Rhys Beynon-Thomas
Hendy, Abertawe
Roedd y milfeddyg fferm Rhys Beynon-Thomas wedi gosod ei olygon ar yrfa yn gweithio gyda da byw fferm yn ifanc iawn. Wedi ei fagu ar fferm laeth a defaid ei deulu yn yr Hendy, mynychodd Rhys, sy’n siarad Cymraeg, Ysgol Gyfun y Strade yn Llanelli cyn mynd ymlaen i Brifysgol Bryste lle cafodd ei radd filfeddygol.
Ar ôl rhai blynyddoedd yn gweithio i bractis milfeddygol yn Swydd Gaerloyw, dychwelodd Rhys i Gymru yn 2014 ac mae’n awr yn filfeddyg fferm i bractis sy’n gweithredu yn Sir Gaerfyrddin sy’n arbenigo ar anifeiliaid fferm. Yn ogystal â’i yrfa broffesiynol lawn-amser, mae Rhys yn ffermwr rhan-amser.
“Diolch i’m cefndir amaethyddol a gyda help ariannol trwy gynllun ‘Pobl Ifanc i Amaethyddiaeth’ Llywodraeth Cymru, llwyddais i ddatblygu fy musnes a phan fydd amser yn caniatáu, rwyf yn awyddus i ehangu a datblygu ymhellach.”
Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o’i genhedlaeth, mae Rhys yn bryderus bod yr hinsawdd gwleidyddol ansicr yn cael effaith niweidiol ar y diwydiant amaeth, ond mae’n dweud bod newid hefyd yn dod â chyfle.
“Rwy’n meddwl y gallwn ni weld mwy o gyfleoedd i gynhyrchu bwyd o ansawdd da ac oherwydd bod gennym safonau mor uchel o ran ffermio ac iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru, rwy’n meddwl y gallai hyn arwain at ostyngiad yn y bwyd sy’n cael ei fewnforio a marchnadoedd newydd yn agor.”
“Fe fyddwn yn hoffi rhoi rhywbeth yn ôl i’r diwydiant ac rwy’n gobeithio y bydd bod yn rhan o’r Academi Amaeth yn rhoi hyder i mi ddod yn llefarydd dros y materion yr wyf yn credu fydd yn sicrhau bod ffermio yng Nghymru yn parhau i wneud ei farc mewn marchnad gystadleuol.”