SECTOR LLAETH
A ydych chi’n chwilio am lwybr i mewn i amaeth?
A oes gennych chi’r hyn sydd arnoch ei angen i gystadlu am y cyfleoedd?
Beth sydd angen i chi ei wneud i sicrhau tenantiaeth eich breuddwydion neu fenter ar y cyd?
Cwrs preswyl dwys yw Bŵtcamp Busnes Cyswllt Ffermio a ddyluniwyd i roi’r hyder, sgiliau a’r ysgogiad i newydd-ddyfodiaid i amaeth fanteisio ar gyfleoedd, datblygu busnesau effeithlon ac adeiladu gyrfa lwyddiannus.
Mae holl elfennau’r Bŵtcamp Busnes wedi eu hariannu yn llawn.
Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar y sector Llaeth gyda siaradwyr yn trafod cynllunio busnes, ffermio cyfran a phori a bydd yn cynnwys ymweliad â fferm.
Moody Cow, Bargoed Farm, Llwyncelyn, Aberaeron, SA46 0HL
Dydd Mercher 22ain - Dydd Iau 23ain o Dachwedd
Siaradwyr
John Crimes
Mae John yn ymgynhorydd amaeth gyda chwmni CARA, ac mi fydd yn son am sut mae cytundeb ffermio cyfran yn edrych, pwysigwyrdd cynllun busnes ar gyfer pob ffarmwr a sut i’w llunio.
Sam Pearson
Mae Sam yn ffarmwr godro o Gonwy, ac mae’n un o Fentoriaid Cyswllt Ffermio. Bydd Sam yn son am ei stori ef a’i system ffermio.
Emma Shaw
Mae Emma Shaw yn Uwch Bartner ac yn gweithio gyda chleientiaid mewn rôl ymgynghori a hyfforddi. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn llawer o ddiwydiannau, mae ganddi ddawn i ddatgloi potensial pobl. Mae ganddi hanes profedig o helpu busnesau amaethyddol i drawsnewid eu timau.
Matthew Jackson
Ein siaradwr ysgogol ar ôl swper fydd Matthew Jackson, ffermwr ifanc y gwnaeth ei ddatblygiad trawiadol ym maes godro ei symud o fod yn berchen ar yr un fuwch i fod â 1,300 mewn dim ond 11 mlynedd.
Wyn Owen
Mae Wyn yn ymgynghorydd gyda Ymgynghorwyr Datblygu Sefydliadol, a bydd yn ein helpu i ddarganfod pa gyfeiriad yr hoffech fynd a sut i gyrraedd yno.
Eilir Evans
Byddwn yn mynd ar daith fferm gyda Eilir Evans, sydd yn godro 700 o warthog wedi’u rhannu’n ddwy unded. Mae Eilir hefyd yn un o Fentoriaid Cyswllt Ffermio.
Geraint Thomas
Bydd Geraint yn rhoi cipolwg ar y busnes llwyddiannus y mae wedi ei greu yn y Moody Cow, cyn mynd â ni ar daith o amgylch y busnes.
Am fwy o wybodaeth ac i archebu’ch lle ar y Bŵtcamp Busnes, cysylltwch â Eiry Williams:
07985155670 / eiry.williams@menterabusnes.co.uk