Prosiect Rheoli Parasitiaid - Diweddariad Misol - Awst 2019

Profi Effeithiolrwydd Triniaethau Llyngyr

Mae’r profion effeithiolrwydd triniaethau llyngyr wedi dechrau’r mis hwn, gyda thair fferm wedi cwblhau’r broses erbyn hyn. Mae effeithiolrwydd yn amrywio rhwng y tair fferm fel y gwelir yn y tabl isod. Mae’r ffigyrau canran a nodir yn dangos lleihad yn y cyfrif wyau ysgarthol o ddyddiad y driniaeth hyd at 7 i  14 diwrnod ar ôl triniaeth (mae’r bwlch yn dibynnu ar y grŵp o driniaethau). Mae canlyniadau is na 95% yn nodi problem o ran effeithiolrwydd y driniaeth honno.

 

Deall y canlyniadau

Noder fod y canlyniadau’n seiliedig ar  y dull mwy syml o ddefnyddio samplau cronnus cyn ac ar ôl triniaeth (yn hytrach na phrawf FECRT cyflawn) ac mae’n rhaid i ni fod yn ofalus wrth ddehongli’r ffigyrau gan y bydd bylchau mawr o ran hyder yn y data (e.e. gallai canlyniad o 50% fod o fewn ystod o 70% i lawr at 30%). Felly, rydym ni’n aml yn trafod y rhain o  ran effeithiolrwydd y driniaeth yn hytrach nag ymwrthedd i anthelminitigau. Fodd bynnag, mae’r triniaethau a’r gwaith paratoi ar gyfer y triniaethau wedi cael eu cwblhau dan amodau llym iawn gan dechnegwyr Techion, felly mae’n deg i gymryd fod diffyg effeithlonrwydd yn fwy tebygol o fod o ganlyniad i bresenoldeb llyngyr gydag ymwrthedd.
 

 

Ar fferm Irwel oedd y perfformiad gorau, lle nad oedd y grŵp BZ yn gweithio’n llawn, ynghyd â thystiolaeth o ddechrau gweld ymwrthedd i driniaethau melyn. Mae’n ddiddorol nodi bod Irwel eisoes wedi bod yn defnyddio rhai o’r protocolau SCOPS ac wedi bod yn monitro cyfrifon wyau ysgarthol ers dros 10 mlynedd bellach. Mae’n arwydd cadarnhaol bod dilyn y canllawiau dros y blynyddoedd wedi helpu i ddiogelu rhag datblygu ymwrthedd ar raddfa eang. Roedd graddfa’r ymwrthedd yn siomedig iawn ar fferm Glyn Davies, ond roedd yn ymwybodol ei fod wedi bod yn rhy ddibynnol ar driniaethau cyffredinol yn rheolaidd, gan gynnwys rhoi triniaeth llyngyr i famogiaid yn anfwriadol wrth drin llyngyr yr iau a’r clafr.

 

Effaith ar berfformiad y stoc?

Yn ddiddorol yn achos Glyn, roedd yr ŵyn croes wedi perfformio’n well ar ddechrau’r tymor ac fe werthodd nifer o ŵyn oddi ar y borfa. Gwelwyd cyfnodau hir o dywydd poeth a sych ar ddiwedd y gwanwyn a dechrau’r haf, gan olygu amodau  gwael ar gyfer datblygiad llyngyr ar y borfa, ac roedd diffyg her gan barasitiaid yn debygol o fod yn factor sylweddol yn y perfformiad da hwn. Mae’n bwysig cofio mai dim ond pan fo ŵyn yn profi her llyngyr sydd angen sylw y bydd ymwrthedd i driniaeth llyngyr yn effeithio ar berfformiad.

Fodd bynnag, gan fod y tywydd wedi newid, mae’r her llyngyr hefyd wedi newid ac nid yw’r grŵp o ŵyn a ddefnyddiwyd ar gyfer y prawf hwn wedi bod yn perfformio’n dda, er gwaethaf derbyn triniaeth llyngyr - nid yw hyn yn syndod gan fod y cyfrifon ar ôl triniaeth yn dal i fod yn uchel, gan olygu bod tipyn o faich llyngyr yn dal i fod yn bresennol.  Wrth nesáu at yr hydref, byddai’r fferm fe arfer yn dibynnu ar ddwysfwyd i helpu  i besgi’r ŵyn sy’n weddill. Mae hyn yn gyfnod lle mae baich llyngyr yn cynyddu felly bydd yn ddiddorol gweld a yw gwell rheolaeth llyngyr drwy ddefnyddio triniaethau llyngyr effeithiol yn arwain at well perfformiad ymysg yr ŵyn ar y borfa, a’u bod angen llai o ddwysfwyd nag ar ddiwedd y tymor.
Nid oes amheuaeth y bydd defnyddio triniaethau llyngyr aneffeithiol yn effeithio’n sylweddol ar broffidioldeb menter ddefaid. Yn ôl Nicola Drew - “Mae’n syndod i mi faint ohonom ni fel ffermwyr sy’n talu am driniaethau llyngyr aneffeithiol”. Gallai hyn, yn ogystal â dirywiad mewn perfformiad a llafur, arwain at golledion ariannol sylweddol.

 

Beth nesaf i Nicola a Glyn?

O’r 4 triniaeth llyngyr posibl, dim ond un dewis effeithiol oedd gan Nicola, ac nid oes unrhyw ddewis yn effeithiol ar fferm Glyn.  Bydd angen i’r ddau ohonynt wneud defnydd strategol o’r ddau grŵp newydd o driniaethau llyngyr, y 4ydd a’r 5ed (Zolvix a Startect) i sicrhau bod llyngyr yn cael eu rheoli’n effeithiol  yn y dyfodol. Mae’r prawf hwn yn adlewyrchu’r rhywogaethau sy’n bresennol ar adeg y prawf yn unig, ac mae’n bosibl y byddai triniaethau llyngyr eraill yn perfformio’n well ar adegau eraill o’r flwyddyn os bydd rhywogaethau llyngyr yn bresennol. Bydd hyn  yn enwedig o wir ar ddechrau’r gwanwyn pan mai Nematodirus yw’r unig rywogaeth sy’n bresennol, gan mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd o ran ymwrthedd o fewn y rhywogaeth llyngyr Nematodirus.
Ar y ddwy fferm, mae’r gwaith monitro rheolaidd wedi dangos nad oedd angen rhoi triniaeth llyngyr mor aml ag y byddent wedi’i feddwl, felly mae hynny’n gadarnhaol. Mae mesurau rheolaeth eraill y gallant ystyried eu rhoi ar waith megis gwneud defnydd pellach o bori gyda gwartheg neu ddefnyddio porthiant newydd megis llyriad ac ysgall y meirch i leihau baich llyngyr ar y borfa. Ni fydd hyn yn dasg hawdd, ond mae’n bosibl, a thrwy weithio’n agos gyda’r milfeddyg a pharhau i fonitro, gobeithio y dylem weld llai o effaith negyddol ar berfformiad ŵyn. Gan fod y ddau ffermwr yn gwybod beth maen nhw’n ei wynebu, maen nhw’n gallu mynd i’r afael â’r broblem.