Recriwtiwch brentis a thrawsnewid eich busnes drwy sicrhau'r sgiliau sydd eu hangen arnoch nawr ac yn y dyfodol.

 

Prentisiaethau

Mae gan Gymru Raglen Brentisiaeth hynod lwyddiannus, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â busnesau yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu ansawdd uchel, y llwybrau sgiliau cywir a'r lefel gywir o gymorth i helpu i sicrhau gwydnwch economaidd. Mae prentisiaethau yn rhan bwysig o Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru i bobl ifanc 16-24 oed.

Mae prentisiaethau yn ddewis doeth sy'n gallu:

  • Galluogi recriwtio cost-effeithiol – rydych chi’n talu cyflog y prentis ac rydym ni’n talu am gost yr hyfforddiant
  • Creu cronfa o dalent – gyda gweithlu medrus, cymwysedig 
  • Llenwi bylchau sgiliau – i fodloni eich gofynion presennol ac yn y dyfodol 
  • Helpu eich busnes i dyfu – p'un a ydych yn dewis recriwtio, ailhyfforddi neu adleoli eich gweithlu 
  • Eich helpu i gymryd rhan yn y Warant i Bobl Ifanc drwy eich cynorthwyo i greu cyfleoedd i bobl ifanc 16-24 oed gael mynediad i’r gweithle.

Os ydych yn newydd i brentisiaethau, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy'r ffurflen Mynegi Diddordeb a bydd Cynghorydd Ymgysylltu â Chyflogwyr yn cysylltu â chi.

Neu gallwch gysylltu â Darparwr Hyfforddiant

Gellir darllen Canllaw i Gyflogwyr ar Brentisiaethau. 

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithas – facebook: apprenticeshipscymru a twitter: apprenticewales


Recriwtio Prentis

Mae recriwtio prentis yn broses hawdd.

Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag

Rydym wedi datblygu Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag newydd sy’n caniatáu i chi hysbysebu unrhyw gyfleoedd am brentisiaethau.

Cyllid ar gael

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio pecyn sgiliau a swyddi sydd werth £40 miliwn er mwyn helpu cyflogwyr fel chi i recriwtio a hyfforddi gweithwyr newydd, gan gynnwys prentisiaid a phobl ifanc.

Help a chymorth

Cofrestrwch eich diddordeb yma i gael gwybod sut y gallai eich busnes elwa.

Darparu prentisiaethau yng Nghymru

Datblygwyd y polisi a'i gynllun gweithredu pum mlynedd mewn ymgynghoriad â busnesau, ac mae'n egluro sut y byddwn yn cefnogi cyflenwi'r ymrwymiad a wnaed yn ei maniffesto.

Straeon llwyddiannau busnesau

Mae Prentisiaethau yn cael effaith gadarnhaol ar fusnesau a'r economi changach ledled Cymru. Gwelch sut mae prentisiaid yn...

Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022

Gwobrau Prentisiaethau Cymru yw gwobrau mwyaf nodedig Cymru yn eu maes.

Prentisiaethau gradd

Cyfunwch gyfleoedd dysgu yn y gwaith â chymhwyster addysg uwch drwy gynnig Prentisiaeth Gradd.