Cymharu cytiau bwa moch i wella lles ar Fferm Forest Coalpit
Gan y gall oerfel a gwres achosi straen a thrwy hynny broblemau iechyd, cyfraddau twf is a pherfformiad atgenhedlu gwael, mae'n hanfodol bod moch yn aros o fewn eu parth thermol niwtral gymaint â phosibl er mwyn sicrhau eu bod yn tyfu'n gyflym, ac i gadw biliau porthiant i lawr.
Mae cynllun peilot yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar Fferm Forest Coalpit i gymharu effeithlonrwydd y cytiau bwa porchella newydd 'Aardvark' y mae Kyle Holford a Lauren Smith wedi'u prynu'n ddiweddar. Mae'r cytiau plastig newydd yn sefydlog o ran UV a dylent fod nifer o raddau'n oerach yn yr haf ac yn gynhesach yn y gaeaf o gymharu â strwythurau bwa traddodiadol ar gyfer moch.
Fel rhan o'r cynllun peilot, mae tri chofnodydd tymheredd yn cael eu defnyddio i gymharu dau fath gwahanol o gwt bwa. Mae'r cofnodydd cyntaf wedi'i osod y tu mewn i do'r 'Aardvark', yr ail ar banel ochr yr hen sied/cwt bwa dur mwy traddodiadol, ac mae'r trydydd wedi'i osod ar bostyn ffens sydd wedi'i leoli'n agos i’r ddau gwt bwa (i gofnodi’r tymheredd y tu allan).
Mae'r canlyniadau yn Ffig.1 yn dangos bod y tymheredd y tu mewn i'r 'Aardvark' yn tueddu i fod yn gynhesach mewn cyfnodau oerach o gymharu â'r cwt bwa dur. Yn ystod y cyfnod oeraf, pan mae’r tymheredd y tu allan yn disgyn i -2°C, mae'r cwt dur yn disgyn i 3°C, ond nid yw'r tymheredd y tu mewn i'r cwt plastig yn disgyn yn is na 6°C.
Mae Kyle Holford o’r farn bod symud o'r hen gytiau bwa mwy traddodiadol i'r 'Aardvarks' newydd hefyd wedi lleihau marwolaethau ymysg perchyll a'r defnydd o wellt yn sgil ei siâp crwn, mwy eang.
Cam nesaf y cynllun peilot yw cymharu'r ddau gwt bwa mewn tywydd cynhesach.
Ffigur 1. Synwyryddion tymheredd (Llwyd- y tymheredd y tu allan, Glas- tymheredd yr Aardvark, Oren- cwt bwa dur traddodiadol)