Prosiect Safle Arddangos - Tynyberth

Bywyd heb gloffni

 

Nodau’r prosiect:

Gan ystyried pwysigrwydd lleihau cyfran yr anifeiliaid yn y ddiadell genedlaethol sy'n gloff , mae Jack Lydiate wedi penderfynu mynd i'r afael â chloffni ar fferm Tynyberth trwy weithredu'r cynllun cloffni 5 pwynt a ddatblygwyd gan filfeddygon mewn ar y cyd â phrofiad ymarferol ar y fferm. Mae’r cynllun 5 pwynt yn ymdrin â chloffni mewn amrywiaeth o ffyrdd: triniaeth brydlon, arwahanu anifeiliaid sydd wedi’u heffeithio, difa, bioddiogelwch da a brechu.
 

Amcanion strategol:

  • Gwella iechyd a lles anifeiliaid
  • Gwella cryfder y busnes
  • Gwella effeithlonrwydd cynhyrchu
  • Lleihau’r defnydd o wrthfiotigau
  • Gwella cynhyrchiant a rheolaeth costau

Nodweddion ymarferol y prosiect:

  • Ar y cyd â chyngor strategol gan y Food Animal Initiative (FAI) a milfeddyg y fferm ei hun, bydd cynllun lleihau cloffni ar draws y ddiadell gyfan yn cael ei gweithredu gan ddefnyddio egwyddorion y cynllun 5 pwynt.
  • Bydd lefelau a difrifoldeb cloffni yn y ddiadell yn cael eu monitro dros gyfnod o 12 mis.
  • Gan weithredu fel data sylfaenol, bydd sampl o famogiaid yn cael eu harchwilio’n unigol a’u sgorio yng nghyd-destun presenoldeb y clefyd, ei achos a'i ddifrifoldeb. Bydd hyn yn cymryd lle cyn hyrdda ac yn cael ei ail adrodd unwaith eto ar ddiwedd y prosiect ar adeg debyg o’r flwyddyn.
  • Yn dilyn y broses o gasglu data cychwynnol, bydd ymweliad misol yn monitro lefelau cloffni yn y ddiadell (p'un ai  yw cloffni'n bresennol ai peidio). Bydd hyn yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â’r ffermwr ac ar yr un pryd bydd cofnodion triniaeth ar gyfer y mis blaenorol yn cael eu casglu.
  • Bydd defnydd gwrthfiotigau’r ddiadell yn cael ei gofnodi, yn ogystal ag unrhyw olchi traed a wnaed, unrhyw famogiaid sydd wedi'u difa oherwydd cloffni, llafur sy'n gysylltiedig â'r driniaeth a roddwyd ac unrhyw ddata cynhyrchiant perthnasol.

Diweddariad prosiect:

  • Ar ddechrau’r prosiect a ddechreuodd ym mis Medi eleni, roedd ychydig dros 10% o'r mamogiaid yn y ddiadell bridio'n gloff gyda chyfran arbennig o uchel o gloffni yn yr hesbinod.
  • Bu milfeddyg fferm Jack yn archwilio'r defaid ac gwneud argymhelliad am wrthfiotig priodol. Aeth Jack yn ei flaen i drin y mamogiaid a oedd wedi’u heffeithio’n gynnar ac i’w arwahanu nes eu bod wedi gwella.
  • Cafodd pob un o’r mamogiaid bridio eu brechu ac mae rhifau tag y rhai sydd ag achosion heintus o gloffni wedi cael eu recordio gyda'r bwriad o ddifa'r rhai sy'n cael eu heffeithio dro ar ôl tro. Mae’r dull yma eisoes wedi talu ei ffordd. Bedair wythnos wedi i’r cynllun gael ei weithredu, roedd llai na 10% o'r mamogiaid yn y ddiadell yn gloff a deufis yn ddiweddarach, roedd y nifer yn llai na 5%.
  • Yn draddodiadol mae cloffni wedi cynyddu wrth gadw’r anifeiliaid dan do felly bydd y pwyslais o hyn allan ar weithredu cynlluniau sy’n lleihau cyfraddau heintio yn y ddiadell a dulliau ymarferol o drin yn sydyn ac arwahanu unrhyw anifeiliaid sy'n cael eu heintio cyn ŵyna. Mae Jack eisoes wedi nodi bod y mamogiaid cymaint yn well erbyn hyn a bod eu cyflwr wedi gwella dros y cyfnod hyrdda.

Camau nesaf

  • Bydd mamogiaid sy’n cael eu heffeithio dro ar ôl tro (dwy driniaeth neu fwy o fewn 12 mis) yn cael eu harwahanu a'u difa ar ôl hyrdda.
  • Bydd brechu’n cael ei ail adrodd ar ôl sganio
  • Bydd pwyslais yn cael ei roi ar leihau’r her dan do

Cliciwch yma am drosolwg o'r prosiect a'r canlyniadau.

 

Diweddariad y prosiect:

Adroddiad Prosiect - Tynyberth

Erthygl: Cynllun goedwigaeth yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i fferm fynydd yng Nghymru

Cyhoeddiad Technegol (Rhifyn 17, tudalen 2): Cyflwyniad