Cyflwyniad Prosiect Halghton Hall: Deall stoc garbon bresennol a phosibl fferm cig coch: cyfleoedd i wella’r gallu i ddal a storio a gwrthbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr

Safle: Halghton Hall, Bangor-is-coed, Wrecsam

Swyddog Technegol: Non Williams

Teitl y Prosiect: Deall stoc garbon bresennol a phosibl fferm cig coch: cyfleoedd i wella’r gallu i ddal a storio a gwrthbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr

 

Cyflwyniad i’r prosiect: 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050; targed sy'n cyfateb i darged y DU gyfan. Mae'r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi argymell gostyngiad o 64% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr o'r sector amaethyddiaeth a defnydd tir yn seiliedig ar y targed carbon sero net, ac ystyrir bod yr un argymhelliad yn briodol ar gyfer y sector da byw yn benodol. Mae allyriadau a gynhyrchir o systemau da byw yn deillio o wahanol ffynonellau, megis eplesu enterig, tail a defnyddio gwrtaith. Serch hynny, mae gan y sector hefyd y gallu i ddal a storio (amsugno) carbon o'r atmosffer i gydbwyso'r allyriadau a gynhyrchir. Yn y pen draw, bydd 'ffermio carbon niwtral' yn golygu bod angen lleihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir, yn ogystal â chynyddu’r gallu i ddal a storio carbon o systemau amaethyddol.

Gall priddoedd fod yn ddalfeydd carbon (dal a storio carbon) neu’n ffynonellau (rhyddhau carbon) yn dibynnu ar nifer o ffactorau, megis defnydd tir, arferion rheoli, yr hinsawdd a'r math o bridd. Oherwydd hyn mae mesur llinell sylfaen gyffredin mewn stociau carbon pridd yn her. Yn gyffredinol, credir bod priddoedd amaethyddol yn uchel mewn deunydd organig yn y pridd (SOM) a charbon organig pridd (SOC). Mae gwelliannau mesuradwy i SOM a SOC o ganlyniad i newidiadau mewn arferion rheoli pridd yn digwydd yn raddol dros nifer o flynyddoedd. At hynny, bydd yr hyn a gronnir dros amser yn arwain at gydbwysedd, gyda mewnbynnau a cholled yn gyfartal. Bydd y data manwl a gesglir fel rhan o'r prosiect hwn yn cael ei ddefnyddio i roi cipolwg ar sut y gall SOM a SOC wahaniaethu o fewn un system ffermio, yn dibynnu ar ddefnydd tir a'r arferion rheoli a weithredir. At hynny, nod y prosiect yw mynd i'r afael â sut y gellir gwella neu gadw'r lefelau hyn ymhellach yn y pridd.

Mae cynlluniau amaeth-amgylcheddol (Glastir Sylfaenol ac yna Glastir Uwch) wedi bod yn allweddol yn Halghton Hall wrth adfer gwrychoedd a chreu coridorau bywyd gwyllt dros y degawd diwethaf. Yn ogystal â hyn, rhoddwyd sylw i reoli'r isadeiledd gwyrdd presennol. Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i effaith rheoli coetiroedd a gwrychoedd ar eu potensial i storio carbon, yn ogystal â chyfleoedd i gynyddu stociau carbon i wrthbwyso'r allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir ar y fferm.

 

Amcanion y prosiect:

Nod cyffredinol y prosiect hwn fydd monitro'r lefelau storio a dal a storio carbon o briddoedd, coed a gwrychoedd yn Halghton Hall. At hynny, pennu'r potensial i wrthbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir ar y fferm drwy ddal a storio (gan arwain felly at gydbwysedd carbon net y fferm). Bydd y prosiect hwn yn rhoi cipolwg ar y stociau carbon a'r potensial i ddal a storio sy'n gysylltiedig â gwahanol fathau o bridd a defnyddiau tir.

Dyma fydd amcanion y prosiect:

  • Cynnal archwiliad carbon pridd ar gyfran o gaeau'r fferm (cymysgedd o gaeau pori ac âr)
  • Pennu a gwerthuso'r lefelau SOM a SOC ar draws llwyfan y fferm gyfan yn seiliedig ar y caeau a samplwyd
  • Newidiadau yn lefelau SOM a SOC yn y prosiect yn dibynnu ar newidiadau mewn arferion rheoli tir yn y dyfodol (mesur tueddiadau)
  • Amcangyfrif lefelau storio/dal a storio carbon o goetiroedd a gwrychoedd y fferm (gan gynnwys y rhai a sefydlwyd yn ddiweddar)
  • Amcangyfrif effeithlonrwydd cynhyrchu'r fferm drwy fesur dwysedd yr allyriadau (allyriadau a gynhyrchir/uned allbwn a gynhyrchir)
  • Amcangyfrif cydbwysedd carbon net y fferm (nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir ar y fferm a thynnu lefelau dal a storio)

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol a osodwyd:

Ar ôl samplu’r pridd a chynnal asesiad cychwynnol o isadeiledd gwyrdd y fferm, bydd Dangosyddion Perfformiad Allweddol penodol yn cael eu gosod. Nid yw'n bosibl gosod y Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar y dechrau, gan nad yw'r stoc garbon yn y pridd yn hysbys ar hyn o bryd. Serch hynny, nod y prosiect yw cyflwyno senarios rheoli tir ymarferol gwahanol o sut y gellir cynyddu stociau carbon pridd dros y 5-10 mlynedd nesaf.

 

Amserlen a cherrig milltir: