorffen blwyddyn olaf ei chwrs gradd rheoli digwyddiadau o gartref yn hytrach na mwynhau bywyd myfyriwr yng Nghaerloyw a Jonathan yn gorfod cyfyngu ei fywyd cymdeithasol arferol, mae’r teulu cyfan yn dweud bod cael mam yn rhan o’r busnes wedi bod yn llwyddiant enfawr!
Yn yr un modd â llawer o ferched mewn ffermio a diolch i ddefnyddio cefnogaeth gan Cyswllt Ffermio, daeth Emma yn fuan iawn yn rym dros newid. Mae’r teulu cyfan a’r ddau sy’n godro rhan-amser, i gyd yn cydnabod bod Emma wedi cynnig ‘pâr newydd o lygaid’ sydd wedi eu hysbrydoli.
Wedi ei harfogi â’i sgiliau a’i gwybodaeth newydd, mae Emma wedi eu hannog i gyd i wneud yr hyn y mae hi’n ei ddisgrifio yn ‘newidiadau bach iawn neu addasiadau i systemau’ sydd nid yn unig yn helpu i foderneiddio’r busnes, ond yn ei baratoi at y dyfodol hefyd.
“Weithiau mae merched mewn sefyllfa dda i gamu’n ôl o’r patrymau gwaith o ddydd i ddydd, gan roi amser iddyn nhw ganolbwyntio ar feysydd y gellid eu gwella neu eu gwneud yn fwy effeithlon.”
A hithau’n benderfynol o ddysgu popeth allai hi am y da byw, y tir a’r ochr rheoli busnes cyn gynted ag y gallai, cysylltodd Emma â’r swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol, Rhiannon James.
“Roeddwn am gael gwybod a oedd rhywbeth y gallen ni fod yn ei wneud i wneud y fferm yn fwy effeithlon, yn fwy cynaliadwy ac yn fwy proffidiol.
“Roeddwn wedi helpu ar y fferm ar amseroedd prysur ac roeddwn wastad wedi edrych ar ôl fy ngheffylau fy hun, ond gwyddwn bod gennyf lawer iawn i’w ddysgu os oeddwn am wneud cyfraniad gwirioneddol at y busnes.
“Yn fy nghyfarfod cyntaf gyda Rhiannon esboniodd bod amrywiaeth eang iawn o wasanaethau cefnogi, arweiniad a hyfforddiant ar gael y gallem ni fod yn manteisio arnyn nhw.”
Erbyn heddiw, mae Emma yn amlwg wedi dod o hyd i’w llwybr amaethyddol ac mae’n canolbwyntio ar osod amcanion clir iddi ei hun ac i’r busnes, gan ddefnyddio pa bynnag gefnogaeth sydd ar gael ar hyd y ffordd.
Yr hyn nad oedd y teulu Roberts wedi ei ddisgwyl oedd y byddai Emma yn ysgubo Philip, Jonathan a Mari ymlaen â’i brwdfrydedd newydd am wybodaeth a sgiliau. Dros y deuddeng mis diwethaf mae’r teulu cyfan yn ymuno â digwyddiadau ar-lein a gweminarau Cyswllt Ffermio yn gyson ac maen nhw i gyd wedi ymuno â chyrsiau e-ddysgu sydd wedi eu hariannu’n llawn. Rhyngddyn nhw i gyd, maen nhw wedi dysgu am bynciau yn amrywio o TGCh, rheoli busnes, cyllid a ffurflenni TAW i iechyd pridd, rheoli glaswelltir a system synhwyro ddigidol sy’n anfon neges pan fydd buwch yn bwrw llo.
“Yn ystod y cyfnod clo pan oedd ganddi gynulleidfa gaeth i bob pwrpas, os oedd digwyddiad ar-lein gan Cyswllt Ffermio neu ryw hyfforddiant y mae gennym ddiddordeb ynddo, gallai Emma ein darbwyllo fel arfer i ddiffodd y teledu a chymryd rhan,” meddai Philip.
Yn yr un modd ag Emma mae Philip, Jonathan a Mari yn awr i gyd yn croesawu’r cyfle i gael dysgu, gwybodaeth a datblygiad proffesiynol parhaus sydd yn eu helpu yn raddol i wella effeithlonrwydd ar draws pob maes yn y busnes.
Mae Brynaeron yn fferm 360 erw sy’n cadw buches o 200 o wartheg Holstein wedi eu croesi â buchod Coch Norwy. Philip, Jonathan a’r ddau weithiwr godro rhan-amser sy’n rheoli’r patrwm godro ddwywaith y dydd, gyda phob buwch yn cynhyrchu tua 9,000 litr y flwyddyn sy’n cael ei werthu ar gontract blynyddol i First Milk. Mae’r fferm hefyd yn rhan o Grŵp Caws Tesco.
“Roeddwn am ddysgu popeth allwn i am fagu lloi ac fe welais bod e-ddysgu, yr ydych yn gallu ei wneud ar amser sy’n gyfleus i chi, yn ffordd wych o gael y wybodaeth ddiweddaraf am bynciau fel pwysigrwydd colostrwm; ysgôth ar loi; afiechyd Johne a llawer mwy,” meddai Emma.
“Rwy’n awr yn gwybod beth mae hi’n ei gymryd i roi’r dechrau gorau un mewn bywyd i’n lloi ac rwy’n gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod ganddyn nhw’r imiwnedd gorau rhag heintiadau sydd eisoes yn arwain at ddeilliannau da a hyd yn oed well enillion!”
Gwelodd y teulu ostyngiad mewn cloffni yn dilyn gweithdy ‘cloffni buchod’ Cyswllt Ffermio gan filfeddygon y gwnaethant ei gynnal ar y fferm ac mae Jonathan wedi gwneud cais am gwrs hyfforddi trimio traed gyda chymhorthdal gan Cyswllt Ffermio yn ddiweddar.
A hithau’n credu mewn meincnodi a sicrhau bod pob maes yn y busnes yn perfformio ar ei orau, dywed Emma bod llawer o sgyrsiau o gwmpas y bwrdd yn gweld y teulu cyfan yn siarad am yr hyn sydd wedi cael ei wneud yn dda, beth sydd ddim yn mynd mor dda ac os oes unrhyw feysydd lle gallent fod angen cyngor neu sgiliau newydd i gynyddu effeithlonrwydd neu gynhyrchiant.
Rhoddodd y flwyddyn y bu’n rhaid i Mari ei threulio ar y fferm oherwydd Covid amser iddi gael ei BA, ond nes bydd y byd digwyddiadau yn ail gychwyn neu nes y bydd yn gweld ‘y swydd berffaith’, mae hi wedi ymdaflu i ddysgu popeth all hi am reoli glaswelltir. Ymunodd Mari â rhaglen ‘Rhagori ar Bori’ Cyswllt Ffermio i roi hwb i’w gwybodaeth a’i hyder ac mae’n gweithio tuag at y lefel ganolradd.
“Rwy’n anelu at sicrhau’r perfformiad gorau ar laswellt gan y fuches, rwyf am gynyddu ein cynnyrch porthiant ac yn awr fi sy’n gyfrifol am strategaeth bori cylchdro’r fferm,” meddai Mari.
Efallai y bydd y newidiadau mwyaf sylfaenol yn dod i’r amlwg oherwydd bod y teulu wedi ymgeisio am Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio. Gyda chyfarwyddyd gan Keith Owen o Kebek, un o arbenigwyr isadeiledd cymeradwy Cyswllt Ffermio, ynghyd â chynllun busnes a chyngor technegol gan John Crimes o’r ymgynghoriaeth amaethyddol gymeradwy CARA Wales, gwnaeth y teulu gais llwyddiannus am Grant Busnes Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Ar ôl cael yr holl ganiatâd cynllunio gofynnol, bydd adeiladwyr yn dechrau rhoi gorchudd dros iard borthi sy’n bodoli.
“Bydd gwahanu dŵr glân a budr yn effeithlon yn fanteisiol iawn.
“Rydym hefyd yn dangos cynnydd gwych ar nifer o faterion technegol a ddynodwyd trwy’r Gwasanaeth Cynghori, gan gynnwys rheoli, perfformiad a chynhyrchiant da byw,” meddai Emma.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.