Mae ail bennod yn ein cyfres newydd-ddyfodiaid i amaethyddiaeth yn dod â phedwar ffermwr ifanc ynghyd a gafodd eu magu ar ffermydd teuluol yng Ngogledd Cymru. Mae'r pedwar wedi penderfynu sefydlu gyrfa eu hunain trwy gytundebau menter ar y cyd a rheolaeth fferm. Bydd y bennod hon yn clywed am y da ar drwg o sefydlu cytundebau menterau ar y cyd. Mae'r pedwar panelwr wedi mynychu Bwtcamp Busnes Cyswllt Ffermio yn y gorffennol ac wedi manteisio ar y raglen Mentro i greu llwybr llwyddiannus i ffermio cyfran. Mae'r bennod hon hefyd ar gael i'w gwylio ar ein sianel YouTube trwy glicio yma.

Panel: Fydd Gwydion Owen, Swyddog Mentro Cyswllt Ffermio yn cael cwmni Emyr Owen, sydd newydd ei benodi yn Rheolwr Fferm ar Ystâd Rhug yng Nghorwen. Y brodyr Dafydd ac Ifan Owen, mae Dafydd yn rheoli 3000 o famogiaid yng Nghoed Coch, ger Bae Colwyn tra bod Ifan wedi mynd i bartneriaeth ar 600 erw o dir yn Nhŷ Newydd, Nebo, Llanrwst. Mae Ynyr Pugh wedi bod yn ffodus i sicrhau cytundeb menter ar y cyd dim ond 10 munud o’i gartref yn Ninas Mawddwy, Machynlleth.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 104 - Beth yw pridd iach?
Gwrandewch ar y recordiad yma o ddigwyddiad fferm Pentrefelin
Rhifyn 103 - Cloffni mewn gwartheg llaeth
Sut mae gwahanol ddulliau o drosglwyddo gwybodaeth yn dylanwadu
Rhifyn 102 - Cael y gorau o silwair adeg wyna - mae'r cynllunio ar arolygu yn dechrau nawr - Rhan 2
Croeso i Glust i'r Ddaear. Mae hon yn bennod dwy ran sy’n