2) Pori Cylchdro 1250tr uwch lefel y môr

Mae pori cylchdro yn seiliedig ar yr egwyddor o sicrhau mai unwaith yn unig y mae’r planhigyn glaswellt yn cael ei bori ac yna’n cael ei adael i orffwys i ail-dyfu ac i adfer ei storfeydd egni cyn cael ei bori’r tro nesaf.  Er mwyn cyflawni hyn, mae’r ardal yn cael ei bori am 2-3 diwrnod cyn symud y stoc a galluogi’r glaswellt i gael digon o amser i adfer, 16-24 diwrnod yn nodweddiadol. 

Mae gan Aberbranddu gaeau mawr sydd oddeutu 6ha ar eu bloc o dir mynyddig, felly byddai angen grŵp o 1000 o famogiaid a’u hŵyn i allu dilyn yr amser targed ar gyfer pori, ond er y byddai hynny’n bosibl, byddai’n gallu cael effaith negyddol ar dyfiant yr ŵyn.  Mae grwpiau rhwng 150-200 o famogiaid a’u hŵyn yn darged synhwyrol, wedi’i greu unwaith bod yr ŵyn oddeutu 3 wythnos oed. 

Ar gyfer y prosiect hwn, roedd 163 o famogiaid gyda gefeilliaid yn pori bloc 12ha (29 erw) o dir mynyddig wedi’i wella a oedd wedi’i rannu’n 9 padog yn cynnwys 6x1ha a 3x2ha.  Y rheswm dros gael dau faint gwahanol yw dangos effaith pori am 2-3 diwrnod o’i gymharu â phori am 4-5 diwrnod sy’n defnyddio llai ac yn cymryd mwy o amser i adfer. 

Fel mae graff 1 yn ei ddangos, roedd y system yn tyfu mwy o laswellt nag oedd ei agen yn ystod mis Mai, felly cafodd 2ha ei dynnu allan a’i gadw ar gyfer silwair.  Mae’r cynnydd mewn galw yn digwydd o ganlyniad i dyfiant yr ŵyn a’u trawsnewidiad o laeth i laswellt.  Yn ddiweddar o ganlyniad i dywydd oerach, mae’r tyfiant wedi bod yn is na’r galw, gan olygu bod y gorchudd glaswellt a’r 2ha o adladd silwair wedi cael ei ddefnyddio fel porfa ychwanegol gyda g weddillion is ar ôl pori o 1400kgDMha wedi’i dargedu ar gyfer y cylchdro olaf cyn diddyfnu oddeutu’r 10fed o Orffennaf. 

Gwnaed buddsoddiad o oddeutu £205/ha mewn ffensio ac offer dŵr, gan gynnwys dylunio a sefydlu’r system.  Mae’r ffensys yn gymysgedd o wifren ddur a gwifren polywire lled barhaol, wedi’i bweru gan fatri unigol wedi’i ddaearu’n iawn i sicrhau o leiaf 5000V yn y ffensys.  Mae’r cafn dŵr yn symud gyda’r ddiadell ac yn cael ei symud bob 2 badog. 

 

Cost y system

 

Ffensio

£1,180.00

 

Egniolydd

£200.00

 

Dŵr

£325.00

 

Dylunio a gosod

£700.00

 

Cyfanswm y gost

£2,405.00

 

Cost fesul Ha

£205.56

 

10 Year Write Down

£20.56

 

Mae’r costau ffensio yn cynnwys 1000m o Ffensys 3 Gwifren dros dro a ellir ei ddefnyddio ar gyfer pori yn y gaeaf.

 

 

Mae’r gyfradd stocio o 5/erw yn 50% yn fwy na’r hyn a fyddai wedi bod yn y cae fel arfer. Bydd pwysau’r ŵyn wrth ddiddyfnu’n cael ei gofnodi er mwyn gwerthuso eu tyfiant hyd yn hyn a bydd eu perfformiad yn cael ei fonitro ar ôl diddyfnu hyd at eu gwerthu.  Mae hefyd yn cynnig cyfle i fesur potensial Aberbranddu ar gyfer tyfu glaswellt dan reolaeth cylchdro er mwyn darparu model ar gyfer is-rannu ymhellach.

 

Graff 1. Ffigyrau Tyfiant v Galw ar fferm Aberbranddu