Mae fferm dda byw yng Nghymru wedi cynyddu ei hallbwn bîff blynyddol drwy newid o gynhyrchu buchod sugno i system fagu lloi ar gyfer bîff

16 Chwefror 2023

 

Roedd Neil Davies a'i deulu yn rhedeg buches bîff sugno croes Belgian Blue 60 buwch ond, mewn newid cyfeiriad, gwerthwyd y fuches ac maent bellach yn cynhyrchu bîff o anifeiliaid llaeth croes Aberdeen Angus y maent yn eu prynu'n uniongyrchol o ffermydd.

Ar yr erwau o dir a ddyrannwyd yn flaenorol i sied wartheg sugno a lloi, gall y busnes gario tri anifail bîff o wartheg llaeth ar gyfartaledd trwy gydol yr amser y maent ar y fferm - o bedwar mis i gael eu gwerthu fel gwartheg stôr neu eu pesgi.

Yn 2021, cynhyrchwyd 150 o wartheg pesgi a oedd yn pwyso 680kg ar gyfartaledd — cyfanswm o 102,000kg ar 114ha effeithiol, er bod y tir hwn hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pori defaid drwy gydol y flwyddyn.

O dan y system buchod sugno, cafodd 50 o wartheg a oedd yn pwyso 500kg ar gyfartaledd — cyfanswm o 25,000kg — eu cynhyrchu oddi ar yr un erwau gyda'r un nifer o ddefaid yn pori. 

“Mae'n syndod mawr i mi faint o anifeiliaid bîff o wartheg llaeth y gellir eu cadw ar gyn lleied o erwau yn ystod yr haf cyntaf y maent yma, yn y cyfnod hwnnw gallwn redeg pedwar buwch stoc ifanc ar yr un faint o dir yr oedd ei angen arnom ar gyfer buwch a llo, tri am yr amser cyfan maen nhw gyda ni,” meddai Mr Davies.

“Byddai angen 180-190 o wartheg gyda heffrod cyfnewid i gyd-fynd â hynny, ac ni fyddai’r lloi i gyd yn goroesi. Allwn i ddim dychmygu cael cymaint â hynny o anifeiliaid ar y fferm.”

Fferm y teulu Davies yng Nghefnllan, safle arddangos 105 hectar (ha) Cyswllt Ffermio yn Llangammarch, Powys.

Llafur oedd y prif reswm dros y newid cychwynnol i system bîff o wartheg llaeth.

Y brif fenter yw cynhyrchu cig oen o 2,000 o famogiaid bridio ac, ar y cyd â gwartheg bîff sugno, creodd hyn bwysau ar lafur ar adegau allweddol yn y flwyddyn.

“Roedd y buchod sugno yn llafurddwys iawn ond gyda'r fenter newydd, dim ond hanner awr y dydd y mae'n ei gymryd i mi reoli 150 o wartheg, mae'n darparu llwyth gwaith mwy strwythuredig,” meddai Mr Davies.

Rheswm arall dros newid cyfeiriad oedd y gost uchel o gadw'r gwartheg sugno o'i gymharu â'r incwm o'u disgynyddion.

Gyda stoc iau, ysgafnach, gall gwartheg hefyd bori rhannau o'r fferm na allai'r buchod sugno fod wedi eu defnyddio'n effeithiol.  

Mae Mr Davies wedi dewis gwartheg croes Aberdeen Angus oherwydd ei fod yn dweud mai dyma'r math o anifeiliaid sy'n gweddu i'w system.

Mae cant a hanner o loi pedwar mis oed yn cael eu prynu'n uniongyrchol o ffermydd o fis Chwefror i fis Ebrill, gan bori am yr haf cyntaf cyn eu rhoi yn y siediau.

Maent naill ai'n cael eu gwerthu fel gwartheg stôr 18-19 mis oed ar 500-510kg neu eu pesgi ar oddeutu 680kg, gan ennill graddau O+ neu R.

 

Sefydlu'r fferm ar gyfer magu lloi bîff o wartheg llaeth

Rheoli glaswelltir

Mae glaswellt wedi'i bori yn bwysig i economeg y system newydd — mae pori cylchdro yn ffactor allweddol yn y cynnydd ym maint y cig y gall y fferm ei gynhyrchu erbyn hyn.

“Dyna pryd rydyn ni'n gwneud ein harian, pan fydd y stoc allan ar laswellt,” meddai Mr Davies.

Bu rhaglen ailhadu helaeth yng Nghefnllan gyda 20ha yn cael ei ailhadu bob blwyddyn am y saith mlynedd diwethaf, ar dir sy'n eiddo iddynt ac ar rent, gyda gwyndonnydd tymor canolig a hirdymor yn ymgorffori meillion coch a gwyn. 

“Rwy'n cael ymateb da gan wrtaith, waeth beth yw cost gwrtaith rydych chi angen yr ymateb hwnnw,” meddai.

Ar y cyd ag ailhadu, gwasgarwyd calch ac mae lefelau pH bellach yn gyfartaledd o 6 - 6.5.

Mae'r gwyndonnydd newydd yn gynhyrchiol iawn yn y gwanwyn pan fydd angen i'r busnes wneud y gorau o'i laswellt.  

Llwybr i gyflawni hyn oedd sefydlu system bori cylchdro, a ddatblygwyd gyda chyngor gan Precision Grazing, sy'n ymwneud â gwaith prosiect Cyswllt Ffermio yng Nghefnllan.

Mae Mr Davies yn defnyddio mesurydd plât i fesur gorchudd fferm bob pythefnos er mwyn sicrhau'r defnydd gorau posibl o laswellt ar hyd yr ardal bori. Defnyddir meddalwedd Agrinet i reoli glaswellt.

Yn 2021 tyfodd y fferm 10.5t/ha, ond dywed Mr Davies fod lle i wella o hyd.

“Gallem rannu'r caeau ymhellach ond yr hyn sy'n ein dal yn ôl yw'r seilwaith dŵr, dyna fydd ein buddsoddiad nesaf.”

Mae cyfyngiadau hefyd gyda throi’r anifeiliaid allan yn y gwanwyn oherwydd bod angen glaswellt ar gyfer defaid ar ôl ŵyna.

“Mae'n rhaid i'r gwartheg weithio o amgylch y defaid,” meddai. “Efallai ei fod yn costio mwy i mi wrth wneud silwair ond alla i ddim ŵyna’r mamogiaid yn yr hydref felly mae'n rhaid cael y cyfaddawd hwnnw.”

Trowyd y llwyth cyntaf o wartheg allan ar 15 Mawrth eleni a'r ail ar 20 Ebrill, ar ôl i famogiaid ac ŵyn gael eu hadleoli i bori ar dir comin.

 

Silwair o ansawdd uchel

Mae cynhyrchu silwair o ansawdd uchel, ar gyfartaledd ME o 11.5MJ/kg, yn bwysig ar gyfer dogn y gaeaf.

Er mwyn cyflawni, bydd toriadau yn cael eu gwneud bob pedair neu bum wythnos: yn 2022, cafodd y toriad cyntaf ei wneud ar 25 Mai.

“Rydym yn bwydo cymaint o silwair â phosibl yn y TMR,” meddai Mr Davies.

Trwy Cyswllt Ffermio, mae wedi bod yn gweithio gyda'r maethegydd annibynnol Hefin Richards i gynhyrchu dogn ar gyfer gwartheg tyfu a phesgi.  

Mae hyn yn cynnwys 25kg o silwair glaswellt ac 1kg o gymysgedd ar gyfer y gwartheg tyfu a 23kg o silwair a 7kg o gymysgedd ar gyfer y gwartheg pesgi.

Yn ystod y cyfnod pesgi mae'n golygu mai dim ond 1kg/pen/diwrnod o borthiant a brynwyd i mewn sydd ei angen. 

 

Iechyd anifeiliaid

Cyrchir y lloi o fagwr lleol yn bedwar mis oed.

Gall prynu lloi sydd wedi cael dechreuad da hybu neu ddifetha proffidioldeb, meddai Mr Davies.

“Dyma ran bwysicaf y swydd, mae'n rhaid bod lloi wedi cael digon o golostrwm ac wedi cael eu brechu am niwmonia.”

Mae cael gwybodaeth am hanes y lloi'n bwysig, ychwanega Mr Davies.

“Mae popeth yn dechrau gyda chael anifeiliaid iach o ffynhonnell hysbys y gellir ymddiried ynddi.

“Yn achlysurol iawn, rydyn ni'n cael un neu ddau sydd ddim cweit ar lefel y lleill ac rydyn ni'n gweld hynny ynddyn nhw drwy gydol yr 18 mis nesaf.”

Mae'r lloi wedi'u diddyfnu yn cyrraedd y fferm ym mis Mai ac yn pori tan fis Hydref yn eu blwyddyn gyntaf.

 

Pwyso

Mae gwartheg yn cael eu pwyso'n fisol i fonitro eu cynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) — maent yn cael eu tagio'n electronig i sicrhau monitro manwl wrth eu pwyso.

“Mae pwyso rheolaidd a defnydd o dechnoleg ffermio manwl gywir yn hanfodol ar gyfer cofnodi pwysau a monitro cywir,” meddai Mr Davies.

Mae'r lloi yn eu blwyddyn gyntaf yn magu cynnydd dyddiol o rhwng 0.8 i 1.2kg/dydd o'u prynu i’w rhoi mewn siediau a chyfartaledd o 1.2kg/dydd yn ystod eu cyfnod mewn siediau.

 

Siediau

Mae’r siediau agored a ddefnyddiwyd ar gyfer gwartheg stôr wedi cael eu troi'n uned slatiau.

Drwy fuddsoddi mewn lloriau, dŵr a phorthiant, mae Mr Davies wedi creu llety sy'n cyfateb i berfformiad siediau modern heb draul seilwaith newydd.

Costiodd y trawsnewidiad oddeutu £50,000

 

FFEITHIAU AM Y FFERM

Diadell o ddefaid Brych Caled Epynt, wedi'u paru â hyrddod Brych Caled Epynt neu Texel

Canran sganio cyfartalog o 130% 

 

PANEL

Dangosyddion perfformiad anifeiliaid allweddol ar gyfer bîff o wartheg llaeth

  • Cyrchu lloi iach
  • Brîd sy'n tyfu'n gyflym gydag effeithlonrwydd trosi porthiant da
  • Potensial i fodloni manylebau'r farchnad yn ifanc