Diweddariad Prosiect (Ebrill 2021): Teirw bîff yn parhau i fod yn fenter lwyddiannus ar fferm Bryn
Mae fferm Bryn ger Aberteifi wedi bod yn ceisio gwella effeithlonrwydd eu buches sugno 80 o wartheg, ac yn ystyried ffyrdd y gallent fod yn wydn yn erbyn bygythiad TB. Mae Bryn yn fferm gymysg gyda gwartheg sugno a thir âr, felly byddai edrych ar besgi teirw bîff gan ddefnyddio lloi gwryw o’r fuches sugno a defnyddio porthiant a gwellt o’r fenter âr yn cyd-fynd yn dda gyda’i gilydd ac yn lleihau’r risg TB o’i gymharu â gwerthu gwartheg stôr. Cymerwyd sampl o’r haidd wedi’i rolio i ganfod y gwerth maethol, a chafodd ei gydbwyso gyda chymysgedd porthiant i sicrhau’r gwerth maethol addas ar gyfer y teirw wrth iddynt dyfu. Roedd Huw yn gweld y system yn rhwydd iawn, gan sicrhau bod cafnau bwydo ad-lib yn llawn a phwyso’r teirw’n rheolaidd i fonitro twf. Roedd cyfradd twf y teirw’n uwch na’r targed o 2kg/dydd ar 2.41kg/dydd ar gyfartaledd. Gyda phrisiau bîff yn £3.70/kg ym mis Mawrth 2021 a phwysau carcasau yn 330kg, roedden nhw’n cael £1,200/pen ar gyfartaledd.
Ar ôl tynnu’r costau, llwyddodd fferm Bryn i sicrhau elw o £3,500, ac yn bwysig i Huw, nid oedd angen iddo bryderu am y statws TB gan eu bod yn mynd yn uniongyrchol i’r lladd-dy. Mae’r incwm ychwanegol hwn o besgi teirw bîff wedi cyflwyno menter newydd i’r fferm, gan wasgaru’r risg ariannol a’r risg TB yn hytrach na gwerthu popeth fel stôr. Ar ôl rhedeg y system teirw bîff yn 2020 a 2021, bydd Huw yn parhau gyda’r fenter, ac mae wedi ei annog i geisio pesgi heffrod oddi ar y borfa, sydd hefyd yn fenter newydd ar y fferm, gan gyflwyno llif arian parod newydd i’r busnes.
Ffigwr 1. Dosraniad pwysau teirw ym mis Mawrth ac Ebrill