Rhyd Y Gofaint Diweddariad ar y prosiect – Diweddariad Terfynol

Prif ganlyniadau

  • Cynnydd o dros £10,000* mewn proffidioldeb o ganlyniad i welliannau ffrwythlondeb  
  • Cyfradd buchod cyflo 100-diwrnod wedi cynyddu o 56% i dros 70%  
  • Arbedion o £1,800 mewn porthiant a llai o getosis a chlefyd metabolig o ganlyniad i reolaeth ragweithiol o gyflwr gwartheg ar ddiwedd y cyfnod llaetha 

Cefndir

Fel arfer, mae ffrwythlondeb gwael yn costio £25,000 y flwyddyn i fuches o 100 o wartheg gyda pherfformiad cyfartalog (AHDB) sy’n gyfwerth â chost o 3.2c/litr. Yn ogystal, bydd gwella ffrwythlondeb yn y fuches laeth yn lleihau ôl troed carbon. Ceir nifer o ffactorau sy’n achosi ffrwythlondeb gwael, gan amrywio o un fferm i’r llall. Felly, mae angen edrych ar fuchesi ar sail unigol i ddatblygu rhaglen wedi’i thargedu i fynd i’r afael â’r ffactorau hyn.

Mae fferm Rhyd Y Gofaint yn cadw buches o 120 o wartheg Friesian/Holstein wedi’u rheoli’n dda sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn ger Aberaeron. Fodd bynnag, mae Deryl a Frances Jones bob amser yn edrych tua’r dyfodol ac yn herio eu system gyda’r nod o fod yn fwy effeithlon a chynaliadwy. Bu’r Arbenigwr Ffrwythlondeb Kate Burnb yn gweithio gyda Deryl a Frances i archwilio eu Dangosyddion Perfformiad Allweddol ffrwythlondeb i ganfod sut i wella rheolaeth ffrwythlondeb ymhellach.

Diben y gwaith

  1. Gwella perfformiad ffrwythlondeb a chynhyrchiant yn gyffredinol drwy ymyriadau wedi’u targedu
  2. Cynyddu’r gyfradd buchod cyflo 100-diwrnod
  3. mcangyfrif budd economaidd deilliannau gwella ffrwythlondeb

Yr hyn a wnaed

Cynhaliwyd adolygiad o strategaeth bresennol y fferm yn ogystal ag archwiliad o’r gwartheg a’u hamgylchedd i bennu nodau tymor byr, tymor canolig a hirdymor. Ar y cyd â Deryl a Frances, llwyddodd y tîm i nodi “enillion cyflym”, gan bennu prif Ddangosyddion Perfformiad Allweddol a phrotocolau monitro.

Protocolau newydd

  • Profi cetonau’n rheolaidd ar ôl lloia i ganfod patrymau ac unigolion risg uchel
  • Cynnal profion metricheck rheolaidd 21-28 diwrnod ar ôl lloia i ganfod endometritis – yn enwedig endometritis ysgafn, yn gynt
  • Cyflwyno cadarnhad ychwanegol o Ddiagnosis Beichiogrwydd (PD) ar ddiwrnod 130-150 gan gynnwys craffu ar Sgôr Cyflwr Corff, gan wneud penderfyniadau wedi hynny ynglŷn â lefel bwydo yn y parlwr ar gyfer 2-3 mis olaf y cyfnod llaetha  

Canlyniadau

Budd economaidd gwella ffrwythlondeb:

DPA blaenorol 

DPA presennol

Gwelliant

53% 

70% 

17% 

Tabl 1: Cynnydd o ran Dangosydd Perfformiad Allweddol Cyfradd Buchod Cyflo 100-Diwrnod 


 

Ffigur 1: Budd economaidd gwella’r gyfradd buchod cyflo 100 diwrnod


Cydrannau’r budd economaidd:

  • Cynnydd mewn cynhyrchiant llaeth: Mae mwy o wartheg yn lloia’n gynt yn arwain at fwy o ddyddiau mewn llaeth.
  • Lleihad mewn costau gwartheg gwag: Mae llai o wartheg gwag yn lleihau’r colledion sy’n gysylltiedig ag anifeiliaid nad ydynt yn gynhyrchiol.
  • Cynyddu effeithlonrwydd porthiant: Mae addasu dwysfwyd yn seiliedig ar sgôr cyflwr corff yn gwneud y defnydd gorau o gostau porthiant.
  • Mwy o hyblygrwydd ar gyfer difa gwirfoddol: Mae gwell ffrwythlondeb yn caniatáu ar gyfer gwell penderfyniadau’n ymwneud â rheoli’r fuches.

Yn ogystal, mae Frances hefyd wedi bod yn sgorio cyflwr corff y gwartheg yn amlach i sicrhau bod gwartheg yn sychu ac yn lloia yn y cyflwr gorau posibl. Pe byddant dros y cyflwr targed, byddai tâp glas yn cael ei roi ar y fuwch i leihau faint o fwyd a gynigir yn y parlwr.
 

  • O ganlyniad, rhoddwyd 12 o’r gwartheg ar ddiet gyda hanner y cyfanswm o ddwysfwyd (6kg yn llai o ddwysfwyd y dydd) am 100 diwrnod, sef cyfanswm o 600kg yn llai o ddwysfwyd fesul buwch. Felly, mae 7.2 tunnell o ddwysfwyd parlwr am £250/tunnell yn golygu arbedion o £1800 mewn dwysfwyd.
  • Yn ogystal mae gwartheg sydd mewn cyflwr priodol wrth loia yn peri llawer llai o risg o glefydau sy’n gysylltiedig â chynhyrchiant uwch, gwell ffrwythlondeb a llai o driniaethau. Mae nifer yr achosion o dwymyn llaeth wedi gostwng o 8 i 2 dros y flwyddyn.
  • Er nad oedd Frances erioed wedi cadarnhau cetosis is-glinigol o’r blaen; trwy ddefnyddio’r offer profi cetonau, maent wedi rhoi bolysau glwcos/propylen glycol i wartheg gyda chetosis is-glinigol ac o bosibl wedi atal problemau pellach. Hefyd, ni chafwyd unrhyw achosion o Abomaswm wedi’i Ddadleoli o’i gymharu ag un neu ddau bob blwyddyn fel arfer.

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm

  1. Ymgynghorwch gydag ymgynghorydd megis eich milfeddyg. Nodi bylchau a nodau.
  2. Dewiswch ychydig o ddangosyddion perfformiad allweddol ystyrlon i’w monitro – gorau oll po leiaf, neu fwyaf pellgyrhaeddol yw’r rhain.  
    Beth am ystyried ychwanegu’r cyngor hwn wrth gynnal eich adolygiad cynllun iechyd ar gyfer y cynllun sicrwydd fferm?
  3. Dewiswch un neu ddau o syniadau hawdd i’w gweithredu – hyd yn oed os mae hynny’n golygu dechrau cofnodi data am y dangosyddion perfformiad allweddol a ddewiswyd er mwyn gwella heb gyflwyno unrhyw newidiadau rheolaeth yn y lle cyntaf.
  4. Aseswch eich cynnydd ar ôl 3-6 mis – sut mae’r dangosyddion perfformiad allweddol? Beth sy’n gweithio? Beth sydd ei angen? Beth sy’n bosibl? A allwch chi neu a ddylech chi gyflwyno syniadau newydd?  
  5. Adolygwch y dangosyddion perfformiad allweddol ar ôl 9-12 mis.
  6. Ailadroddwch y broses bob blwyddyn.