Ernie Richards
Y Gelli, Powys
Derbyniodd y ffermwr ifanc, Ernie Richard, radd BSc mewn Amaethyddiaeth a Gwyddor Anifeiliaid o Brifysgol Aberystwyth. Yn gyn-gadeirydd i’w Glwb Ffermwyr Ifanc lleol ac yn ymwneud â sawl sefydliad gwledig arall, nid yw byth wedi gwyro o’i gynllun i ddatblygu ei sgiliau amaethyddol ac i drochi ei hun mewn bywyd gwledig fel ffermwr llawn amser.
Heddiw, mae’n byw gyda’i bartner Anna a’u mab ifanc Harry yn Wernoog, fferm ddefaid fawr ar yr ucheldir ger y Gelli Gandryll. Mae gan Ernie waith sy’n rhoi llawer o foddhad iddo, sef rheolwr diadell, rôl sydd am y pum mlynedd diwethaf wedi caniatáu iddo ddatblygu ei sgiliau fel bugail ymarferol, yn helpu ei gyflogwyr i ddatblygu perfformiad a chynhyrchiant eu diadell o 1,000 o famogiaid Lleyn pur.
Er ei fod yn mwynhau pob agwedd o ffermio, mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn defaid ac wedi cynnwys y busnes mewn nifer o dreialon gwerthuso perfformiad ŵyn, cynlluniau monitro iechyd a gweithgareddau hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol.
Nod Ernie yn y pendraw yw rhedeg ei fusnes ffermio ei hun, lle mae’n gobeithio ei gyfuno gyda’i rôl yn Wernoog.
“Rwy’n ffodus o gael bos sydd â hyder yn fy ngallu ac yn gweld rôl yn y dyfodol ble gallaf helpu i gadw ei fusnes yn gynaliadwy fel ei fod ef yn y pendraw yn gallu cymryd cam yn ôl wrth i mi ddatblygu rhagor o sgiliau rheoli.
“Rwy’n siŵr y bydd cymryd rhan yn Rhaglen Busnes ac Arloesedd Academi Amaeth yn gymorth i gynyddu fy nealltwriaeth o reoli busnes a materion ariannol er mwyn sicrhau bod y busnes nid yn unig yn parhau i fod yn gynaliadwy, ond ei fod hefyd yn datblygu.”