Prosiect therapi gwartheg sych dethol (SDCT) – Fferm Holebrook

Mae lleihau’r defnydd o wrthfiotigau yn dod yn fwyfwy pwysig ar ffermydd llaeth yn y Deyrnas Unedig, gyda llawer o broseswyr yn gosod targedau mwy caeth ar gyfanswm y defnydd o wrthficrobau. Mae prosiect ar un o Safleoedd Ffocws Cyswllt Ffermio wedi bod yn ystyried sut y gall y fferm, gyda chymorth eu milfeddyg, gyflwyno rhaglen SDCT lwyddiannus. Mae Neil Evans o fferm Holebrook yn godro 180 o wartheg yn Wrecsam gan ddefnyddio system loea buches dros dro trwy gydol y flwyddyn. Roedd Neil yn nerfus ynghylch defnyddio SDCT yn rhan o’i therapi Gwartheg Sych, ond gyda chymorth ei filfeddygfa leol, Lambert Leonard and May, mae wedi llwyddo hyd yma i leihau’r defnydd o wrthfiotigau 39.5% yn y cyfnod rhwng Mawrth ac Awst 2018 o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd, a hynny’n cyfateb i drin 28 yn llai o wartheg neu 112 o diwbiau gwartheg sych gwrthfiotig.  

Mae’r cymorth a’r cyngor yn sgil yr ymweliadau sychu gan dîm technegwyr milfeddygol pwrpasol y filfeddygfa – a oedd yn ymweld yn wythnosol ar y cychwyn – wedi codi hyder Neil o ran defnyddio’r dechneg, i’r graddau mai SDCT yw’r drefn arferol bellach wrth sychu. Mae Neil a’i staff bellach wedi cael eu hyfforddi i asesu gwybodaeth cyfrifiad celloedd a sut i ddefnyddio SDCT ar eu gwartheg eu hunain – er y bydd y tîm milfeddygol, ar ran prosiect Cyswllt Ffermio, yn parhau i wneud y gwaith sychu am y flwyddyn gyfan. Cafodd yr holl wartheg a gafodd eu trin â gwrthfiotigau gwartheg sych hefyd eu selio â selydd, tra bod gwartheg dethol â chyfrifiad celloedd isel wedi’u trin â selydd yn unig.

Gwnaed y gwaith Therapi Gwartheg Sych Dethol (SDCT) yn Holebrook mewn dau gam:-  

 

 

1: Dethol Gwartheg

 

Mae’n allweddol eich bod yn adnabod y gelyn. Gall profion bacterioleg ar y math o fastitis sy’n achosi bacteria ar eich fferm roi syniad ichi o’r hyn yr ydych yn diogelu eich gwartheg rhagddo. Argymhellir, os canfyddir y Staph Aureus heintus, na ddylid ystyried SDCT nes eich bod wedi mynd i’r afael â’r hyn sy’n ei achosi. Cafodd samplau mastitis clinigol eu casglu a’u rhewi yn Holebrook ac yna’u dadansoddi yn y labordy er mwyn canfod y bacteria oedd yn gyfrifol.  

Mae agwedd ofalus tuag at SDCT yn allweddol, yn enwedig ar y cychwyn. Mae’n hanfodol cael cofnodion data misol llawn, yn ogystal â chofnodion cywir ynghylch trin mastitis, wrth edrych yn ôl trwy’r gwerthoedd Cyfrifiad Celloedd Somatig (SCC) yn ystod y cyfnod llaetha presennol a chyfnodau blaenorol. Ni chafodd gwartheg ar fferm Holebrook oedd ag SCC cyfartalog o dros 100,000 ar gyfer y cyfnod llaetha neu a gafodd achos o fastitis clinigol yn ystod rhan olaf y cyfnod llaetha eu hystyried ar gyfer SDCT, tra bod gwartheg oedd â chyfartaledd isel ar gyfer y cyfnod llaetha ond a gododd i uchafbwynt o 200,000+ o gelloedd yn ystod un recordiad eu cyflwyno ar gyfer dadansoddi QScout.

Mae QScout yn ddull newydd a chywir o ganfod mastitis isglinigol mewn gwartheg ar lefel chwarter, gan olygu y gall chwarteri unigol gael eu canfod a’u trin yn ystod y cyfnod llaetha ac ar adeg sychu. Mae’r canlyniadau wrth ddefnyddio’r peiriant QScout yn rhai di-oed ac fe’i defnyddiwyd ar rai gwartheg ar fferm Holebrook am gyfnod prawf byr yn ystod rhai wythnosau pan oedd ar gael. Bu i hyn dynnu sylw’n llwyddiannus at chwarter unigol â chyfrifiad celloedd uchel yn syth cyn sychu, ond yn ystod cam cychwynnol y prosiect cafodd pob un o’r pedwar chwarter eu trin â thiwb gwartheg sych a selydd rhag ofn. Gobeithir y bydd rhai gwartheg yn y dyfodol ddim ond yn cael eu tiwbio a’u selio â’r ddwy driniaeth ar chwarteri unigol sy’n achosi problemau. Gwnaed gwaith rhychu blaen y deth ar bob buwch adeg sychu hefyd, ac roedd unrhyw anifeiliaid oedd â niwed i’r deth neu ddafadennau yn cael eu trin â gwrthfiotigau a selydd waeth beth oedd y gwerthoedd SCC.

Mae’r prosiect, fodd bynnag, wedi tynnu sylw at yr angen am feddalwedd wedi’i dargedu ar gyfer ffermwyr i helpu i ddadansoddi a dehongli’r swmp mawr o ddata llaethu ac SCC, triniaethau blaenorol ac ati er mwyn cynorthwyo i ddewis gwartheg ar gyfer eu trin â selydd yn unig. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer buchesi mwy. Mae’n allweddol cadw cofnod o’r gwartheg sydd wedi cael eu trin ac yn enwedig o’r ¼ heintiedig er mwyn canfod a oes patrwm.  

 

 

2: Protocolau caeth adeg sychu

 

Mae glanweithdra a’r dull yn allweddol wrth drin gwartheg sych, boed hynny’n cael ei wneud â gwrthfiotigau ai peidio. Dylai’r gwartheg fod mor lân â phosibl, a dylid sicrhau hefyd bod y parlwr godro lle mae’r gwartheg yn cael eu trin yn lân ac yn sych.

 

Protocol Therapi Gwartheg Sych Dethol ar fferm Holebrook

Trefnu’r alwad:

Mae angen trefnu’r ymweliad ymlaen llaw â Mr Evans, gan sicrhau bod yr holl wartheg sydd i gael eu trin wedi cael eu dethol gan y ffermwr, y milfeddyg a’r technegydd milfeddygol.

 

Offer:

  • Orbeseal
  • Ethyl-alcohol
  • Twb ar gyfer yr ethyl-alcohol er mwyn socian gwlân cotwm
  • Gwlân cotwm
  • Tâp cynffon (dylid cytuno ar y lliw gyda’r ffermwr)
  • Tywel papur
  • Trochiad tethi
  • Menig PPE / llewys archwilio a thop parlwr glân.

Cyn gweinyddu SCDT:

  • Gwartheg i gael eu didoli adeg godro yn y bore a’u cadw yn y corau AI nes yr adeg sychu. Y technegydd milfeddygol i gyrraedd am 7am.
  • Dylai’r ardal a ddefnyddir fod yn lân ac yn ddiogel (y gwartheg i fynd yn ôl trwy'r parlwr).  
  • Sicrhewch eich bod yn gwisgo menig bob amser.
  • Paratowch yr holl offer fel eu bod yn barod i’w defnyddio, cadarnhewch y driniaeth / selydd cywir ar gyfer y gwartheg unigol.

Dull:

1.            Trochwch y gwartheg ymlaen llaw a’u sychu â thywel papur.  

2.            Glanhewch flaen y deth ag ethyl-alcohol, gan weithio o’r tethi blaen i’r rhai ôl.

3.            Rhowch Orbeseal i’r rhai sydd ar selydd yn unig yn gyntaf.

4.           Rhowch diwb DC gwrthfiotig i’r gwartheg hynny y cytunwyd arnynt.

4.            Rhowch Orbeseal i’r holl wartheg sy’n sychu. Yna, trochwch y tethi eto.

5.            Rhowch dâp cynffon ar y gwartheg sydd wedi cael eu trin er mwyn sicrhau y gall ffermwyr eu hadnabod yn rhwydd adeg lloea.  

 

 

Ffig 1. Gwlân cotwm ac ethyl-alcohol i lanhau’r tethi, gan weithio o’r tethi ôl i’r rhai blaen. Mae’n hanfodol fod y llawr yn lân er mwyn osgoi unrhyw faw rhag cael ei gicio i fyny os bydd y gwartheg yn taro’u traed ar lawr.  Dylid gwisgo llewys y gellir eu tynnu, a’u newid am rai glân rhwng gwartheg os byddant yn fudr, er mwyn osgoi heintio blaen y deth â llewys budr.

 

Ffig 2. Rhoi selydd o’r cefn i’r blaen yn yr un drefn bob amser. Os yw blaen y selydd yn fudr, dylid cael gwared arno. 

 

Ffig 3. Gwasgu brig y deth er mwyn sicrhau bod pibell y deth wedi’i selio. Gellir gweld selydd yma yn nhwll y deth.  

 

Ffig 4. Trochi ar ôl y driniaeth gyda chwistrell ïodin ôl-odro wedi’i gymysgu’n barod. Fodd bynnag, mae’n werth nodi bod rhai cynhyrchion yn adweithio â’r selydd, felly fe’ch cynghorir i ofyn am ragor o arweiniad gan gynhyrchydd y trochiad/chwistrell.

 

 

3. Canlyniadau gwartheg sydd wedi lloea ers dechrau’r arbrawf, a chanlyniadau cyfrifiad celloedd ar ôl lloea  

 

Allwedd i’r tabl –

Gwyrdd = gwartheg a brofwyd ar Qscout ac sy’n glir

Coch = gwartheg a brofwyd ar Qscout ac sy’n dangos cyfrifiadau celloedd uwch. 

Wedi’u lliwio’n felyn = gwartheg a chanddynt gyfrifiad celloedd uchel yn y canlyniad prawf 1af ar ôl lloea

MIL = Miliwn

 

 

 

Canlyniadau cyfrifiad celloedd

       Tabl 1. Canlyniadau unigol cychwynnol gwartheg a sychwyd ar fferm Holebrook