Ty Coch: Diweddariad prosiect - Gorffennaf 2024

Mae cae 5 erw wedi cael ei ddewis a bydd yn cael ei rannu’n 5 plot (ynghyd ag ardal reoli).

Mae rhygwellt yn ddewis poblogaidd gan ei fod yn sefydlu’n sydyn ac nad yw’n effeithio’n ormodol ar india-corn. Mae cymysgedd o rygwellt Westerwold a rhygwellt Eidalaidd yn ddewisiadau cyffredin. Un o’r ffactorau pwysig wrth ddethol rhywogaeth yw sicrhau bod y math o gnwd gorchudd yn cyd-fynd yn dda gydag india-corn. Ni ddylai’r cnwd gorchudd gystadlu’n ormodol gydag india-corn ar gyfer golau na datblygu pennau cyn cynaeafu.

Cafodd cnydau eu hau o dan yr india-corn ar y gwahanol blotiau ar 17 Gorffennaf. Erbyn hyn, roedd yr india-corn wedi cyrraedd y cyfnod twf 6-8 deilen, a oedd hefyd oddeutu wythnos ar ôl gwasgaru chwynladdwr; roedd yr india-corn wedi sefydlu’n ddigon da i allu delio gyda chystadleuaeth gan y cnwd gorchudd, ac felly’n barod i blannu.

Cafodd pob cnwd ei ddrilio’n uniongyrchol rhwng y rhesi India-corn gan ddefnyddio peiriant hau Weaving Magnum Seeder.

Gweler manylion y gwahanol blotiau triniaeth fel a ganlyn:

1. 50 % Westerwold
50 % Rhygwellt Eidalaidd (Tetraploid)

C. Rheolaeth

2. 85% Ceirch y Gwanwyn
15% Meillion Coch
Pecyn 20Kg wedi’i hau ar gyfradd o 15 Kg/Ha

3. 50% Peiswellt coch rhedegog
50% Rhygwellt Eidalaidd (Diploid)
Pecyn 1 Erw wedi’i hau ar gyfradd o 12.5 – 14 Kg/Ha

4. 10% Rêp Porthiant Gorilla
45% Rhygwellt Eidalaidd (Diploid)
45% Rhygwellt Eidalaidd (Tetraploid)
Pecyn 20Kg wedi’i hau ar gyfradd o 12.5 – 14 Kg/Ha

5. 90% Ceirch y Gwanwyn
10% Rêp porthiant
Pecyn 20Kg wedi’i hau ar gyfradd o 15 Kg/Ha

Rheoli chwyn

Yr egwyddor gyffredinol yw rheoli chwyn india-corn fel pe na bai’r cnwd gorchudd yn bresennol. Bydd trin chwyn bychain yn gynnar yn caniatáu ar gyfer defnyddio cyfraddau is o gemegau, llai o gost o ran chwynladdwyr, a llai o berygl o effeithio ar y cnydau sydd wedi’u hau o dan yr india-corn. Bydd dulliau rheoli chwyn yn cael eu pennu ar ôl sefydlu.

Camau nesaf:

Byddwn yn monitro llwyddiant y cnwd a heuwyd o dan yn india-corn bob mis drwy arsylwi’r cae gan edrych ar orchudd yn dilyn eginiad a chyn pori. Byddwn yn cynnal dadansoddiad pellach o’r pridd i  bennu’r prawf N-min a’r asesiadau VESS ar gyfer pob plot ym mis Rhagfyr.

Sefydlu gorchudd

Yn ogystal â hyn, ar ddechrau’r hydref, ac ar ôl cynaeafu cnwd grawn y gaeaf, bydd cnwd gorchudd yn cael ei sefydlu.  

Bydd y cymysgeddau canlynol yn cael eu defnyddio ar gyfer prosiect ac yn cael eu plannu mewn un cae mewn plotiau un erw.
1.    
80% Ceirch y Gaeaf
20% Ffacbys y Gaeaf

2. 
85% Ffacbys Coch
15% Meillion Berseem 

3. 
10% Meillion Balansa 
20% Rhuddygl
27.5% Ceirch y Gaeaf
27.5% Ffacbys y Gaeaf
5% Ffaselia
10% Mwstard Gwyn

4. 
17.5% Ffacbys y Gaeaf
7.5% Meillion Berseem 
70% Ceirch y Gaeaf
5% Mwstard Gwyn

5. 
15% Llinad
15% Gwenith yr hydd
5% Ffaselia
15% Rhuddygl
15% Rhuddygl porthiant
10% Mwstard Brown 
15% Ffacbys
10% Meillionen waetgoch

Mae’r dewis o gnwd gorchudd wedi cael ei arwain gan y canlyniadau dymunol. 
Mae’r prif fanteision yn cynnwys:

  • Sefydlogi nitrogen: Mae cnydau codlysiau megis meillion yn cyfrannu nitrogen atmosfferig i’r pridd, gan leihau dibyniaeth ar wrteithiau synthetig.
  • Gwella deunydd organig y pridd: Mae gwenith yr hydd, rhygwellt a rhywogaethau eraill sy’n tyfu’n sydyn yn gwella cynnwys deunydd organig y pridd, gan arwain at well strwythur ac ymdreiddiad dŵr yn y pridd.
  • Atal twf chwyn: Gall rhywogaethau mwstard leihau twf chwyn yn llwyddiannus o ganlyniad i’w nodweddion alelopathig, gan leihau’r defnydd o chwynladdwyr.
  • Cymeriant maetholion: Gall rhywogaethau gyda gwreiddiau dwfn megis rhuddygl amsugno maetholion o broffiliau pridd dyfnach a dod â nhw’n nes i’r wyneb ar gyfer cnydau dilyno, gan wella effeithlonrwydd maetholion.