Cymrage

Pam fyddai Rhys yn fentor effeithiol

  • Mae gan Rhys Davies brofiad eang yn y sector llaeth.  Am flynyddoedd lawer mae Rhys wedi meithrin arbenigedd trwy ei swydd yn ddarlithydd coleg a swyddog technegol llaeth, y mae’n awr wedi gwneud defnydd gwych ohono, nid yn unig gyda’i fuches ei hun o 100 o fuchod Holstein Friesian, ond gyda nifer o fusnesau llaeth eraill yng Nghymru.
  • Ers 2014, mae Rhys wedi bod yn profi ei holl loeau benyw trwy ddefnyddio genomeg, gan dargedu ffrwythlondeb a % o brotein fel amcan magu. Erbyn hyn mae’r fuches yn yr 1% uchaf yn y wlad o ran nodweddion ac yn y 5% uchaf ar gyfer £SCI (mynegai lloeau’n y gwanwyn). 
  • Wedi canolbwyntio ar eneteg llaeth ers yn ifanc, dywed Rhys ei fod wedi gweld newid sylweddol ers trosglwyddo o’r fuches Holstein bur oedd ganddo yn yr 1990au i’r fuches Holstein Friesian y maent yn ei chadw ar hyn o bryd ac sy’n lloea mewn bloc ym mis Mawrth ac Ebrill. 
  • Trwy ei yrfa flaenorol fel darlithydd llaeth amser llawn a’i swydd am bum mlynedd fel swyddog technegol llaeth i Cyswllt Ffermio, mae ganddo brofiad sylweddol o gefnogi, addysgu a gweithio ochr yn ochr â ffermwyr o bob cenhedlaeth yn ogystal â myfyrwyr, yn neilltuol yn y sector geneteg llaeth. 
  • Yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae Rhys yn edrych ymlaen at ei swydd fentora newydd gyda Cyswllt Ffermio.  Bydd yn rhoi cyngor diduedd, ymarferol i chi i’ch helpu i ddynodi eich geneteg orau ar sail gofynion eich system a’ch helpu i ddehongli gwybodaeth enetig gan gynnwys Adroddiad Genynnol y Fuches sydd ar gael am ddim gan AHDB. Yn dilyn hyn bydd yn eich helpu i lunio cynllun paru i sicrhau eich bod yn gwneud y mwyaf o’ch contract llaeth a’r targedau cynaliadwyedd.  
  • Yn Sir y Fflint y mae Rhys a bydd yn barod i deithio atoch chi neu rannu ei arbenigedd dros y ffôn neu ar-lein. 

Busnes fferm presennol

  • 200 erw sy’n cynnwys 30 erw yn ei feddiant, 170 erw ar rent 
  • Wedi bod yn denant ar fferm odro 200 erw oedd yn eiddo i Gyngor Sir y Fflint 
  • Ar hyn o bryd mae’n cadw 100 o fuchod Holstein Friesian sy’n lloea mewn bloc 10 wythnos yn y gwanwyn 
  • Y buchod yn cynhyrchu 7,500 litr y flwyddyn ar 4.6% Braster, 3.67% Protein gan ddefnyddio 1.5t o ddwysfwyd 
  • Magu ei loeau llaeth ei hun

Cymwysterau/llwyddiannau/profiad

  • Cyn-ddarlithydd llaeth a glaswelltir yng Ngholeg Llysfasi

  • Cyn swyddog technegol llaeth Cyswllt Ffermio 

  • Wedi magu stoc ifanc yn yr 1% uchaf yn y brîd Holstein Friesian (AHDB £PLI)

  • •    Wedi helpu i sefydlu’r adroddiad Genynnol Buches sydd ar gael am ddim trwy AHDB ac yn helpu ffermwyr i ddefnyddio eu hadroddiad genynnol gydag Agrinet er mwyn gwella sail enynnol eu buchesi a rheoli pori.
     

Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes

“Bydd defnyddio meddalwedd yn eich helpu i wneud penderfyniadau ariannol a thechnegol ar sail gwybodaeth a pherfformiad y fuches.”
“Gallu cyn graddfa - gwnewch y mwyaf o botensial eich contract llaeth a chwilio am gamau i wella effeithlonrwydd cyn gwneud penderfyniadau i ehangu.”