Treialon brechu rhag Mycoplasma bovis ar Fferm Y Wern, Bancyfelin

Cefndir

Yn ystod y pedair neu bum mlynedd diwethaf, mae’r lloi a’r buchod ar  Fferm Y Wern wedi dioddef yn achlysurol o niwmonia, ac mae hynny wedi golygu colledion sylweddol o ran difrod i’r ysgyfaint, cyfraddau twf gwael, lloi yn marw a chynnyrch yn gostwng. Cafodd Mycoplasma bovis ei ganfod yn ysgyfaint a phibellau trwynol lloi, ac ymddengys taw dyna yw prif achos y niwmonia ar y fferm.

Cafwyd newidiadau sylweddol ar y fferm yn ystod y blynyddoedd diwethaf – gan gynnwys godro robotig, siediau gwartheg newydd a gwell i’r buchod godro a sied newydd i’r lloi newydd-anedig. Er gwaethaf y newidiadau hyn, mae’r niwmonia yn y lloi’n parhau, gan achosi colledion drwy’r amser.

Gyda chymorth Cyswllt Ffermio, gwnaed treial o frechu hunangenedledig ar y fferm er mwyn ceisio lleihau’r colledion oherwydd Mycoplasma bovis.

Mae brechlyn hunangenedledig yn frechlyn a gynhyrchir yn arbennig ar gyfer fferm benodol pan nad oes frechlyn masnachol ar gael. Mae’r brechlynnau hyn yn unswydd ar gyfer buches/diadell benodol a chânt eu hynysu o’r lle mae heintiad.

 

Mycoplasma bovis

Mae M. bovis yn facteriwm sydd yn achosi clefydau clinigol difrifol mewn gwartheg – gan gynnwys niwmonia, arthritis, mastitis, heintiadau’r glust ganol ac afiechydon atgenhedlol. Mae’n perthyn i deulu o facteria Mycoplasma, ond Mycoplasma bovis yw’r bacteriwm mwyaf pathogenaidd o ddigon yn y teulu.   

 

                                                  

Ffig A. Digwyddiadau o Mycoplasma bovis a ganfuwyd mewn gwartheg â chlefyd resbiradol ym Mhrydain o 2006 i 2017 fel canran o’r cyflwyniadau diagnosadwy.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cafwyd cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o niwmonia sydd yn gysylltiedig â M. bovis a anfonwyd i labordai yn y DG. Gweler ffig. A uchod.

 

 

Er bod y rhan fwyaf o'r samplau a anfonwyd i labordai yn y DG yn ymwneud ag afiechydon sydd yn gysylltiedig â niwmonia, cafwyd samplau hefyd a oedd yn gysylltiedig ag arthritis a mastitis. Gweler ffig. B isod.

 

                                              

Ffig B. Cymhariaeth o’r diagnosisau blynyddol o Mycoplasma bovis fel niwmonia, arthritis a mastitis ar gyfer y blynyddoedd 2006-2017 (VIDA)

 

Yn aml bydd lloi yn cael eu heintio wrth yfed llaeth neu golostrwm o fuchod heintiedig, ond bydd y rhan fwyaf o heintiadau yn cael eu trosglwyddo o drwyn i drwyn. Bydd gwella’r awyriad, y porthi a’r siediau gwartheg yn helpu i leihau heintiadau a’i gwneud yn anos i M. bovis ledaenu. Hefyd, mae modd gwella’r sefyllfa wrth roi mwy o imiwnedd i’r lloi trwy ddarparu digon o golostrwm.

Nid oes gan y bacteriwm gellfur ac oherwydd hynny mae’n anodd ei ladd trwy ddefnyddio’r gwrthfiotigau traddodiadol sydd yn targedu cellfur y bacteriwm. Yn ogystal, mae’n facteriwm bychan iawn sydd yn symud yn rhwydd i rannau gwahanol y corff, gan gynnwys y cymalau, y glust ganol, yr ymennydd, y chwarren fronnol a’r ysgyfaint. Er bod rhai mathau o wrthfiotigau yn effeithiol o ran rheoli M. bovis, mae’r bacteriwm yn mynd yn fwy ymwrthol i wrthfiotigau fel y rhai ocsitetrasyclin. Dim ond y fflẅorocwinolonau a ddangosodd unrhyw wir effaith rhag M. bovis, ond nid ydynt yn llwyddo i gael gwared â’r holl facteria o’r anifail lletyol. Erbyn hyn mae fflẅorocwinolonau yn cael eu hystyried yn Wrthfiotigau Hollbwysig, a rhaid cyfyngu eu defnydd i facteria y gellir eu dileu’n effeithiol neu pan fo gwrthfiotigau eraill heb weithio.

Yn ddiweddar yn Seland Newydd, cafodd miloedd o fuchod eu difa er mwyn atal yr afiechyd heintus ofnadwy hwn rhag lledaenu. Yn anffodus, mae wedi lledaenu’n eang eisoes yng Nghymru ac yn y Deyrnas Gyfunol, ac mae’n endemig mewn nifer fawr o fuchesi.

 

Treial brechu

Am nad oes unrhyw frechlyn ar gael ar gyfer M. bovis, bu’n rhaid creu brechlyn hunangenedledig trwy ynysu’r bacteriwm.  Gwnaed hyn wrth gymryd swabiau drwy’r trwyn i’r ffaryncs ac yna swabio ysgyfaint lloi a oedd newydd farw. Defnyddiwyd dull arbennig o gludiant er mwyn gwneud yn siŵr fod y bacteria yn fyw yn cyrraedd labordy cwmni Mycoplasma Experience Cyf. Yna cafodd y bacteria M. bovis ynysedig eu hanfon i labordy arall, sef labordy Ridgeway Biologicals Cyf.  i’w teneuo a chynhyrchu brechlyn.

Unwaith y cafodd y brechlyn ei greu a’i brofi am ddiogelwch ar y fferm, cafodd ei roi i’r buchod sych cyflo cyn lloia. Rhoddwyd y colostrwm o’r buchod hyn i’w lloi er mwyn rhoi diogelwch cychwynnol iddynt. Wedyn brechwyd y lloi o bythefnos oed ymlaen, pan oedd ganddynt system imiwnedd ymarferol. Bedair wythnos yn ddiweddarach, rhoddwyd pigiad atgyfnerthol i’r lloi. Cafodd y driniaeth golostrwm ei monitro a gwnaed newidiadau i wneud yn siŵr fod yr holl loi yn derbyn digon o wrthgyrff i’w cadw’n ddiogel yn ystod pythefnos gyntaf eu bywyd, cyn cael eu brechu. Mesurwyd y trosglwyddiad colostrwm wrth wneud prawf gwaed i fesur cyfanswm y proteinau serwm yn y lloi newydd-anedig. Mae hyn yn ffordd ddibynadwy o asesu trosglwyddiad goddefol imiwnedd.

Monitrwyd y lloi ar gyfer niwmonia a symptomau eraill o M. bovis a monitrwyd eu pwysau hefyd yn ystod yr wyth wythnos cyntaf. Yn ogystal, cadwyd llygad am drwynau’n rhedeg, anadlu llafurus, tymheredd uchel, clustiau’n gostwng a phwysau’n newid am gyfnod o wyth wythnos cyn dechrau brechu ac yna ar ôl brechu.

Y labordy lle cafodd y bacteriwm ei ynysu yw Mycoplasma Experience. Pan oedd y bacteriwm wedi ei ynysu ac yn sefydlog cafodd ei anfon i Ridgeway Biomedicals er mwyn cynhyrchu brechlyn.

 

Cyfeiriadau:

(2018) Mycoplasma bovis investigations in cattle Veterinary Record 183, 256-258.