Tyfu Rhyg yng Nghymru

Jamie McCoy - Swyddog Technegol Llaeth De Cymru

Mae prosiect yn edrych ar rôl tyfu Rhyg yng Nghymru ar gychwyn ar safle ffocws yn Llangors, Aberhonddu. Roedd y ffermwr, Alun Thomas a’i fab, Tudor yn chwilio am ddewis arall yn hytrach na pharhau i dyfu  Rhygwenith (Triticale),  fel y maent wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf fel rhan o’u cylchdro grawn. Roedd eu hagronomegydd yn cynghori bod Rhygwenith yn dod yn fwy a mwy agored i glefydau, yn enwedig ffyngoedd y gawod (rusts) ac fe awgrymodd y dylid ceisio tyfu Rhyg.

Nid yw Rhyg yn cael ei dyfu’n gyffredin yn y DU ac nid oes llawer o wybodaeth ynglŷn â’i berfformiad o ran sefydlu, mewnbynnau a chynnyrch, er bod sôn bod un ffermwr wedi adrodd llwyddiant gyda’r cnwd yn ystod blynyddoedd diwethaf.  Yn Awstralia, lle mae rhyg yn cael ei dyfu’n gyffredin, honnir bod rhyg yn fath mwy gwydn o rawn, sy’n  goddef sefyll mewn dŵr am gyfnodau, a hefyd yn ymdopi’n dda gyda chyfnodau o sychder - mae hefyd yn cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus i helpu i osgoi colledion maeth o’r pridd dros y gaeaf. Bydd y prosiect Cyswllt Ffermio’n cofnodi profiad y ffermwr o dyfu’r cnwd am y tro cyntaf, ynghyd â chofnodi costau’r holl fewnbynnau er mwyn cyfrifo cost cynhyrchu’r cnwd. 

Bydd cynnyrch yn cael ei ddadansoddi a bydd ansawdd bwydo’r grawn a’r gwellt yn cael ei feincnodi gyda grawn eraill a dyfir ar y fferm. Bydd y broses o gynnwys rhyg yn y ddogn ar gyfer da byw’n cael ei archwilio ar ôl cynaeafu, a bydd perfformiad da byw o’r grawn yn cael ei fesur, er mwyn gwerthuso pa mor dda mae’r rhyg yn perfformio fel grawn mewn system da byw yng Nghymru. Cadwch lygad am ddiweddariadau trwy gydol 2017.

Mae Alun yn hapus gyda’r ffordd y mae’r cnwd wedi sefydlu hyd yn hyn, ac er bod un ardal fechan o’r cae (mewn ychydig o bant) wedi cael ei niweidio rhywfaint gan wlithod, bydd hyn yn cael ei ddatrys gan ddefnyddio pelenni,  ac ni ragwelir unrhyw ddifrod tymor hir. Mae’r planhigion yn edrych yn iach ac maent i’w gweld yn ffynnu yn yr amgylchedd Cymreig hyd yn hyn.