Ty Coch Diweddariad ar y prosiect - Terfynol

Canlyniadau allweddol:

  • Gwelwyd y biomas mwyaf o 20t/ha mewn lleiniau a oedd yn cynnwys cymysgeddau o gnydau gorchudd, gyda'r nifer fwyaf o rywogaethau ac yn enwedig y rhai llydanddail.
  • Y llain lle na heuwyd o dan y cnwd oedd â'r cynnyrch isaf, sef 7.2t/ha yn llai na'r llain â'r cynnyrch isaf lle heuwyd o dan y cnwd.
  • Nid oedd yr un o'r cymysgeddau wedi gwella lefelau nitrogen y pridd, er y gallai gaeaf gwlyb fod wedi cyfrannu at hyn. Serch hynny, gwelwyd y nitrogen lleiaf yn y llain lle na heuwyd o dan y cnwd, sy'n awgrymu bod hau glaswellt o dan india corn yn helpu i gyfyngu ar rywfaint o drwytholchiad nitrogen. 
     

Cefndir:

Gyda bron traean o'r fferm yn dir âr bob blwyddyn, roedd y teulu Bowyer yn awyddus i archwilio ffyrdd o ddiogelu a gwella iechyd y pridd. Mae integreiddio cnydau gorchudd ar ôl cynaeafu grawn yn cynnig dull strategol ar gyfer gwella iechyd y pridd a chyflawni cynaliadwyedd amaethyddol hirdymor. Y nod felly oedd treialu gwahanol gymysgeddau hadau i’w hau o dan india corn, a hefyd ar gyfer tyfu cnydau gorchudd dros y gaeaf yn dilyn cnydau grawn.

Pwrpas y gwaith:

  • Darganfod cymysgedd cnwd gorchudd addas i ddilyn cnydau grawn a fyddai'n darparu cnwd toriad, sefydlogi nitrogen ar gyfer y cnwd dilynol a darparu pori addas ar gyfer defaid.
  • Darganfod cymysgedd addas i’w hau o dan india corn a allai fod yn fuddiol i ategu strwythur y pridd, cadw nitrogen a lleihau'r risg o erydiad pridd yn y gaeaf.
  • Gwneud y mwyaf o gapasiti'r ffermydd i storio carbon a hyrwyddo bioamrywiaeth.
  • Darparu opsiynau i ffermwyr eu hystyried fel atebion o ran tyfu cnydau gorchudd amgen.

Yr hyn a wnaethom:

Profwyd pob cae am nitrogen a deunydd organig yn y pridd.

Tyfu cnydau gorchudd

Cafodd y cae ei ddrilio ar 23 Awst 2024, a oedd yn golygu bod y lleiniau'n cael eu llyfnu, cafodd yr hadau eu troelli allan gan ddefnyddio peiriant gwasgaru gwrtaith, ac yna cafodd yr hadau eu llyfnu yn ôl i mewn. Roedd y 6 llain un erw gwahanol yn cynnwys:

Llain 1 - Ceirch y Gaeaf 80%, Ffacbys y Gaeaf 20%
Llain 2 - Ffacbys 17.5%, Meillionen Berseem 7.5%, Ceirch y Gaeaf 70%, Mwstard Gwyn 5%
Llain 3 - Meillionen Balansa 10%, Rhuddygl 20%, Ceirch y Gaeaf 27.5%, Ffacbys 27.5%, Ffaselia 5%, Mwstard Gwyn 10%
Llain 4 - Heb ei drin (rheolaeth)
Llain 5 - Llinad 15%, Gwenith yr hydd 15%, Ffaselia 5%, Rhuddygl 15%, Rhuddygl Porthiant 15%, Mwstard Brown 10%, Ffacbys 15%, Meillionen Waetgoch 10%
Llain 6 - Meillionen Berseem 15%, Ffacbys 85%

Ar 21 Ionawr 2025, cofnodwyd biomas pob llain, ynghyd â chymryd samplau pridd ar gyfer nitrogen a deunydd organig y pridd. 

Hau cnwd o dan india corn

Cafodd yr amrywiaeth india corn Foxtrot ei ddrilio ar 25 Mai 2024. Fe'i chwistrellwyd ar 25 Mehefin 2024 gyda GYO 0.75l/ha (AI Pyridate) ac yna, oherwydd problemau â chwyn, cafodd ei chwistrellu eto ar 4 Gorffennaf 2024 gyda Barracuda 0.75l/ha (AI Mesotrione). Gwnaeth y contractwr hau o dan yr india corn tra nad oedd y cnwd yn uwch nag uchder pen-glin. Fe'i driliwyd ar 17 Gorffennaf 2024 gan ddefnyddio Dril Usk and Wye Foundation, sy'n dril Weaving mwy pwrpasol. Cafodd yr india corn ei gynaeafu ar 14 Hydref 2024, a chofnodwyd y deunydd sych a'r cynnyrch ar gyfer pob llain. Y 6 llain oedd:-

Llain 1 – GFS Megayield (50% Westerwolds a 50% Rhygwellt Eidalaidd) wedi'i ddrilio ar 15kg/erw
Llain 2 – Heb ei drin (Rheolaeth)
Llain 3 – 85% Ceirch y Gwanwyn a 15% Meillionen Goch wedi'u drilio @ 6kg/erw
Llain 4 – 50% Meillionen redegog goch gref a 50% Rhygwellt Eidalaidd wedi'i ddrilio @ 6kg/erw
Llain 5 – 10% Rêp Porthiant Gorilla, 45% Rhygwellt Eidalaidd diploid a 45% Rhygwellt Eidalaidd Tetraploid wedi'i ddrilio @ 6kg/erw
Llain 6 - 90% Ceirch Gwanwyn a 10% Rêp Porthiant wedi'i ddrilio @ 6kg/erw

Canlyniadau:

Cnydau gorchudd

Eginodd yr holl rywogaethau ym mhob un o'r lleiniau, felly roedd yr ymsefydlu’n llwyddiannus iawn gyda'r lleiniau’n parhau i dyfu'n dda dros fisoedd y gaeaf. Oherwydd nad oedd y cae yn cael ei chwistrellu â glyffosad cyn plannu, roedd planhigion a oedd yn tyfu ohono'i hun yn dechrau ymddangos, sy'n golygu nad oedd y ddaear yn foel yn y lleiniau heb eu trin.

Cyn drilio, lefelau nitrogen y pridd oedd 40kg/ha ac roedd y deunydd organig yn 4.7%.

Mesurwyd biomas pob llain ar ddiwrnod y cynhaeaf trwy gymryd pwysau ffres cwadrant 1m uwchben y ddaear, tabl 1.

Tabl 1. Data biomas ar gyfer pob llain. 

Llain

Biomas (kg)

Biomas (t / ha)

0.9

2

1

10 

2

20 

4 - Heb ei drin (rheolaeth)

5  

2

20

0.5

5

Gwelwyd y biomas uchaf yn lleiniau 3 a 5 a oedd â'r nifer fwyaf o rywogaethau llydanddail yn y cymysgeddau.

Ar ddiwrnod y cynaeafu, profwyd lefelau nitrogen a deunydd organig y pridd ym mhob llain, tabl 2.

Tabl 2. Lefelau nitrogen a deunydd organig y pridd

Plot

Nitrogen kgN / ha

Deunydd organig (%)

1

11

5

2

10

4.6

3

15

4.9

4

13

4.8

5

13

4.6

6

15

4.3

Roedd yr holl lefelau nitrogen wedi gostwng, felly nid oedd yr un o'r cymysgeddau wedi cynnal neu wella'r lefelau nitrogen yn y pridd. Fodd bynnag, rhaid ystyried bod y gaeaf yn wlyb iawn yn ystod y prosiect hwn, ac efallai ei fod wedi cyfrannu at y gostyngiad. Byddai'r cnydau gorchudd hefyd wedi cymryd nitrogen pridd yn ystod y broses dyfu, a byddid wedi disgwyl y byddai cymysgeddau â'r biomas uchaf wedi defnyddio mwy o nitrogen, gan leihau'r posibilrwydd o ddŵr ffo i gyrsiau dŵr.

Nid oedd yn bosibl bod yn bendant am unrhyw effeithiau'r cymysgeddau cnydau gorchudd ar nitrogen yn y pridd, gan nad oedd y llain heb ei drin mor foel yn y pen draw ag y cynlluniwyd yn wreiddiol. Ni welwyd unrhyw newidiadau sylweddol yn neunydd organig y pridd, ond o'r holl leiniau, llain 1 a ddangosodd y deunydd organig pridd uchaf, sef 5%.

Hau glaswellt o dan india corn

Eginodd pob llain o fewn 7 niwrnod ar ôl drilio, gyda'r holl rywogaethau wedi'u drilio'n egino’n llwyddiannus, gan gynnwys y meillion.

Mesurwyd y cynnyrch ar gyfer pob llain ar 14 Hydref 2024, tabl 3.

Tabl 3- Data cynnyrch ar gyfer pob llain. 

Llain

Cynnyrch - t / ha 

1

38.5

2

30.1

3

52.1

4

38.3

5

42.0

6

37.3

Gwelwyd y cynnyrch mwyaf yn llain 3, gyda chynnyrch o 21.1t/erw. Er y gallai hyn fod yn anghysondeb gan na wnaeth y feillionen goch oroesi ac ni wnaeth y ceirch gynhyrchu llawer iawn o orchudd daear. Roedd y cynnyrch isaf yn llain 2, gyda 12.2t/erw, sef y llai lle na heuwyd o dan yr india corn, ac roedd hyn 2.9t/erw yn llai na'r llain â’r cynnyrch isaf lle heuwyd o dan yr india corn.

Ym mis Ionawr 2025, cafodd y lleiniau eu profi am nitrogen a deunydd organig. Roedd gan bob un o'r lleiniau lai o nitrogen yn y pridd na chyn i'r india corn gael ei blannu, sy'n awgrymu nad oedd llawer o nitrogen wedi’i sefydlogi gyda'r gwahanol gymysgeddau a ddefnyddiwyd ar gyfer hau o dan y cnwd. Fodd bynnag, roedd yn ddiddorol gweld bod gan lain 2, lle na heuwyd o dan yr india corn, y nitrogen lleiaf yn y pridd ar 2kg N/ha, sy'n awgrymu bod hau o dan yr india corn mewn lleiniau yn helpu i gyfyngu ar rywfaint o drwytholchiad nitrogen. Roedd y deunydd organig wedi codi ychydig ym mhob llain, ond nid yn sylweddol.

O'r treial hau o dan india corn, gallwn ddod i'r casgliad mai'r cymysgeddau gorau i'w defnyddio wrth hau o dan india corn yw'r cymysgeddau glaswellt sy'n defnyddio IRG a Westerwolds. Yn ystod y prosiect hwn, effeithiwyd ar y meillion yn sylweddol gan y cemegion sydd eu hangen ar gyfer rheoli chwyn a'r rêp yr effeithiwyd arno gan ddifrod gwlithod. Tyfodd y ceirch yn dda er y gallai cyfradd hadau uwch fod wedi bod yn fuddiol i ganiatáu rhywfaint o gadeirio a mwy o orchudd daear. 
 

How to apply on your farm:

  • Cymerwch samplau pridd o'r cae i gywiro unrhyw anghydbwysedd cyn drilio.
  • Ystyriwch ddefnyddio glyffosad cyn plannu os nad ydych am fentro cael hadau sy’n tyfu’n wirfoddol yn ymddangos yn eich cnydau gorchudd.
  • Penderfynwch ar gymysgedd cnwd gorchudd addas / cymysgedd i’w hau o dan yr india corn i fodloni eich anghenion.
  • Mae amseru drilio hadau’n gywir yn bwysig ar gyfer llwyddiant ymsefydlu gorau posibl.